Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Fe wnaethoch chi grybwyll yr hyn y mae ein hetholwyr a’n gwylwyr yn ei gael ledled Cymru. Un o'r pryderon gwirioneddol, ni waeth am beth yr ydym yn ei drafod yma heddiw, yw'r gynulleidfa sy’n dirywio y mae gwasanaethau'r BBC yn ei chyrraedd mewn gwirionedd ledled Cymru, gan gynnwys materion cyfoes a’i gwasanaethau newyddion a’i gwasanaethau radio. Yn anffodus, mae ei chynulleidfaoedd yn y ddwy iaith yn dirywio, ac mae angen sylfaenol iddi edrych ar sut y cyflawnir y gwasanaethau hynny, er mwyn i gynulleidfaoedd gael eu denu yn ôl at y gwasanaeth hwnnw.