1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Medi 2016.
Felly, cwestiynau’r llefarwyr i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd rydych wedi’i wneud mewn perthynas â gweithredu eich blaenoriaeth o leihau maint dosbarthiadau babanod i uchafswm o 25 yng Nghymru?
Diolch i chi, Darren, am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais cyn toriad yr haf, mae swyddogion a minnau yn astudio’r dystiolaeth ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu polisi o’r fath, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod potensial gan ddosbarthiadau llai o faint i wneud y gwahaniaeth mwyaf i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, i blant nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, a lle gwyddom y bydd hynny’n caniatáu newid mewn arddulliau addysgu. Gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â’r consensws barn eang ymhlith llawer o academyddion nad dyma’r ffordd orau i fuddsoddi arian er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer disgyblion iau, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o’r ffaith fod gennym heriau recriwtio sylweddol ledled Cymru bellach o ran staff addysgu. A wnewch chi ystyried edrych unwaith eto ar wneud hyn yn flaenoriaeth, fel y gallwn edrych ar gost cyfle buddsoddi’r adnoddau a allai fod ar gael? Ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddech yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio tua £42 miliwn i’w gyflawni. Oni fyddai’n well gwario’r arian ar flaenoriaethau eraill, megis gwella ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i’n disgyblion iau?
Mae yna hefyd gonsensws ymysg rhieni ac yn wir, athrawon, fod maint dosbarthiadau yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn wir, yn y gweithredu diwydiannol diweddaraf a welsom gan athrawon ar draws y ffin yn Lloegr, cynnydd ym maint dosbarthiadau oedd eu pryder mwyaf. Nawr, rwy’n cydnabod nad maint dosbarthiadau ar ei ben ei hun yw’r unig beth y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef er mwyn codi safonau addysgol yn ysgolion Cymru, ond mae’n un rhan o agenda gwella rwyf fi a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi.
Fe fyddwch yn gyfarwydd â’r ffaith fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried rhai newidiadau tuag at hyn, ac mai’r casgliad y daeth gweithgor yn yr Alban iddo oedd bod y rhain yn faterion cymhleth, ac er y byddai pawb yn hoffi gweld dosbarthiadau llai o faint, byddai’n well gwario’r arian ar bethau eraill.
A gaf fi newid i fater arall, a gwn ein bod wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, sef cydnabyddiaeth i gymhwyster bagloriaeth Cymru gan sefydliadau addysg uwch, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr? Fe fyddwch yn gwybod o’r ohebiaeth rydym wedi’i chael fod yna nifer o brifysgolion nad yw’n ymddangos eu bod yn ystyried ansawdd yr addysg y mae ein pobl ifanc yn ei chael wrth astudio bagloriaeth Cymru yn ysgolion Cymru, ac mae hyn yn eu rhwystro rhag cael mynediad at y cyrsiau y maent am eu dewis yn y sefydliadau addysg uwch hynny. Pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau hynny, ac a wnewch chi ymuno â mi i ymweld â rhai o fyfyrwyr bagloriaeth Cymru yn fy etholaeth, er mwyn trafod y mater hwn gyda hwy?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei gefnogaeth i fagloriaeth Cymru? Gwn ei fod yn cydnabod ei bod yn gymhwyster pwysig. Mae pasio Bagloriaeth Cymru lefel uwch yn cyfateb i 120 o bwyntiau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Mae hynny’n cyfateb i radd A, a chyfarfûm â llawer o fyfyrwyr dros yr haf a oedd wedi cael lle mewn prifysgol o ganlyniad i basio bagloriaeth Cymru. Ond mae’r Aelod yn hollol iawn: mae llawer mwy i’w wneud gyda rhai sefydliadau nad ydynt yn cydnabod trylwyredd ein Bagloriaeth Cymru ddiwygiedig newydd. Felly, o ganlyniad i’r ohebiaeth a gefais gennych, Darren, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gydag UCAS i nodi’r sefydliadau a’r cyrsiau penodol o fewn sefydliadau nad ydynt yn derbyn Bagloriaeth Cymru, ac rwy’n bwriadu ysgrifennu at bob un o’r sefydliadau hynny i’w sicrhau ynglŷn â thrylwyredd y fagloriaeth a’r cefndir polisi sydd wrth wraidd y cymhwyster pwysig hwn. Byddwn wrth fy modd yn dod gyda chi i ymweld ag ysgolion sy’n gwneud gwaith mor dda yn cyflwyno bagloriaeth Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Mi fyddwch chi’n gwybod rwy’n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, fod gwaith ymchwil diweddar gan NUT Cymru wedi datgelu bod athrawon yng Nghymru wedi colli hyd at 52,000 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ddiwethaf oherwydd salwch sy’n deillio o bwysau gwaith. Mae’n debyg bod 12 o awdurdodau lleol Cymru wedi nodi cynnydd yn yr absenoldebau oherwydd straen gwaith, ac mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif cost ariannol o tua £34 miliwn i’n hysgolion ni dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa yna?
