Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 27 Medi 2016.
Yn amlwg, mae sut y mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes yn fater i'r Cynulliad ac nid yn fater i’r Llywodraeth [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. Byddwn yn petruso—byddwn yn petruso—i sefyll yma fel aelod o'r Weithrediaeth ac awgrymu i bwyllgorau sut y maent yn dwyn y Weithrediaeth ac eraill i gyfrif. Rwy’n credu bod llawer o dalent, gwybodaeth a sgiliau yn y Siambr hon a byddwn yn gwahodd yr holl dalent honno i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datblygu yn briodol—[Torri ar draws.] Ildiaf i arweinydd y Ceidwadwyr os yw'n dymuno i mi wneud hynny.