Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch, Lywydd. Mae dda gen i agor y ddadl yma. Rwy’n arbennig o falch bod y ddadl yn un sydd yn cynnwys nifer o bob plaid—gwrthblaid, beth bynnag—yma, ac yn ymgais, rwy’n gobeithio, i roi gerbron y Senedd ddarlun o’r hyn sydd yn digwydd nawr, heddiw, ar lawr gwlad yn ein cymunedau gwledig ni a’r bygythiad i fywyd teuluol, i fywyd fferm ac i fywyd cymunedol y mae’r clefyd yma’n ei gynrychioli. Rydym ni’n edrych ymlaen at y datganiad mewn rhyw dair wythnos, rwy’n credu, gan y Llywodraeth ynglŷn â’u cynllun nhw ar gyfer difa’r diciáu mewn gwartheg. Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl yma yn rhoi cymorth i’r Llywodraeth drwy roi darlun eang a dwfn iddyn nhw o’r problemau y mae amaethwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
A gaf i jest ddweud gair am eiriad y cynnig rhag ofn bod pobl yn gofyn pam mae’r cynnig wedi ei eirio fel y mae? Mae wedi ei seilio ar y cyngor a gafodd y Llywodraeth gan ei grŵp ymgynghorol hithau ynglŷn â lles anifeiliaid, gan gynnwys lles anifeiliaid fferm, a gyhoeddodd ei adroddiad ar 28 Gorffennaf, adeg y sioe fawr. Yn y papur hwnnw, fe ofynnwyd yn benodol am gynllun i ddifa TB a fyddai’n gyfuniad o wahanol fesurau wedi eu hanelu at bob ffynhonnell—ffynonellau yn y buchesi a ffynonellau bywyd gwyllt—ac a fyddai’n caniatáu i ni ddifa TB buchod. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn gofyn am gyflwyno rhyw fath o raglen ar y dicáu mewn gwartheg a oedd yn cynnwys asesiad gwahanol yn yr ardaloedd yna lle oedd y digwyddiadau yn isel, ac i edrych ar reolau ar gyfer TB a oedd yn gymesur â statws y clefyd yn y gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Felly, dyna bwrpas y ddadl, ac rwy’n gobeithio y bydd modd i’r Cynulliad cyfan uno o gwmpas dadl sydd mor bwysig i’n hamaethwyr ni.
Does dim dwywaith am yr effaith y mae TB yn ei chael ar ffermydd godro a ffermydd cig eidion ar hyn o bryd, nid jest yn gyllidol ac yn ariannol, ond yn emosiynol hefyd, achos mae cymaint o fuddsoddiad o ran amser teuluoedd cyfan, gweithwyr a chenedlaethau, weithiau, yn y buchesi. Er bod nifer y buchesi sydd wedi’u heffeithio gan TB wedi gostwng yn ddiweddar—a da o beth yw hynny, o ran nifer—rwy’n credu ei bod hi’n bwysig edrych ar y ganran. Mae pob un ohonom ni sydd wedi bod yn edrych ar y sefyllfa gyda ffermydd godro yn gwybod yn iawn fod nifer o ffermydd wedi mynd allan o fusnes dros y degawd diwethaf. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod bod 56 y cant o’r holl fuchesi godro yng Nghymru eleni wedi cael eu heffeithio gan ryw fath o gyfyngiadau yn deillio o ddigwyddiad o’r clefyd hwn—56 y cant. Ddeng mlynedd yn ôl, 38 y cant o’r holl fuchesi a gafodd eu heffeithio. Felly, ie, mae gostyngiad yn y nifer, ond mae yna gynnydd yn y ganran. Mae cynnydd arbennig, wrth gwrs, yn yr ardaloedd hynny sydd i fod yn ganolbwynt ar gyfer gweithredu dwys yn erbyn y clefyd yma: gogledd sir Benfro, rhannau o sir Gâr, a chynnydd syfrdanol yn nyffryn Clwyd yn ddiweddar, sydd yn dipyn o ergyd i’r rhai sy’n meddwl bod y clefyd o dan ryw fath o reolaeth yng Nghymru.
Mae yna gost sylweddol iawn i’r trethdalwr, achos fe delir—ac fe ddylid eu talu, wrth gwrs—y ffermwyr ar gyfer eu colled o dda, ac mae’r gost honno tua £100 miliwn y flwyddyn dros Brydain gyfan. Mae canran sylweddol o hynny—degau o filiynau—yn deillio o Gymru.
Mae yna un agwedd arall yr hoffwn ei hagor reit ar ddechrau’r ddadl hon, i’r Aelodau fod yn hysbys yn ei chylch, sef, nawr ein bod wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r statws marchnata rhwng Cymru a gweddill Prydain a gweddill yr hyn sy’n weddill o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynllun difa TB yn gynllun Llywodraeth Cymru—mae’n gynllun Cymru—ond y mae hefyd, yn bwysig iawn, yn gynllun y Comisiwn Ewropeaidd; mae wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae wedi’i dalu amdano, yn helaeth iawn, gan y Comisiwn Ewropeaidd. Oherwydd bod gennym ni gynllun yn ei le sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn, nid oes unrhyw ffordd i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd gwestiynu cynnyrch o Gymru. Mae cynnyrch o Gymru yn cael ei dderbyn ym mhob man yn y farchnad sengl, ac nid oes modd gwrthwynebu hynny. Ond, unwaith yr ydym ni wedi gadael y farchnad sengl, fel sy’n cael ei gynnig gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, mae modd cwestiynu Cymru wedyn. Mae gennym lefel uwch o TB yn ein gwartheg ni, ac mae modd cwestiynu, felly, a ddylid derbyn cynnyrch llaeth a chynnyrch biff o Gymru i wledydd fel Ffrainc, neu unrhyw ran arall o’r farchnad sengl. Nid oes sicrwydd y bydd gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn awr yn derbyn hynny, ac fe atgyfnerthwyd hynny ddim ond y bore yma gan Peter Midmore. Fe ddaeth Peter Midmore o Brifysgol Aberystwyth i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a gofynnwyd i’r Athro Midmore a oedd yna risg o hyn yn digwydd, a dywedodd e, yn blwmp ac yn blaen, ‘Real risk’—risg go iawn y bydd hyn yn digwydd, achos mae modd caniatáu o dan reolau’r WTO, atal allforion os oes yna broblem clefyd mewn gwlad neilltuol.