Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 27 Medi 2016.
Rwyf yn dweud wrthych—nid wyf yn anghytuno â hanfodion ei bwynt—ond rwyf am ddweud wrtho ei bod yn briodol mai materion i'r Cynulliad Cenedlaethol ac nid i'r Llywodraeth yw’r materion hynny. Mae'n gwbl hanfodol i mi fod y rhaniad rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cael ei barchu a bod y ddeddfwrfa ei hun yn penderfynu sut y mae'n gweithredu, yn hytrach na fy mod i’n gwneud awgrymiadau, a allai neu a allai beidio â chael eu derbyn yn dda.
Fe orffennaf drwy ddweud hyn: rwyf yn gobeithio ein bod yn sefydlu ffordd newydd ymlaen; ffordd ymlaen a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i gael darlledwr cyhoeddus bywiog yn y Deyrnas Unedig; darlledwr sy'n adlewyrchu bywyd y Deyrnas Unedig gyfan, ble bynnag yr ydym a ble bynnag yr ydym yn byw; darlledwr sy'n adlewyrchu y Deyrnas Unedig iddi ei hun ac sy’n hyrwyddo’r Deyrnas Unedig i'r byd. Mae materion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â nhw a byddwn yn parhau i fod angen mynd i'r afael â nhw yn dilyn y siarter hon, o ran adolygiad canol tymor, setliad ffi'r drwydded a newidiadau eraill i'r cytundeb fframwaith. Ond yr hyn sydd gennym yn y fan yma yw cyfle i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau yn y Deyrnas Unedig, yn agored ac yn rhydd; i sicrhau bod gennym atebolrwydd ac i sicrhau bod yr atebolrwydd hwnnw i sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hwnnw'n egwyddor bwysig yr ydym wedi gwneud cynnydd arni yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.