Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Medi 2016.
Rwy’n credu bod 13 mlynedd wedi bod ers i mi fynychu cyfarfod Stonewall Cymru am y tro cyntaf—roeddem yn arfer ei alw’n fwlio homoffobig bryd hynny, heb y termau perthnasol ychwanegol a ddefnyddir yn awr. Rwy’n credu eich bod chi’n bresennol bryd hynny hefyd, yn ôl pob tebyg, 13 mlynedd yn ôl. Yn ddiweddar, fodd bynnag, cysylltodd rhieni dyn ifanc a oedd yn dioddef bwlio homoffobig â mi—ni wnaf enwi’r awdurdod lleol—ond er bod yr awdurdod lleol a’r athrawon yn honni bod ganddynt ymwybyddiaeth i allu ymateb, nid oedd hynny’n cael ei ddangos. Ni chawsant wybod am fynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol nes iddo gysylltu â mi, a chael ei gyfeirio gennyf at Stonewall Cymru. Pa gamau y gallwch eu rhoi ar waith, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwybod y dylent fod yn rhoi gwybod i bobl ifanc o’r fath am eu hawl i eiriolaeth annibynnol ar ddechrau’r broses?