Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 27 Medi 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, yn anad dim, rwy’n cydnabod y llongyfarchiadau y mae wedi’u rhoi i’r oes aur, yn ei eiriau ef, sydd yn ddyledus, i raddau helaeth, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru wrth gwrs, yn ogystal ag UK Sport ac, yn wir, Chwaraeon Cymru. Ond canlyniad canolbwyntio di-baid gan Lywodraeth Cymru ar godi safonau chwaraeon ysgolion, trwy 5x60 a Champau'r Ddraig—unwaith eto, y ddau wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru—yw ein bod wedi gallu cyflawni cynnydd mewn cyfranogiad ymhlith pobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod gwaith ardderchog Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae'n galonogol.
O ran y penderfyniad ar Gemau'r Gymanwlad a sefyllfa'r awdurdodau lleol, dwi ddim yn siŵr pam na all yr Aelod ystyried yr hyn a ddywedais y tro diwethaf, sef bod yr awdurdodau lleol y mae’n cyfeirio atynt mewn gwirionedd ar y grŵp llywio a benderfynodd ar botensial Gemau'r Gymanwlad. Ac nid oeddent ar unrhyw adeg yn gallu cyfrannu’r adnoddau yr ydych chi’n dweud y dylai fod wedi bod ganddynt. Os ydych yn credu y dylai awdurdodau lleol fod wedi cynnig arian, mae angen i chi nodi o ble yn eu cyllidebau y byddai’r arian wedi dod.
Ar ben hynny, ai eich safbwynt chi, fel plaid, yw eich bod yn dymuno gwario £1.3 biliwn i £1.5 biliwn i gynnal Gemau'r Gymanwlad? Ai dyna eich safbwynt? Oherwydd mae ein safbwynt ni yn glir iawn, yn y cyd-destun presennol o dynhau adnoddau cyhoeddus, bod cost o'r fath yn anodd i'w hysgwyddo. Yn lle hynny, rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn dymuno ceisio dylanwadu ar newid mawr yn rheolau Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad a fyddai'n galluogi gemau deuol ac aml-ganolfan i ddigwydd. Byddai hynny'n ein galluogi nid yn unig i gynnal y gemau unwaith, sef dyhead yr Aelod—dim ond unwaith mewn oes—ond, o bosibl, ar sawl achlysur mewn oes. Siawns bod rhoi sylw cyson i chwaraeon elitaidd yn llawer gwell wrth gymell pobl i fod yn gorfforol egnïol yn ystod eu hoes na dim ond un digwyddiad pythefnos yn ystod eu hoes.
O ran adnoddau a ffioedd caeau chwarae, rwy’n cydnabod mewn rhannau o Gymru—a gwn fod fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi codi hyn gyda mi yn yr etholaeth hon—bod ffioedd caeau chwarae yn rhy uchel. Dywedasom, yn y maniffesto ar gyfer ein plaid yn yr etholiad, ein bod yn dymuno gweld, drwy lythyrau cylch gwaith, mwy o swyddogaeth yn cael ei rhoi ar fuddsoddi mewn pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Roedd yn addewid a oedd yn rhan o'r maniffesto a arweiniodd at ein hethol ni a'n Llywodraeth ni. Hoffem weld yr addewid hwnnw yn cael ei wireddu, nid yn unig gan Chwaraeon Cymru, ond gan gyrff llywodraethu cenedlaethol, ac mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Ond, rydym hefyd yn awyddus i gyflwyno—ac efallai bod yr Aelod yn ymwybodol o addewid arall yn ein maniffesto—cronfa her benodol ar gyfer sefydliadau chwaraeon cymunedol a chelfyddydau cymunedol a digwyddiadau a gweithgareddau. Felly, rydym ni, yn fwy nag erioed o'r blaen, wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl ifanc, nid yn unig mewn chwaraeon, ond hefyd mewn mathau eraill o weithgaredd corfforol. Rydym yn dymuno cael Cymru i symud ac rydym yn dymuno sicrhau bod ein llwyddiant mewn gemau aml-chwaraeon rhyngwladol yn parhau.