<p>Bwlio Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig mewn Ysgolion </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:13, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, trefnwyd ymgyrch gan Lindsay Whittle, fy nghyd-Aelod yn y Cynulliad blaenorol, y gwn eich bod yn ei adnabod yn dda, i godi ymwybyddiaeth o broblemau bwlio yn y cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ne-ddwyrain Cymru, a sylwodd fod lefel uchel o fwlio mewn ysgolion mewn perthynas â’r agenda honno. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi nodi’r ymchwil a wnaeth, ac a gymerodd lawer o amser i’w gwblhau, ac a ydych wedi edrych ar Gymru gyfan mewn perthynas â sut y gallwch fynd i’r afael â hyn ac wedi troi at ei waith ymchwil ef i fod yn sylfaen i’r gwaith posibl hwnnw yn y dyfodol.