<p>Teithiau Addysg Dramor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:30, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Fe fydd hi’n gwybod, rwy’n siŵr, am farwolaeth drychinebus Glyn Summers, a fu farw tra roedd ar daith coleg i Barcelona yn 2011. Ac er y byddai pawb yma, rwy’n siŵr, yn cytuno y dylem roi pob cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr deithio dramor gyda’u hysgolion a’u colegau, rwy’n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno bod rhaid i ddiogelwch fod o’r pwys mwyaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod y canllawiau cyfredol yn mynd yn ddigon pell, ac a yw’n fodlon gyda’r prosesau cyfredol sydd ar waith ar gyfer pan fydd pethau’n mynd o chwith? A wnaiff hi ystyried a ddylid gwneud y canllawiau hyn yn rheoliadau, neu’n ddeddfwriaeth hyd yn oed, er mwyn sicrhau bod diogelwch myfyrwyr a disgyblion yn cael ei warantu cystal ag y bo modd? Ac a wnaiff hi hefyd ystyried y ffordd orau i ni sicrhau tryloywder llawn i rieni a theuluoedd, fel teulu Glyn, pan fydd pethau’n mynd o chwith mor drychinebus?