– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 28 Medi 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, y ddadl ar TB buchol. Rwy’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6088 Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton, Llyr Gruffydd
Cefnogwyd gan Angela Burns, Janet Finch-Saunders, Andrew R.T. Davies, Adam Price, Mark Isherwood, Dafydd Elis-Thomas, David Melding, Russell George, Nick Ramsay, Mohammad Asghar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad i fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a’r cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn ardal.
Diolch, Lywydd. Mae dda gen i agor y ddadl yma. Rwy’n arbennig o falch bod y ddadl yn un sydd yn cynnwys nifer o bob plaid—gwrthblaid, beth bynnag—yma, ac yn ymgais, rwy’n gobeithio, i roi gerbron y Senedd ddarlun o’r hyn sydd yn digwydd nawr, heddiw, ar lawr gwlad yn ein cymunedau gwledig ni a’r bygythiad i fywyd teuluol, i fywyd fferm ac i fywyd cymunedol y mae’r clefyd yma’n ei gynrychioli. Rydym ni’n edrych ymlaen at y datganiad mewn rhyw dair wythnos, rwy’n credu, gan y Llywodraeth ynglŷn â’u cynllun nhw ar gyfer difa’r diciáu mewn gwartheg. Rwy’n gobeithio y bydd y ddadl yma yn rhoi cymorth i’r Llywodraeth drwy roi darlun eang a dwfn iddyn nhw o’r problemau y mae amaethwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
A gaf i jest ddweud gair am eiriad y cynnig rhag ofn bod pobl yn gofyn pam mae’r cynnig wedi ei eirio fel y mae? Mae wedi ei seilio ar y cyngor a gafodd y Llywodraeth gan ei grŵp ymgynghorol hithau ynglŷn â lles anifeiliaid, gan gynnwys lles anifeiliaid fferm, a gyhoeddodd ei adroddiad ar 28 Gorffennaf, adeg y sioe fawr. Yn y papur hwnnw, fe ofynnwyd yn benodol am gynllun i ddifa TB a fyddai’n gyfuniad o wahanol fesurau wedi eu hanelu at bob ffynhonnell—ffynonellau yn y buchesi a ffynonellau bywyd gwyllt—ac a fyddai’n caniatáu i ni ddifa TB buchod. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn gofyn am gyflwyno rhyw fath o raglen ar y dicáu mewn gwartheg a oedd yn cynnwys asesiad gwahanol yn yr ardaloedd yna lle oedd y digwyddiadau yn isel, ac i edrych ar reolau ar gyfer TB a oedd yn gymesur â statws y clefyd yn y gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Felly, dyna bwrpas y ddadl, ac rwy’n gobeithio y bydd modd i’r Cynulliad cyfan uno o gwmpas dadl sydd mor bwysig i’n hamaethwyr ni.
Does dim dwywaith am yr effaith y mae TB yn ei chael ar ffermydd godro a ffermydd cig eidion ar hyn o bryd, nid jest yn gyllidol ac yn ariannol, ond yn emosiynol hefyd, achos mae cymaint o fuddsoddiad o ran amser teuluoedd cyfan, gweithwyr a chenedlaethau, weithiau, yn y buchesi. Er bod nifer y buchesi sydd wedi’u heffeithio gan TB wedi gostwng yn ddiweddar—a da o beth yw hynny, o ran nifer—rwy’n credu ei bod hi’n bwysig edrych ar y ganran. Mae pob un ohonom ni sydd wedi bod yn edrych ar y sefyllfa gyda ffermydd godro yn gwybod yn iawn fod nifer o ffermydd wedi mynd allan o fusnes dros y degawd diwethaf. Mae’n bwysig rhoi ar gofnod bod 56 y cant o’r holl fuchesi godro yng Nghymru eleni wedi cael eu heffeithio gan ryw fath o gyfyngiadau yn deillio o ddigwyddiad o’r clefyd hwn—56 y cant. Ddeng mlynedd yn ôl, 38 y cant o’r holl fuchesi a gafodd eu heffeithio. Felly, ie, mae gostyngiad yn y nifer, ond mae yna gynnydd yn y ganran. Mae cynnydd arbennig, wrth gwrs, yn yr ardaloedd hynny sydd i fod yn ganolbwynt ar gyfer gweithredu dwys yn erbyn y clefyd yma: gogledd sir Benfro, rhannau o sir Gâr, a chynnydd syfrdanol yn nyffryn Clwyd yn ddiweddar, sydd yn dipyn o ergyd i’r rhai sy’n meddwl bod y clefyd o dan ryw fath o reolaeth yng Nghymru.
