Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Hannah. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi a Jeremy am arwain yr agenda hon ac am ddod i fy ngweld cyn toriad yr haf i siarad am bwysigrwydd yr agenda hon. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, rwy’n sefydlu grŵp gorchwyl arbenigol i fy nghefnogi i a swyddogion yn well o ran sut y gallwn gefnogi ysgolion gyda’r agenda hon. Yr hyn rydym yn ymwybodol ohono, o ‘r ymchwil, yw bod llawer o ysgolion yn teimlo—ac mae athrawon yn aml yn teimlo—nad oes ganddynt y wybodaeth na’r ddealltwriaeth ynglŷn â’r ffordd orau i fynd i’r afael â rhai o’r sefyllfaoedd hyn. Felly, byddwn yn gofyn i’r grŵp arbenigol ein helpu i ddatblygu adnoddau newydd a fydd ar gael i athrawon i fynd i’r afael â bwlio o bob math i allu rhoi hyder iddynt. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi ysgolion ac athrawon unigol er mwyn sicrhau eu bod wedi’u paratoi yn y ffordd orau i gefnogi eu disgyblion ac i sicrhau bod ein hysgolion yn barthau di-fwlio.