Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch am y sylwadau. Byddaf yn dechrau gyda'r pwyntiau diwethaf yr oeddech yn eu gwneud am eithriadoldeb clinigol a / neu angen. Y gwir amdani yw bod gennym system eisoes sy’n darparu tystiolaeth ar yr hyn y dylid ei ddarparu. Mae angen yn sicr yn rhan ohoni—a yw’n rhywbeth sy'n glinigol effeithiol—ond ni allwch ddianc rhag realiti adnoddau hefyd. Mae gan y GIG gyllideb i weithio iddi ym mhob rhan o'r ddadl a phob system gofal iechyd. Os ydym yn syml yn dweud nad oes ots beth yw’r pris—. Rydym yn rheolaidd yn cael trafodaethau gyda chwmnïau fferyllol am gynlluniau mynediad i gleifion, ac, mewn gwirionedd, o fewn Cymru, ers iddo gael ei gyflwyno yn 2012, trwy gyflwyno cynllun mynediad i gleifion lle mae'r cwmni fferyllol yn cytuno i newid eu pris i gael mynediad. Mae hyn yn golygu bod 36 meddyginiaeth newydd ar gael yng Nghymru o ganlyniad i hynny. Felly, mae’n rhaid i ni bob amser allu cydbwyso hynny yn iawn, ac os ydym yn mynd i gael dadl onest am ddyfodol meddyginiaethau cost uchel, mae angen i ni nodi—. Ond mae adegau pan mae’n rhaid i chi siarad â chwmnïau fferyllol am bris darparu meddyginiaeth. Roedd hyn yn rhan o'r rheswm pam y methodd y gronfa cyffuriau canser oherwydd nad oedd unrhyw reolaeth dros brisio, yn ogystal â diffyg rheolaeth dros y dystiolaeth glinigol bod triniaeth yn mynd i fod yn effeithiol mewn gwirionedd.
Y rheswm pam mae eithriadoldeb yn dal yno yw ein bod yn adolygu ein sefyllfa ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi bod yn gwbl glir yn y cylch gorchwyl, os bydd y grŵp adolygu yn credu nad eithriadoldeb yw'r maen prawf priodol a bod ffurfio gwell ar hynny, yna rydym am glywed ganddynt. Rwyf eisiau i’r argymhellion a wnaf fod yn wirioneddol ymarferol i ni hefyd. Ac, yn wir, os ydynt yn dweud ei fod yn faen prawf cywir, ar gyfer pob un o'r heriau ynghylch eithriadoldeb, mae angen i ni ddeall sut i ymdrin â hynny yn fwy effeithiol.
Mae hynny'n mynd yn ôl at eich pwynt cyntaf, mewn gwirionedd, ac mae hynny’n ymwneud â’r berthynas rhwng yr ymgynghorydd a'r claf. Rydym wedi bod yn hynod glir eto yn y cylch gorchwyl—mae’n rhaid i ni ddeall hynny gyda’r rhyngwyneb hwnnw, pan fydd rhywun eisiau deall beth yw’r opsiynau triniaeth a beth sydd ar gael, mae’n rhaid cael ffordd y gall yr ymgynghorydd sy’n trin y claf a’r claf ei hunan ddeall beth sydd ar gael a pham. Ac os ydych yn mynd i fynd drwy gais ariannu unigol, mae angen deall beth mae hynny’n ei olygu hefyd. Felly, mae’n rhaid i ni arfogi ein clinigwyr i gael y sgyrsiau anodd hynny yn y modd mwyaf cyson ag y bo modd, fel nad yw pobl yn meddwl mai naill ai ardal y bwrdd iechyd lle maent yn byw neu'r ymgynghorydd y maent yn ei weld sydd mewn gwirionedd yn rheoli’r hyn yw eu mynediad at driniaeth effeithiol. Felly, mae hynny'n bwysig iawn ac yn her anodd iawn i ni.
Yn olaf—rwy’n gorffen gyda’r pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd—cefais gyfarfod adeiladol iawn ddoe â Chynghrair Canser Cymru, ac roedd ganddynt ddiddordeb yn fy natganiad heddiw. Nodais na fyddwn yn rhoi copi ymlaen llaw iddyn nhw o'r hyn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud nag o aelodaeth o banel yr adolygiad IPFR, ond mae ganddyn nhw ddiddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud ac maent, hefyd, yn dal yn awyddus i weld mwy o gysondeb. Maent eisiau iddi fod yn broses a arweinir gan dystiolaeth, ond ni chafwyd cefnogaeth chwaith i broses a oedd yn rhoi mantais i’w grŵp nhw o gyflyrau dros eraill. Felly, roedd cael y tegwch gwirioneddol hwnnw ar draws y darn a chael sylfaen dystiolaeth wirioneddol i reoli'r hyn yr ydym yn ei wneud yn wirioneddol bwysig iddynt hefyd. Felly, mae amrywiaeth eang o actorion yn y maes sydd yn edrych ar yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud a pham, ac edrychaf ymlaen at glywed gan y panel adolygu yn y dyfodol cymharol agos.