Mae yna gost sylweddol iawn i’r trethdalwr, achos fe delir—ac fe ddylid eu talu, wrth gwrs—y ffermwyr ar gyfer eu colled o dda, ac mae’r gost honno tua £100 miliwn y flwyddyn dros Brydain gyfan. Mae canran sylweddol o hynny—degau o filiynau—yn deillio o Gymru.
Mae yna un agwedd arall yr hoffwn ei hagor reit ar ddechrau’r ddadl hon, i’r Aelodau fod yn hysbys yn ei chylch, sef, nawr ein bod wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r statws marchnata rhwng Cymru a gweddill Prydain a gweddill yr hyn sy’n weddill o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynllun difa TB yn gynllun Llywodraeth Cymru—mae’n gynllun Cymru—ond y mae hefyd, yn bwysig iawn, yn gynllun y Comisiwn Ewropeaidd; mae wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae wedi’i dalu amdano, yn helaeth iawn, gan y Comisiwn Ewropeaidd. Oherwydd bod gennym ni gynllun yn ei le sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn, nid oes unrhyw ffordd i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd gwestiynu cynnyrch o Gymru. Mae cynnyrch o Gymru yn cael ei dderbyn ym mhob man yn y farchnad sengl, ac nid oes modd gwrthwynebu hynny. Ond, unwaith yr ydym ni wedi gadael y farchnad sengl, fel sy’n cael ei gynnig gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, mae modd cwestiynu Cymru wedyn. Mae gennym lefel uwch o TB yn ein gwartheg ni, ac mae modd cwestiynu, felly, a ddylid derbyn cynnyrch llaeth a chynnyrch biff o Gymru i wledydd fel Ffrainc, neu unrhyw ran arall o’r farchnad sengl. Nid oes sicrwydd y bydd gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn awr yn derbyn hynny, ac fe atgyfnerthwyd hynny ddim ond y bore yma gan Peter Midmore. Fe ddaeth Peter Midmore o Brifysgol Aberystwyth i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a gofynnwyd i’r Athro Midmore a oedd yna risg o hyn yn digwydd, a dywedodd e, yn blwmp ac yn blaen, ‘Real risk’—risg go iawn y bydd hyn yn digwydd, achos mae modd caniatáu o dan reolau’r WTO, atal allforion os oes yna broblem clefyd mewn gwlad neilltuol.
A wnaiff y gŵr anrhydeddus dderbyn ymyriad?
Gwnaf yn wir, fe ildiaf.
Nid yw’n anrhydeddus o gwbl. [Chwerthin.]
A gaf fi ganmol Simon am gyflwyno’r ddadl hon, ond hefyd am y ffordd y mae wedi ei chyflwyno yn bwyllog a rhesymegol iawn? Mae’n llygad ei le; clywsom y pryder hwnnw heddiw, ac rwyf wedi ei glywed gan ffermwyr unigol yn fy etholaeth yn ogystal ag eraill rydym wedi eu cyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae hynny’n ei gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys y tri a oedd yn dymuno gadael yr UE, ond hefyd ein Hysgrifennydd Cabinet da ein hunain, i’w gwneud yn glir i’r Comisiwn Ewropeaidd, i Aelodau’r Undeb Ewropeaidd o Senedd Ewrop sydd yno ar hyn o bryd, ac i arweinwyr y cenhedloedd eraill y dylai’r hyn sy’n dderbyniol yn awr fod yn dderbyniol ar wedyn hefyd. Os oes gennym raglen i ddileu TB ledled y DU—er bod gwahaniaethau—sy’n dderbyniol yn awr, nid oes unrhyw reswm o fath yn y byd i’w gwneud yn annerbyniol yfory. Dyna sydd angen i ni ei ddweud ar hyn o bryd.
