Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 27 Medi 2016.
Hoffwn ategu'r hyn a ddaeth o feinciau cefn y Blaid Lafur. Rwyf yn credu ei bod yn egwyddor sylfaenol, pan fyddwch wedi treulio rhan fawr o'ch araith yn siarad am swyddogaeth y Cynulliad yn craffu ar y BBC, y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar ei gweithredoedd ei hunan, a darparu ateb yma a fyddai’n ymgorffori'r pwyllgor diwylliant, neu un o gyrff y Cynulliad hwn, yn y broses benodi honno, fel yr ydych yn ei wneud gyda chomisiynwyr ar hyn o bryd.