Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, rwy’n cytuno â bron bob gair sydd wedi’i ddweud yn y ddadl hon hyd yn hyn ac rwy’n cymeradwyo rhagarweiniad aeddfed, addas i wladweinydd, y Gweinidog o ran swyddogaeth y BBC ym mywyd cenedlaethol ein gwlad. Mae llawer gormod o ganolbwyntio, fel y mae pawb yn cytuno, ar Lundain yn y BBC, er eu bod wedi gwneud rhai symudiadau tuag allan yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llwyddiant symud yr adran newyddion i fyny i Salford yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag ychydig o ddychymyg. Wrth i mi edrych allan dros y bae yn y fan yma, rwy’n meddwl tybed pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg o ran safle Porth y Rhath. Mae digon o botensial yno.
Y broblem yn y blynyddoedd diwethaf, i raddau helaeth—o fewn cyllideb sylweddol iawn yn y DU ar gyfer y BBC—oedd bod y swm o arian sydd wedi bod ar gael ar gyfer darlledu rhanbarthol a chenedlaethol wedi ei dorri. Mae BBC Cymru wedi cael toriad o 16 y cant yn y blynyddoedd diwethaf ac mae S4C yn arbennig, rwy’n credu, wedi cael cryn frwydr i ymdopi â'r gostyngiad yn ei chyllideb ei hun. Mae’n rhagorol, wrth ymweld â nhw, gweld pa mor ddarbodus y maent yn gweithredu. Mae ansawdd y rheolwyr yno, yn fy marn i, yn ardderchog. Maent wedi gorfod ymdopi â thoriad o £101 miliwn y flwyddyn i £82 miliwn yn y gyllideb yn ystod y pum mlynedd diwethaf, wrth i ni symud o gyllid yr adran ddiwylliant i gyllid y BBC, a bu toriad o 26 y cant yn 2015 i’r grant bach y maent wedi ei gadw gan DCMS. Felly, maent wedi cael toriad o 36 y cant yn y gyllideb gyffredinol.
Mae hwnnw’n ostyngiad enfawr mewn incwm i ddarlledwr cymharol fach. O ystyried y swyddogaeth unigryw sydd gan S4C fel yr unig ddarlledwr Cymraeg ei iaith ym myd teledu, rwy’n meddwl bod yr hyn y maent wedi ei gyflawni yn arwyddocaol. Ond, mae'n drueni eu bod wedi gorfod ymdopi â’r anawsterau hynny. Rwy’n gobeithio y gallwn ystyried hynny yn y newidiadau a fydd yn digwydd, o bosibl, o ganlyniad i’r diwygio hwn i’r siarter.
Cyfeiriwyd at yr effeithiau ar S4C yn adroddiad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad, ac mae’r heriau y maent wedi gorfod eu goresgyn wedi eu nodi’n helaeth. Ond, yr hyn y mae ei angen arnom, rwy’n credu, yn y dyfodol ar gyfer S4C, yw nid dim ond cyfres o doriadau neu benderfyniadau mympwyol ar gyllid, ond adolygiad trylwyr parhaus o'r egwyddorion sy'n sail i’r modd y mae S4C yn mynd i gael ei hariannu. Rwy’n cytuno â'r dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor hwnnw yn ystod y Cynulliad diwethaf gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a ddywedodd nad yw wir yn dderbyniol bod adran yn Whitehall, gyda Gweinidog nad yw'n cynrychioli Cymru, yn gwneud y penderfyniad am yr unig sianel Gymraeg sy’n bodoli. Felly, mae'n iawn y dylai'r Cynulliad hwn gymryd y swyddogaeth o ddwyn y darlledwyr cyhoeddus yng Nghymru i gyfrif, ond hefyd i fod yn allweddol wrth wneud polisïau darlledu ar gyfer y sefydliadau hyn.
Felly, rwy’n cefnogi, ac mae fy mhlaid yn cefnogi, yr hyn a ddywedwyd gan bobl eraill yn y ddadl hon heddiw. Byddwn ni, heddiw, yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig hwn hefyd, er nad ydym mewn gwirionedd yn rhannu'r farn ar yr hyn a ddisgrifir yn
‘ganlyniadau cyllideb y ffi drwydded “arian gwastad” newydd’.
Mae'n rhaid i ni gofio bod hyn yn dreth ar bobl Prydain. Ar adeg o gyni, fel y dywedir wrthym, mae ffi'r drwydded yn cael effaith sylweddol ar incwm pobl nad ydynt yn cael fawr iawn o gyflog. Serch hynny, rydym yn mynd i gefnogi pob un o'r gwelliannau y mae Plaid wedi eu cyflwyno y prynhawn yma.
Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sy'n cael ei gadeirio mor fedrus gan yr egin aelod hwn o’r sefydliad gyferbyn, rwy’n gobeithio chwarae fy rhan nid dim ond yn y trafodaethau yn y dyfodol, ond, gobeithio, yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Lee Waters yn gynharach, yn yr hyn y gallech ei alw’n wrandawiadau cadarnhau, hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r Cynulliad hwn gyflawni’r swyddogaeth graffu mewn modd ystyrlon. Ie, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd cymeradwyo penodiad yr unigolyn sy'n mynd i gynrychioli Cymru yn strwythur y BBC, ond rwy’n credu y dylai’r Cynulliad hwn gael rhyw fath o bŵer cydbenderfynu yn hynny o beth. Mae hyn i gyd yn rhan o'r Cynulliad hwn, efallai, yn profi ei bwerau a darganfod beth fydd ei wir gryfderau.
Felly, mae'r siarter yn ddechreuad newydd i'r BBC, ond mae’n cael dechreuad newydd bob 10 mlynedd. Rwy’n credu bod yr hyn a gynigir yn y newidiadau yn well yn ddi-os na’r hyn yr ydym wedi ei weld yn y gorffennol; felly, bydd fy mhlaid yn eu cefnogi. Diolch.