Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru’n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?