Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, David. Mae’r fframwaith presenoldeb ar gyfer Cymru gyfan yn effeithio’n uniongyrchol ar lefelau presenoldeb. Ynghyd â rhaglenni addysg ehangach, gan gynnwys ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’ a’r grant amddifadedd disgyblion, mae cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ar ennyn mwy o ddiddordeb yr holl bobl ifanc mewn addysg.