Nid wyf yn anghytuno â Huw Irranca-Davies ar y mater hwnnw, ond byddwn yn dweud wrtho nad wyf yn credu bod y pethau hyn wedi eu gwarantu o gwbl gan fod cymaint o ansicrwydd yn y sefyllfa rydym ynddi.
Mae’n rhaid i mi ddod â fy sylwadau agoriadol i ben er mwyn i Aelodau eraill gael dweud eu barn, ond credaf ei bod yn bwysig cofnodi mai’r cyngor clir bob amser i Lywodraeth Cymru oedd y dylem ymdrin â TB yn y boblogaeth anifeiliaid fferm a’r boblogaeth bywyd gwyllt. Pan oedd gan y Llywodraeth bolisi brechu credadwy, credaf ei bod wedi gallu perswadio llawer o bobl, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, ac eraill ledled y Deyrnas Unedig, ei bod yn bosibl ymdrin â phroblem bywyd gwyllt drwy frechu moch daear. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau eraill yn y ddadl yn dweud pa un a yw hwn yn bolisi effeithiol ai peidio, ond mae’n ffaith ei fod wedi llenwi bwlch, gan ei fod yn dangos bod rhywbeth yn cael ei wneud am y fector bywyd gwyllt. Nid yw’r brechlyn hwnnw ar gael mwyach. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru ers blwyddyn fan lleiaf. Mae yna seiliau moesol difrifol dros holi a ddylem fod yn defnyddio brechlyn a fyddai’n fwy defnyddiol, mewn gwirionedd, yn Affrica ac mewn gwledydd sydd â TB ym mhoblogaeth eu plant ifanc, lle mae angen mwy a mwy o’r brechlyn ar foch daear mewn gwirionedd er mwyn iddo weithio ynddynt. Felly, credaf fod angen i ni weld cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru. Os nad ydym am ddefnyddio brechlyn i ymdrin â’r fector bywyd gwyllt, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun cydlynol ar gyfer ymdrin â TB mewn moch daear, gan mai dyna yw’r broblem yn y bôn.
Nid yw hyn yn ymwneud â throsglwyddo’r clefyd yn uniongyrchol rhwng moch daear a gwartheg. Nid ydynt yn mynd o gwmpas y lle yn lapswchan. Mae’n bresennol yn y porfeydd. Mae’n ymwneud, weithiau, â’r ffordd y mae ffermwyr yn cyflawni eu harferion eu hunain. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod yn amlwg drwy’r amser, er enghraifft, ynglŷn â’r defnydd o slyri a dulliau eraill. Ond mae’n endemig, ac mae’n endemig iawn mewn rhannau o Gymru, ac os nad oes gennym gynllun credadwy ar gyfer cael gwared arno, byddwn yn wynebu anawsterau masnach, byddwn yn wynebu anawsterau iechyd anifeiliaid a byddwn yn wynebu anawsterau ariannol difrifol i nifer o’n ffermwyr.
Nid wyf wedi crybwyll difa eto, felly fe soniaf am y difa rwyf am ei weld yn dod i ben. Y difa rwyf am ei weld yn dod i ben yw’r 117,771 o wartheg sydd wedi cael eu difa oherwydd TB yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gadewch i ni siarad am ddifa pan fo raid i ni, ond gadewch i ni ei roi yn y cyd-destun cywir o ran pa anifeiliaid sy’n haeddu ein cefnogaeth. Rwyf am weld pob anifail yn cael ei drin yn gywir, a chyda’r lefel uchaf o les, ac rwyf am weld rhywbeth yn cael ei wneud ynglŷn â’r clefyd mewn gwartheg a moch daear.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon yma heddiw. Methais fynychu’r cyfarfod briffio gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, anfonais gynrychiolydd ac rwyf wedi darllen y nodiadau’n ofalus iawn. Fel y byddwch i gyd yn gwybod, rwyf bob amser wedi ystyried y pwnc o safbwynt sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am symud ymlaen yn syth at fater moch daear. Mae’n wir fod moch daear yn dod i gysylltiad â gwartheg sydd wedi’u heintio â TB buchol, ac fel arall. Mae wedi ei brofi, ar rai achlysuron, fod rhywfaint o gyswllt a rhyngweithio rhwng y ddwy rywogaeth.
