Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i longyfarch ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd a gynrychiolodd Dîm GB a Pharalympaidd GB yn gemau Rio 2016. Rwy'n arbennig o falch y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad cyhoeddus y tu allan i'r Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gan roi cyfle i bobl o bob rhan o Gymru dalu teyrnged i'w holl athletwyr, eu hyfforddwyr a staff cymorth. Gallwn i gyd fod yn falch iawn o'u perfformiadau a'r ffordd yr oeddent yn ymddwyn fel llysgenhadon gwych dros chwaraeon a thros Gymru.
Ar y cyfan, roedd 15,000 o athletwyr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni yn Rio—anrhydedd a chyflawniad aruthrol i bawb a’r sefydliadau chwaraeon, wrth gwrs, sy'n eu cefnogi. Cafodd y gemau sylw byd-eang a chyflawnodd yr athletwyr rai perfformiadau syfrdanol. Y tu ôl i’r perfformiadau hynny, wrth gwrs, mae blynyddoedd o hyfforddiant a gwaith caled wrth wneud yn eu paratoadau. Mae eu penderfyniad ac awydd i lwyddo yn ymgorffori gwerthoedd chwaraeon ac yn eu gwneud yn fodelau rôl gwych ar gyfer y genhedlaeth nesaf ac yn llysgenhadon dros eu camp a'u gwlad.
O ran perfformiadau ein hathletwyr o Gymru yn Rio, gallwn ddweud bod ein buddsoddiad mewn datblygu chwaraeon elitaidd drwy Chwaraeon Cymru yn parhau i ddwyn ffrwyth. Enillodd athletwyr Cymru 18 medal ar draws y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac mewn ystod eang o chwaraeon, gan ragori ar ein disgwyliadau a darparu rhai eiliadau chwaraeon hudolus ar gyfer chwaraeon Cymru a Phrydain. Gwelodd gemau Rio genhedlaeth newydd o athletwyr o Gymru ar y llwyfan chwaraeon mwyaf yn y byd a gwnaeth llawer o ddechreuwyr gryn effaith.
Yn y Gemau Olympaidd, roedd gan Gymru 23 o athletwyr yn cystadlu mewn 11 o gampau, sydd dros 14 y cant o gyfanswm Tîm GB. Torrodd ein hathletwyr record byd yn y ras tîm beicio ymlid a llwyddwyd i amddiffyn teitl unigol mewn taekwondo. Tîm GB oedd y wlad gyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd modern i gynyddu ei chyfrif o fedalau yn union ar ôl bod y wlad i gynnal y gemau.
Yn y Gemau Paralympaidd, enillwyd dwy o fedalau aur yn fwy nag yn Llundain 2012 ac enillwyd medalau mewn mwy o chwaraeon. Roedd 26 o athletwyr yn cystadlu, a oedd yn rhagori ar ein targed, ac roedd naw o'r rhain yn Baralympiaid am y tro cyntaf ac enillodd dri ohonynt fedal yn eu gemau cyntaf. Mae hynny'n dipyn o gamp. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno ymgyrch newydd i nodi athletwyr Paralympaidd newydd, o'r enw Beth yw Eich Potensial? ac mae dros 50 o athletwyr yn cael eu monitro a'u datblygu.
Mae cael athletwyr mwy talentog drwy'r system ac ymlaen i raglenni GB yn allweddol i'n llwyddiant yn y dyfodol ac mae mwy a mwy o wledydd yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i athletwyr medalau posibl. Felly mae'n bwysicach byth bod llwybrau o ansawdd wedi’u sefydlu a all helpu i gynhyrchu enillwyr medalau yn y dyfodol.
Er ein bod yn wlad gymharol fach, rydym yn bwerdy yn y byd chwaraeon, gan barhau i anelu'n uchel wrth i’n hyder a’n proffil dyfu. Mae gennym nifer o bencampwyr byd a llif cyson o athletwyr sy'n gallu cystadlu ar y lefel uchaf a fydd yn awr yn gosod eu bryd ar Gemau'r Gymanwlad yn y Traeth Aur, Awstralia, mewn ychydig dros 18 mis. Hwn fydd y cyfle nesaf iddynt gystadlu a chynrychioli Cymru mewn digwyddiad aml-chwaraeon. Rwy’n hyderus y byddant yn llwyddo i gynhyrchu canlyniadau y gallwn fod yn falch ohonynt. Dymunwn yn dda iddynt i gyd.
Mae’n rhaid i bob athletwr elitaidd llwyddiannus ddechrau yn rhywle, fel arfer o fewn lleoliad cymunedol, a dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd chwaraeon mwy ac o well ansawdd ar lefel gymunedol leol. Mae mwy o gyfranogiad yn helpu i fagu talent a llwyddiant, a hoffwn ddiolch i'n holl athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd o Gymru am helpu i ysbrydoli a chymell pobl ledled Cymru. Mae eu perfformiadau yn symbol o bopeth sy’n wych ac ysbrydoledig am y traddodiad Olympaidd ac mae'n bleser mawr ac yn fraint i gael cyfle i longyfarch pob un ohonynt. Mae Cymru gyfan yn talu teyrnged iddynt.