Diolch yn fawr iawn, Llyr. Rwy’n cydnabod bod straen yn y gweithle a salwch sy’n deillio o’r gweithle yn niweidiol tu hwnt i’r unigolion dan sylw ac i’n gallu i drawsnewid addysg yma yng Nghymru. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol, fel rhan o’n hysgolion arloesi a’n rhwydweithiau, fod rhai ysgolion yn edrych ar faterion llwyth gwaith ar hyn o bryd i weld beth y gallwn ei wneud i leihau llwyth gwaith yn yr ystafell ddosbarth i athrawon. Rydym yn cynnal archwiliad ar hyn o bryd o rywfaint o’r gwaith papur sy’n gysylltiedig ag addysgu i edrych i weld beth y gallwn gael gwared arno nad yw’n ychwanegu gwerth at ddealltwriaeth athrawon o’u disgyblion neu’n gwneud gwahaniaeth i ddisgyblion. Ac yn ddiweddarach eleni, am y tro cyntaf erioed, byddaf yn cynnal arolwg a gefnogir gan Lywodraeth Cymru o’r holl athrawon yng Nghymru a chynorthwywyr dosbarth fel y gallaf glywed ganddynt yn uniongyrchol am agweddau ar eu swydd sy’n achosi straen a rhwystredigaeth iddynt ac nad ydynt yn helpu eu gallu i wneud yr hyn rydym i gyd am iddynt ei wneud mewn gwirionedd, sef treulio eu hamser yn addysgu ein plant.
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae’n debyg bod y pwysau yma yn cael ei deimlo fwyaf ar ysgwyddau penaethiaid sydd, ar ddiwedd y dydd, yn gorfod gwneud llawer o’r gwaith biwrocrataidd ychwanegol yma. Rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod yna drafferthion yma yng Nghymru gyda nifer uchel o swyddi penaethiaid yn wag a nifer o swyddi penaethiaid dros dro yn eu lle, sydd yn ei hunan, wrth gwrs, yn creu mwy o stres nid yn unig ar yr unigolion hynny, ond, yn aml iawn, ar yr athrawon sydd ar ôl yn gorfod pigo lan y beichiau sy’n cael eu gadael oherwydd bod swyddi yn wag. A gaf i ofyn, felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn trio delio â’r gwrthanogaethau, y ‘disincentives’, sydd allan yna—ac mae stres, wrth gwrs, yn amlwg yn un ohonyn nhw—i athrawon i gamu lan i fod yn benaethiaid?