Ond hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith fod corff gwyddonol annibynnol wedi cyhoeddi adroddiad Krebs ym 1997. Daeth hwnnw i’r casgliad fod yna ddiffyg tystiolaeth y byddai difa moch daear yn helpu i reoli lledaeniad bTB mewn gwirionedd. Felly, trefnodd Llywodraeth San Steffan gyfres o dreialon i geisio dod o hyd i ateb, ac fe’u galwyd yn Hap-dreialon Difa Moch Daear—RBCT. Glynent at egwyddorion gwyddonol manwl a pharhau am bron i ddegawd. Daethant i’r casgliad na allai difa moch daear, a dyfynnaf, wneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.
Pam felly? Un o’r pethau cyntaf y darganfu’r treial oedd bod cyfraddau TB mewn ardaloedd o ddifa adweithiol—hynny yw, difa ar ôl achos o TB gwartheg—yn uwch nag mewn ardaloedd heb unrhyw ddifa. Roedd yn 20 y cant yn uwch mewn gwirionedd. Cynyddodd hynny ein dealltwriaeth o aflonyddu a gwasgaru, pan fo moch daear â’r clefyd yn gwasgaru ac yn lledaenu’r clefyd hyd yn oed ymhellach. Yn hytrach, er mwyn cael gostyngiad bychan, hyd yn oed, mewn TB buchol, mae’n rhaid difa 70 y cant o boblogaeth moch daear mewn ardal heb fod yn llai na 150 cilomedr sgwâr. Mae’n rhaid gwneud hyn dros gyfnod byr iawn o oddeutu chwe wythnos bob blwyddyn. Wrth gwrs, os ydych yn lladd gormod o foch daear, rydych mewn perygl o ddiddymu’r rhywogaeth yn lleol, sydd eisoes wedi digwydd yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae papur Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn argymell difa yng Nghymru ar y sail hon, ar yr amod ei fod wedi’i dargedu, yn effeithiol ac yn ddi-boen. Cyfeiria ‘di-boen’ at y dull o drapio mewn cewyll a saethu, fel y’i defnyddir gan RBCT. Mae hynny’n cynyddu’r trothwy cost a budd yn sylweddol, sy’n ein harwain at yr hyn sy’n digwydd dros y ffin. Yn Lloegr, mae unrhyw esgus o ddefnydd neu ddiben gwyddonol wedi ei hen anghofio. Mae’r difa sy’n ehangu o hyd yn anwybyddu tystiolaeth Krebs yn llwyr. Mae’n drychineb digamsyniol ac yn dwll du ariannol. Ac mae’n ddigon posibl ei fod yn gwneud y broblem ddifrifol iawn i ffermwyr yn llawer gwaeth.
Yma yng Nghymru, fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y cyn-Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd y byddai’n rhaid atal brechu moch daear dros dro yn yr ardal dan reolaeth oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn BCG. Ar y pryd, roeddem bedair blynedd i mewn i brosiect pum mlynedd yn yr ardal triniaeth ddwys honno, sydd yn fy rhanbarth. Rwy’n deall ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailasesu ein strategaeth yn unol â hynny. Ond wrth wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i lynu at y wyddoniaeth. Fel y dywedodd yr Arglwydd Krebs yn ddiweddar am—nid wyf am ddweud ‘treialon’, rwyf am ddweud y ‘difa yn Lloegr’:
Mae difa moch daear yn fater eilradd. Yr unig ffordd effeithiol o atal TB yw atal y lledaeniad o fuwch i fuwch drwy gynnal mwy o brofion a phrawf llawer gwell.
Ac mae hynny hefyd, gyda llaw, yn egluro’r cynnydd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, o 50 y cant yn nifer y buchesi y nodwyd eu bod wedi’u heintio, gan ein bod mewn gwirionedd wedi eu sgrinio’n amlach ac yn fwy rheolaidd.
