Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Nick. Nod y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yw gwella safonau maeth bwyd a diod sy’n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod bwyd a diod iach yn cael ei gynnig i blant a phobl ifanc drwy gydol y diwrnod ysgol.