Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 27 Medi 2016.
Ni fydd gennyf amser, mae'n ddrwg gennyf—fel arall, ni fyddaf yn llwyddo i ddod i ben.
Mae Plaid Cymru wedi cynnig pum gwelliant i gynnig Llywodraeth Cymru. Mae gwelliannau 1 a 2 yn ymwneud ag S4C. Rydym yn falch y cyfeirir yn gadarnhaol at y sianel yn y cytundeb fframwaith, yn enwedig nod cyffredin S4C a'r BBC o gydweithio i ddiogelu annibyniaeth ei gilydd. Byddem hefyd yn hoffi i Lywodraeth y DU sicrhau bod yr adolygiad o gylch gwaith a threfniadau ariannu S4C y flwyddyn nesaf yn ystyried y lefel a’r ffordd fwyaf priodol o’i hariannu yn y tymor hir. Felly, mae’n rhaid inni ystyried y DCMS—mae arian Llywodraeth y DU yn y pair yma hefyd. Felly, rydym eisiau iddi fod yn annibynnol, rydym eisiau iddi gael ei diogelu ac rydym ni eisiau iddi gyflwyno rhaglenni o ansawdd uchel am flynyddoedd i ddod. Dylai gwella ei chylch gwaith fynd beth o’r ffordd tuag at gyflawni hynny.
Felly, mae'r Cynulliad yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw S4C, nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond i'r economi ehangach hefyd. Mae'r sianel wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran cyflenwi swyddi sy'n talu'n dda mewn ardaloedd y tu allan i Gaerdydd, a hoffem weld mwy o hynny.
Rydym hefyd yn bryderus iawn am y drwydded arian gwastad, fel y soniais yn gynharach—y cytundeb arian gwastad o ran ffi'r drwydded. A fydd hynny’n effeithio ar yr ymrwymiadau a wnaed yn y siarter ddrafft i gynulleidfaoedd yng Nghymru? Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y mis hwn y bydd angen iddi ddod o hyd i arbedion o £9 miliwn bob blwyddyn erbyn 2022 er mwyn ymdopi â’r cytundeb arian gwastad o ran ffi’r drwydded. Mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi dweud ei fod yn gobeithio cyfyngu ar yr arbedion mewn meysydd cynnwys i tua £3 miliwn dros bum mlynedd. Cawsom nifer o addewidion gan gyfarwyddwr cyffredinol y BBC ym mis Mai eleni, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae’n rhaid i'r arian newydd a addawyd fod yn ychwanegol, fel y dywedais yn gynharach, ac nid dim ond talu am ran neu’r cyfan o'r arbedion a amlinellwyd gan BBC Cymru Wales yn ei datganiad diweddaraf.
Fel yr ydym wedi clywed y Gweinidog yn ei ddweud, a byddaf yn gorffen gyda hyn, mae Ofcom bellach yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn cyflawni ar yr ymrwymiadau a amlinellir yn y siarter. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen iddo ddeall beth y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gan y BBC yn ystod cyfnod y siarter nesaf, a dyna pam yr wyf wedi gofyn i Ofcom ddod i’n pwyllgor i roi tystiolaeth glir o ran sut y maent yn gweld eu swyddogaeth o reoleiddio’r BBC yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn falch o fod wedi clywed mewn digwyddiad diweddar ym Mae Caerdydd y bydd aelod dros Gymru ar brif fwrdd canolog Ofcom, fel y gallwn gael mewnbwn yn y fan honno hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn enwedig gyda chwestiynau o ran lluosogrwydd y cyfryngau yma yng Nghymru, gydag anawsterau posibl mewn busnesau newydd—mae’r 'Port Talbot Magnet' wedi dweud na fydd yn gallu parhau fel papur newydd ar-lein ac argraffedig yn fy rhanbarth i—mae'n rhaid i ni barhau i roi pwysau, nid yn unig ar ddarlledwyr ond ar y cyfryngau yn gyffredinol, a dangos iddynt ein bod ni o ddifrif ac y byddwn yn eu dwyn i gyfrif. Diolch yn fawr.