Rwy’n canmol Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd difrifol y mae wedi dadlau ei achos, yn enwedig ei gasgliad, gan mai dyna sut yr oeddwn yn bwriadu dechrau fy araith, beth bynnag, er mwyn tynnu sylw at y difa gwartheg sylweddol sydd wedi digwydd—heb unrhyw ymgynghori. Ers 1996, mae bron i 120,000 o wartheg wedi cael eu lladd yn rhan o’r broses o reoli twbercwlosis mewn gwartheg. Felly, mae’n rhaid ystyried y ddadl hon, sy’n digwydd mor aml yng nghyd-destun y rhaglen ddifa moch daear, mewn cyd-destun llawer ehangach, gan fod rhywogaethau eraill hefyd wedi cael eu difa yn naturiol yn sgil y cynnydd afreolus yn nifer y moch daear yng nghefn gwlad—draenogod, llyffantod, nadroedd, nadroedd defaid, ac yn y blaen. Felly, gall natur gignoeth fod yn annymunol iawn, gwaetha’r modd, ond dyna yw realiti bywyd gwyllt.
Mae’r problemau yng Nghymru yn arbennig o ddifrifol. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2015, lladdwyd 9,500 o wartheg, sy’n gynnydd o 43 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’n broblem arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Yn Sir Benfro, bu cynnydd o 55 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd hyd at fis Mehefin 2015. Yn Sir Gaerfyrddin, bu cynnydd o 89 y cant. Cyfeiriodd Simon at y problemau penodol yng Nghlwyd, lle bu cynnydd o 129 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd. Mae’r rhain yn ffigurau ofnadwy ac mae pob un yn drasiedi i’r fferm yr effeithiwyd arni a’r teulu sy’n ei ffermio.
Felly, nid yw hon yn broblem sy’n mynd i gael ei datrys yn fuan iawn. Y drasiedi ar hyn o bryd, yn sgil y diffyg brechlyn, yw nad oes gan y Llywodraeth unrhyw bolisi i bob pwrpas. Mae canran y buchesi yng Nghymru sydd o dan gyfyngiad ar hyn o bryd wedi codi o bron 4 y cant yn 2006 i bron 6 y cant yn 2015, ac mae hynny wedi arwain hefyd at gostau ac anawsterau sylweddol i’r ffermydd unigol dan sylw. Heb os, mae brechu’n rhan o’r ateb i’r broblem, ond ni fydd gennym frechlyn ar gael yn gyffredinol tan o leiaf 2023, yn ôl y diwydiant.
Hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu, rhaid i ni gofio na fyddai hynny’n creu imiwnedd mewn moch daear sydd eisoes wedi’u heintio, er y byddai’n helpu i atal moch daear eraill rhag cael eu heintio. Fodd bynnag, dywedir ei bod yn bosibl nad yw effeithiolrwydd y brechiad ei hun yn fwy na 70 y cant neu 80 y cant. Felly, hyd yn oed pe bai gennym bolisi brechu priodol, ni fyddai hynny’n ateb 100 y cant.
Mae cost y polisi presennol yn sylweddol—neu’r polisi a oedd gennym tan i’r brechlyn ddiflannu, hynny yw. Yn 2015, gwariwyd £922,000 ar 1,118 o foch daear—sef £825 am bob mochyn daear. Ni wn sut y gallwn ddod i’r casgliad fod hwn yn bolisi y gallwn ei fforddio, os yw’n mynd i gael ei roi ar waith i gyflawni’r lefelau yr hoffem eu gweld o ran cael gwared â’r haint.
Mae gwell gwyliadwriaeth a bioddiogelwch yn bwysig hefyd, a heb amheuaeth, maent wedi cael effaith ar y ffigurau. Maent wedi lleihau nifer y digwyddiadau newydd—mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny—o 1,112 yn 2012 i lawr i 854 yn 2014, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. Ond mewn gwirionedd, mae nifer y gwartheg a laddwyd wedi codi wrth i nifer y buchesi a heintiwyd bob blwyddyn ostwng. Yn 2014, lladdwyd 8,103 o wartheg, o gymharu â 6,102 yn 2012.
