<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:42, 28 Medi 2016

Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae’n debyg bod y pwysau yma yn cael ei deimlo fwyaf ar ysgwyddau penaethiaid sydd, ar ddiwedd y dydd, yn gorfod gwneud llawer o’r gwaith biwrocrataidd ychwanegol yma. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna drafferthion yma yng Nghymru gyda nifer uchel o swyddi penaethiaid yn wag a nifer o swyddi penaethiaid dros dro yn eu lle, sydd yn ei hunan, wrth gwrs, yn creu mwy o stres nid yn unig ar yr unigolion hynny, ond, yn aml iawn, ar yr athrawon sydd ar ôl yn gorfod pigo lan y beichiau sy’n cael eu gadael oherwydd bod swyddi yn wag. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn trio delio â’r gwrthanogaethau, y ‘disincentives’, sydd allan yna—ac mae stres, wrth gwrs, yn amlwg yn un ohonyn nhw—i athrawon i gamu lan i fod yn benaethiaid?