1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 28 Medi 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganllawiau diogelwch ar gyfer teithiau addysg dramor? (OAQ(5)0020(EDU)
Diolch i chi, Steffan. Mae’r cyngor diweddaraf ar deithiau tramor yn cael ei gynhyrchu gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Cyfeirir at y cyngor hwn hefyd yn y canllawiau Cymru gyfan ar gyfer ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gellir dod o hyd i’r cyngor o wefan Llywodraeth Cymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Fe fydd hi’n gwybod, rwy’n siŵr, am farwolaeth drychinebus Glyn Summers, a fu farw tra roedd ar daith coleg i Barcelona yn 2011. Ac er y byddai pawb yma, rwy’n siŵr, yn cytuno y dylem roi pob cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr deithio dramor gyda’u hysgolion a’u colegau, rwy’n siŵr y byddem i gyd hefyd yn cytuno bod rhaid i ddiogelwch fod o’r pwys mwyaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod y canllawiau cyfredol yn mynd yn ddigon pell, ac a yw’n fodlon gyda’r prosesau cyfredol sydd ar waith ar gyfer pan fydd pethau’n mynd o chwith? A wnaiff hi ystyried a ddylid gwneud y canllawiau hyn yn rheoliadau, neu’n ddeddfwriaeth hyd yn oed, er mwyn sicrhau bod diogelwch myfyrwyr a disgyblion yn cael ei warantu cystal ag y bo modd? Ac a wnaiff hi hefyd ystyried y ffordd orau i ni sicrhau tryloywder llawn i rieni a theuluoedd, fel teulu Glyn, pan fydd pethau’n mynd o chwith mor drychinebus?
Diolch i chi, Steffan. A gaf fi fanteisio ar y cyfle i gynnig fy nghydymdeimlad â theulu Glyn yn wyneb y golled enbyd y maent wedi’i dioddef? Gwn eu bod yn cael eu cymell gan ymdeimlad o allgaredd i sicrhau bod y rheoliadau cystal ag y gallant fod, fel na fydd raid i unrhyw deulu ddioddef yr hyn y maent hwy wedi’i ddioddef.
Rwy’n ymwybodol fod swyddfa’r Prif Weinidog yn parhau i edrych ar rai o’r materion sy’n codi ynglŷn â’r modd y cafodd yr achos penodol hwn ei drin, a gofynnodd y cyn-Weinidog addysg i Estyn gynnal adolygiad thematig ar faterion sy’n ymwneud â sut y mae colegau addysg bellach yn ymddwyn ac yn cynnal teithiau. Ar y pryd, credai Estyn nad oedd unrhyw fethiannau systematig, ond yn amlwg, roedd pethau wedi mynd o chwith yn yr achos penodol hwn. Fel y dywedais ar y pryd, y gred oedd nad oedd angen rhoi camau pellach ar waith. Yn bennaf, deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw hon, mater nad yw wedi’i ddatganoli. Ond os oes gan yr Aelod enghreifftiau penodol o sut y mae’n teimlo nad yw’r canllawiau cyfredol mor gryf ag y gallant fod, a bod pŵer gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i newid hynny, byddai fy swyddogion a minnau yn hapus i edrych ar gynigion penodol y gallai eu cyflwyno.
Yn yr Eglwys Newydd, mae gennym gwmni o’r enw Schools into Europe, a dywedodd y cyfarwyddwr yno wrthyf fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr ysgolion sy’n cynnal teithiau tramor, ac mae’n credu bod hynny’n rhannol oherwydd y dryswch ynghylch canllawiau diogelwch teithio, ac ysgolion yn mabwysiadu eu rheolau ad hoc eu hunain ynglŷn ag a yw’n ddiogel i deithio neu beidio. Felly, yn dilyn ei hateb i’r cwestiwn blaenorol, a fyddai hi’n gallu sicrhau mwy o eglurder i ysgolion, ac i awdurdodau lleol, mai’r canllawiau diffiniol yw canllawiau’r Swyddfa Dramor, yn hytrach na chael canllawiau unigol, sydd weithiau’n creu cymysgwch braidd o’r canllawiau mewn gwirionedd, ac efallai’n lladd awydd ysgolion i drefnu yr hyn y gwyddom eu bod yn deithiau gwerthfawr iawn?
Diolch i chi, Julie. Rwy’n ddiolchgar i chi a Steffan am gydnabod pwysigrwydd teithiau ysgol ac ymweliadau tramor fel rhan o gwricwlwm cyffrous y gallwn ei gynnig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn rhan bwysig o addysg. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n trefnu teithiau ysgol fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau rheoli risg synhwyrol ar waith ar gyfer trefnu a chynllunio gweithgareddau.
Ond o ystyried y pryderon a nodwyd, byddaf yn sicr, Julie, yn gofyn i fy swyddogion atgoffa ysgolion ac awdurdodau lleol o’r angen i gyfeirio at y cyngor diweddaraf ar deithiau tramor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wrth gynllunio teithiau tramor. A bydd fy swyddogion hefyd yn tynnu eu sylw at ganllawiau cynhwysfawr Cymru gyfan ar ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae’r canllawiau hynny hefyd yn cynnwys dolenni i gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ond dyna’r cyngor diffiniol.
Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynhyrchu datganiad yn nodi bod teithiau ysgol o fudd amlwg i ddisgyblion, ond mae’n bosibl y bydd camddealltwriaethau’n annog ysgolion ac athrawon i beidio â threfnu teithiau o’r fath, ac maent yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw pryderon iechyd a diogelwch cyfeiliornus a di-sail yn creu rhwystrau sy’n atal y teithiau hyn rhag digwydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch, neu y gallech ei gael, gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu galluogi i ganolbwyntio ar sut i reoli’r gwir beryglon, yn hytrach nag ar y gwaith papur a allai fod ynghlwm wrth hynny?
Diolch i chi, Mark. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau blaenorol, mae canllawiau Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn adnodd ar y we sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson i nodi newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac arferion da gan weithgor o arbenigwyr yn y maes. Mae gan y wefan ddolenni at gyngor perthnasol arall, gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae llawer i’w ennill o ganiatáu i fyfyrwyr, pobl ifanc a phlant gymryd rhan mewn ymweliadau, teithiau, gweithgareddau awyr agored, ac os yw ysgolion yn dilyn y cyngor sydd ar gael iddynt, byddant yn gwneud hynny gan wybod mai dyna yw’r cyngor diweddaraf a’r arferion gorau.
Nid yw Eluned Morgan yn y Siambr i ofyn cwestiwn 2.