Rwy’n cydnabod bod hon yn broblem go iawn i’n cenhedlaeth nesaf o ddarpar arweinwyr ysgol, ac mae nifer o bethau sydd angen i ni eu gwneud: mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau addysg lleol unigol yn darparu mecanweithiau cymorth i’r bobl hyn allu gwneud y cam nesaf; ac mae angen i ni weithio gyda’n consortia i sicrhau, wrth gymryd y cam i fod yn bennaeth, fod pobl yn cael eu cefnogi yn yr ychydig fisoedd a blynyddoedd cyntaf o gychwyn yn y rôl benodol honno. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi gwneud cyhoeddiad cyn yr haf ynglŷn â sefydlu academi arweinyddiaeth yng Nghymru, a fydd yno’n benodol, yn y lle cyntaf, i gefnogi penaethiaid. Mae pethau’n datblygu’n dda ac rwy’n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â ffurfio hynny yn ddiweddarach yn ystod tymor yr hydref. Rydym yn edrych hefyd ar ddatblygu rôl rheolwyr ysgol, er mwyn caniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar ddatblygu’r cwricwlwm a materion addysgol a rhoi peth o’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â rheoli’r hyn sy’n aml yn sefydliadau mawr i reolwyr ysgolion proffesiynol. Rwyf fi, ynghyd â swyddogion, yn edrych hefyd ar opsiynau ar gyfer diwygio’r cymwysterau y bydd eu hangen i fod yn bennaeth yn y dyfodol, oherwydd gwyddom fod rhai ffactorau, yn enwedig o ystyried newidiadau dros y ffin, sydd efallai’n lleihau ein cronfa o benaethiaid posibl, ac rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer newid ar hyn o bryd.
Rŷch chi wedi dweud ddwywaith nawr i’r ddau gwestiwn eich bod yn cydnabod bod yna broblemau. Rŷch chi wedi sôn am rai pethau sydd wedi cychwyn, ac rŷch chi’n sôn am gael deialog yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod athrawon a phenaethiaid yn wynebu’r heriau a’r pwysau yma nawr. Nid wyf yn gwybod os ydych chi’n ymwybodol, ond mewn un awdurdod addysg yng Nghymru, dim ond ers dechrau’r flwyddyn, mae yna dri phennaeth wedi dioddef strôc oherwydd y pwysau gwaith. Nid yw hynny’n dderbyniol. Fydd hi ddim yn llawer o gysur i nifer yn y rheng flaen bod yna ‘rhywbeth yn mynd i ddigwydd rhywbryd’. A allwch chi ddweud wrthym yn fwy penodol erbyn pryd y bydd y bobl ar y ffas lo yn gweld gwahaniaeth?
Bydd y coleg arweinyddiaeth, fel y dywedais wrthych cyn toriad yr haf, yn cael ei sefydlu yn ystod y flwyddyn hon ac yn derbyn ac yn darparu cyrsiau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
O ran rheolwyr ysgol a gwahanol ffurfiau ar lywodraethu ysgolion ac arweinyddiaeth, rwy’n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiadau hynny yn unol â’r adnoddau a ddyrennir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn nes ymlaen y tymor hwn. Rydym yn symud mor gyflym â phosibl i edrych ar ffyrdd y gallwn newid cymwysterau i benaethiaid. Rwyf yn llythrennol ond wedi bod yn y swydd hon ers hanner ffordd drwy fis Mai ac rydym yn bwrw ymlaen â phopeth mor gyflym ag y gallwn. Wrth gychwyn yn y swydd, sylwais fod diffyg cefnogaeth i arweinwyr ysgol. Mae’n un rhan o’r materion y nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â hwy, ac rwy’n bwrw ymlaen â hwy fel mater o flaenoriaeth.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru’n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth lefarydd UKIP yw, drwy beidio ag aros i weld beth yw’r canlyniadau PISA cyn—
Rydych yn eu gwybod yn barod.
Na, nid wyf yn eu gwybod yn barod fel mae’n digwydd, Simon. Nid wyf yn eu gwybod ac os oes gennych dystiolaeth fy mod yn eu gwybod, efallai y dylech godi a dweud wrthym. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O’.]
