<p>Bwlio Homoffobig, Deuffobig a Thrawsffobig mewn Ysgolion </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:16, 28 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Mark, am dynnu fy sylw at y digwyddiad hwnnw. Os hoffech roi manylion llawn yr achos hwnnw i mi, byddwn yn fwy na pharod i edrych arno, ac i ofyn i fy swyddogion edrych i weld a oedd popeth a wnaed yn yr achos penodol hwnnw yn dilyn yr hyn a ddylai fod wedi cael ei wneud. Os byddech cystal â’i anfon ataf, byddwn yn ddiolchgar iawn yn wir. Rydym ar fin adnewyddu strategaeth gwrthfwlio gyfredol Llywodraeth Cymru er mwyn edrych i weld a allwn ei mireinio, ei thargedu’n well, a gwneud yn siŵr ei bod yn gyfoes. Byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.