Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 27 Medi 2016.
O ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, ac yr wyf yn cytuno’n llwyr ag ef, ynghylch pa mor bwysig yw hi bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn chwarae mwy o ran wrth ddwyn y BBC i gyfrif, a gan y bydd gan Lywodraeth Cymru ran uniongyrchol i’w chwarae yn y broses o benodi aelod bwrdd y BBC, a ydych chi’n cytuno â mi y byddai'n ddymunol i bwyllgor diwylliant y Cynulliad chwarae rhan uniongyrchol wrth gynnal gwrandawiadau ar y rhai sy’n gwneud cais am y swydd honno?