Ewch ymlaen, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch. Nid ydym yn aros am y canlyniadau PISA. Rydym wedi rhoi rhaglen uchelgeisiol ar waith i ddiwygio addysg, rhaglen a ffurfiwyd gan farn arbenigol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a ddywedodd rai pethau beirniadol iawn am system addysg Cymru yn eu hadroddiad yn 2014. Rwyf o ddifrif ynglŷn â’r pethau hynny ac yn wir, rwyf wedi gofyn i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddod yn ôl i Gymru y tymor hwn er mwyn i mi allu bod yn sicr ein bod ar y trywydd cywir a’n bod yn gwneud y penderfyniadau cywir a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes gennyf unrhyw fwriad o aros i weld beth fydd y canlyniadau PISA cyn gwneud unrhyw un o’r newidiadau hynny. Mae’r diwygio’n parhau. Mae’n digwydd yn awr.
Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud ynglŷn â ffioedd dysgu yng Nghymru yn awr fod adroddiad Diamond wedi cael ei gyhoeddi? A fyddai’n cytuno nad yw’r system gyfredol o roi cymhorthdal i fyfyrwyr o Gymru i astudio yn Lloegr yn gynaliadwy ac nad yw’n ddefnydd da o adnoddau gwerthfawr Llywodraeth Cymru?
Rwy’n cymryd bod yr Aelod yn bresennol yn y Siambr ddoe pan roddais fy natganiad ar adolygiad Diamond, lle roeddwn yn datgan yn gwbl glir fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr egwyddorion sylfaenol sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Rwyf am sicrhau y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu cefnogi mewn system sy’n unigryw yn y DU, yn yr ystyr ei bod yn gwbl symudol, fel y gall myfyrwyr astudio mewn rhannau eraill o’r DU ac yn wir, o amgylch y byd, a bod y dull o astudio yn cael ei gefnogi hefyd, pa un a ydych yn fyfyriwr rhan-amser, yn fyfyriwr israddedig amser llawn neu’n fyfyriwr ôl-raddedig. Dyna yw’r argymhellion gan Syr Ian Diamond. Gwn nad yw UKIP yn hoffi derbyn cyngor arbenigwyr a’u bod yn byw mewn byd ôl-ffeithiau, ond ar ôl derbyn yr adroddiad gan Syr Ian Diamond, sy’n un o academyddion mwyaf blaenllaw y DU, adroddiad a ysgrifenwyd ac a gefnogwyd hefyd gan bobl fel is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyn-Aelodau uchel eu parch yma yn y Siambr hon, rwy’n credu y dylai UKIP fod yn ofalus iawn wrth fwrw amheuon ar ansawdd y bobl a fu’n ystyried yr adroddiad hwnnw. Rwyf wedi ei ystyried ac mae’r Cabinet yn cefnogi’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys ynddo.
Mae Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid refferenda pan fyddant yn gweddu i’w dibenion gwleidyddol, sef ar ddatganoli pellach a diwygio pleidleisio. Felly, gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i Ysgrifennydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth Lafur roi cyfle i bobl leol sefydlu ysgolion gramadeg newydd, lle mae digon o alw lleol wedi’i ddangos drwy gyfrwng refferendwm dan reolaeth yr awdurdod lleol. A wnaiff hi ymuno ag UKIP a rhoi mwy o ddewis i bobl leol dros addysg eu plant?
Lywydd, roeddwn yn credu fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y ddadl yr wythnos diwethaf am fy safbwyntiau ar ysgolion gramadeg. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod ysgolion gramadeg yn gwasanaethu eu myfyrwyr yn well nag ysgolion cyfun traddodiadol. Gwyddom eu bod yn newyddion drwg i’r disgyblion tlotaf a gwyddom hefyd fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er bod ganddo nifer o bethau anodd i’w dweud am addysg yng Nghymru, wedi canmol ein system gyfun. Maent yn dweud mai dyna’r ffordd orau i wneud gwelliannau i’r system addysg yng Nghymru, ac rwy’n bwriadu dilyn y cyngor hwnnw.