1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 28 Medi 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd prydau ysgol yng Nghymru? OAQ(5)0028(EDU)
Diolch i chi, Nick. Nod y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yw gwella safonau maeth bwyd a diod sy’n cael ei weini mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod bwyd a diod iach yn cael ei gynnig i blant a phobl ifanc drwy gydol y diwrnod ysgol.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a fynychodd ddigwyddiad Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn y Pierhead. Rwy’n credu eich bod chi yno, ynghyd â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau, sydd ar y dde i mi. Cawsom fwynhau rhai o fwydydd ysgol gorau Cymru, gan gynnwys jam roli-poli, tikka masala ac wrth gwrs, pwdin eirin. Cafodd Aelodau Cynulliad y pleser o fwyta’r bwyd gorau, ond wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae safonau bwyd yn amrywio ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae costau’n uwch. Sut rydych yn sicrhau bod y safonau’n uchel ledled Cymru, er mwyn i bob ysgol allu elwa ar brydau ysgol o’r ansawdd gorau?
Diolch yn fawr iawn, Nick. Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu mynychu’r digwyddiad yr aethoch iddo, ond fe wnaeth Lesley Griffiths, fy nghyd-Aelod yn y Cabinet, ynghyd â fy swyddogion. Nawr fy mod yn gwybod bod jam roli-poli ar gael yno, rwy’n arbennig o siomedig nad oeddwn yn gallu bod yno. Rwy’n ymwybodol fod awdurdodau lleol yn adolygu’n gyson sut y gallant sicrhau mai bwyd o’r ansawdd gorau sy’n cael ei ddefnyddio yn eu gwasanaeth prydau ysgol, ac maent yn gwneud hynny, gan geisio cydbwyso anghenion fforddiadwyedd i rieni yn ogystal, a chynnal gwasanaeth prydau ysgol. Rwy’n arbennig o awyddus i dimau arlwyo awdurdodau lleol ddefnyddio cynnyrch lleol, lle y gallant, yn ffreuturiau eu hysgolion. Rwy’n gwneud hynny oherwydd ei fod yn newyddion da i’r economi leol ac mae’n golygu eu bod yn cael cynnyrch ardderchog yn eu prydau ysgol, ond mae hefyd yn ffordd wych o roi dysgwyr mewn cysylltiad â tharddiad y bwyd y maent yn ei fwyta, rhywbeth sydd wedi ei golli mewn llawer o leoedd dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’n Ddiwrnod Llaeth Ysgol heddiw, felly dylem ni gydnabod hynny wrth drafod bwyd maethlon mewn ysgolion. Pa gyfleoedd sydd gan yr Ysgrifennydd nawr, o dan y sefyllfa bresennol, i wella maethlondeb a hefyd ansawdd a safon bwyd ysgol, gyda’r ffaith ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac nad yw rheolau caffael yn mynd i fod yn gymwys yn yr un ffordd, felly gallwn hybu bwyd lleol, a gyda’r posibilrwydd o dan y cwricwlwm newydd o gael plant a phobl ifanc i dyfu eu bwyd eu hunain, i brosesu eu bwyd eu hunain wrth ei goginio fe yn yr ysgol, a bwyta’r bwyd wedyn? Achos, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae problemau difrifol yn rhwystro plant rhag gwneud hynny ar hyn o bryd.
A gaf fi ddiolch i Simon am hynny? Mae’r fframwaith deddfwriaethol presennol eisoes yn caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol gaffael cynnyrch o Gymru os ydynt yn dymuno gwneud hynny, ac mae llawer yn gwneud hynny lle gallant, a lle gallant gydbwyso, fel y dywedais, y materion sy’n ymwneud â chaffael lleol gyda chynnal prisiau prydau ysgol ar lefel sy’n fforddiadwy i rieni. Bwriadwn adolygu pa gyfleoedd a allai ddeillio o newidiadau i’r rheolau caffael, nid yn unig ym maes addysg ond ar draws y prosesau caffael yng Nghymru. Ond os oes cyfleoedd i gael mwy o gynnyrch lleol i mewn i ysgolion, yna byddwn yn croesawu hynny.
Mewn perthynas â disgyblion yn tyfu eu bwyd eu hunain, mae’r cwricwlwm newydd a amlinellwyd gan Donaldson yn creu llawer mwy o hyblygrwydd yn ein cwricwlwm mewn gwirionedd i ganiatáu i ysgolion allu addasu eu hanghenion heb orfod cyfeirio’n gyson at y cwricwlwm ticio blwch, i raddau helaeth, sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn gobeithio bod cyfleoedd i gael mwy o’r gweithgarwch hwnnw. Yn sicr, yn y cyfnod sylfaen a’r ffocws ar addysg awyr agored, mae digonedd o gyfleoedd i’n disgyblion ieuengaf oll a’u hathrawon ac ymarferwyr dysgu i gymryd rhan yn y math hwnnw o weithgaredd, a gwn fod llawer yn gwneud hynny.