<p>Teithiau Addysg Dramor</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 1:32, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Yn yr Eglwys Newydd, mae gennym gwmni o’r enw Schools into Europe, a dywedodd y cyfarwyddwr yno wrthyf fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr ysgolion sy’n cynnal teithiau tramor, ac mae’n credu bod hynny’n rhannol oherwydd y dryswch ynghylch canllawiau diogelwch teithio, ac ysgolion yn mabwysiadu eu rheolau ad hoc eu hunain ynglŷn ag a yw’n ddiogel i deithio neu beidio. Felly, yn dilyn ei hateb i’r cwestiwn blaenorol, a fyddai hi’n gallu sicrhau mwy o eglurder i ysgolion, ac i awdurdodau lleol, mai’r canllawiau diffiniol yw canllawiau’r Swyddfa Dramor, yn hytrach na chael canllawiau unigol, sydd weithiau’n creu cymysgwch braidd o’r canllawiau mewn gwirionedd, ac efallai’n lladd awydd ysgolion i drefnu yr hyn y gwyddom eu bod yn deithiau gwerthfawr iawn?