<p>Ansawdd Prydau Ysgol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:54, 28 Medi 2016

Mae’n Ddiwrnod Llaeth Ysgol heddiw, felly dylem ni gydnabod hynny wrth drafod bwyd maethlon mewn ysgolion. Pa gyfleoedd sydd gan yr Ysgrifennydd nawr, o dan y sefyllfa bresennol, i wella maethlondeb a hefyd ansawdd a safon bwyd ysgol, gyda’r ffaith ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac nad yw rheolau caffael yn mynd i fod yn gymwys yn yr un ffordd, felly gallwn hybu bwyd lleol, a gyda’r posibilrwydd o dan y cwricwlwm newydd o gael plant a phobl ifanc i dyfu eu bwyd eu hunain, i brosesu eu bwyd eu hunain wrth ei goginio fe yn yr ysgol, a bwyta’r bwyd wedyn? Achos, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae problemau difrifol yn rhwystro plant rhag gwneud hynny ar hyn o bryd.