<p>Adroddiad yr Athro Sioned Davies am Ddysgu’r Gymraeg</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:03, 28 Medi 2016

Rydw i’n hapus iawn i barhau’r drafodaeth ar hynny os oes gan yr Aelod awgrymiadau y buasai hi’n licio eu gwneud. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae wedi bod lot o drafod amboutu lle rydym ni ar hyn o bryd ers i adroddiad Sioned Davies gael ei gyhoeddi. Mi fydd yna newidiadau sylfaenol yn cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac felly ni fydd yna ddim cyfnod coll, fel y mae rhai wedi awgrymu, ond mi fydd yna gyfnod pontio o ble yr oeddem ni i ble yr ydym ni’n mynd i fod. Mae’r trafodaethau y mae’r Aelod wedi’u disgrifio wedi digwydd ac yn mynd i barhau i ddigwydd, ac rydw i’n agored iawn i ehangu ar a pharhau’r trafodaethau gyda’r bobl y mae wedi’u henwi ac eraill, os oes raid. Ond a gaf i ddweud hyn? Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pobl yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i siarad a defnyddio’r Gymraeg, nid jest er mwyn pasio arholiad pan fônt yn 16, ond i allu defnyddio a siarad Cymraeg yn ystod eu hoes. Felly, rydym ni’n symud mewn ffordd eithaf sylfaenol i newid y ffordd yr ydym yn dysgu Cymraeg.