Mae’n rhaid i ni gofio bod twbercwlosis yn glefyd ofnadwy, a bod y moch daear a heintiwyd yn dioddef hefyd. Felly, bydd unrhyw ddull y gallwn ei ddefnyddio a fydd yn arwain at y budd hirdymor o leihau nifer yr achosion o TB mewn moch daear yn dda i’r moch daear eu hunain. Mewn gwirionedd, mae’n greulon cael polisi nad yw’n gweithio. Felly credaf, efallai, y dylem fod yn llai cysetlyd ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’r mater hwn.
Nid oes amheuaeth fod moch daear yn lledaenu twbercwlosis i wartheg—mae hynny wedi ei brofi’n wyddonol. Mae wedi ei brofi hefyd fod difa moch daear yn lleihau’r achosion o TB mewn buchesi. Clywais yr hyn a ddywedodd Joyce Watson ynglŷn ag adroddiad Krebs, ond mae adroddiad Krebs wedi cael ei feirniadu am lawer o resymau oherwydd y gwendidau a’r anomaleddau yn ei strategaethau. Nid oes amser gennym i drafod hynny heddiw. Ond cytunaf â’i chasgliad o’r adroddiad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain y bydd yn rhaid i bolisi difa di-boen ac effeithiol wedi’i dargedu fod yn rhan o bolisi difa hirdymor. Gellir gwneud hyn mewn ffyrdd di-boen. Nid yw saethu gyda reifflau o bell yn ffordd ddi-boen nac effeithiol o wneud hynny—nid yw’n rhywbeth y byddwn yn ei gefnogi. Ond ceir dulliau mwy di-boen o drapio a nwyo mewn brochfeydd â charbon deuocsid, ac nid yw hynny’n angheuol i foch daear, ac eithrio mewn rhai dosau, felly os nad yw’n cael ei wneud yn iawn, nid ydynt yn teimlo unrhyw effaith wael.
Felly, ofnaf y bydd y difa’n parhau—nid difa moch daear, fodd bynnag, ond difa gwartheg, gyda’r holl gostau. Credaf fod Simon Thomas yn llygad ei le yn cyfeirio at y costau emosiynol sydd ynghlwm wrth hyn, yn ogystal â’r costau ariannol. Yn y pen draw, o ran ein trafodaethau gyda’r UE, cytunaf gydag ef a Huw Irranca-Davies y gallai hwn fod yn rhwystr y bydd yn rhaid i ni ei oresgyn. Mae’n hynod bwysig, felly, fod gan Lywodraeth Cymru safbwynt cadarn ar hyn, a chredaf fod Huw Irranca-Davies wedi dangos y ffordd ymlaen—o dan y drefn bresennol sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, nid oes unrhyw esgus o gwbl dros ddefnyddio hyn, fel y gwnaeth Ffrainc mewn perthynas â BSE, i geisio rhwystro allforion cynhyrchion cig o Gymru neu’r Deyrnas Unedig.
Felly, er nad oes gennym ateb cyflawn, efallai, o ran y problemau mewn perthynas â TB buchol, efallai ein bod heddiw, mewn dadl drawsbleidiol, wedi dechrau archwilio’r atebion y bydd y Llywodraeth, yn anochel, yn gorfod eu hwynebu yn y pen draw.
Fel y dywed NFU Cymru wrthym yn eu briff, TB buchol yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant gwartheg yng Nghymru. Maent yn ychwanegu bod methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r clefyd yn effeithiol mewn bywyd gwyllt yn golygu ei fod yn parhau i effeithio nid yn unig ar geidwaid gwartheg a’u teuluoedd ond ar y rhai ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi hefyd.
Maent yn dweud bod TB buchol yn
‘glefyd cymhleth sydd rhaid ei daclo’n gyfan o bob ochr, yn cynnwys mynd i’r afael â ‘r cronfeydd o glefyd mewn bywyd gwyllt, os bydd gennym unrhyw obaith o ddileu’r clefyd’.
Rydym eisoes wedi clywed bod nifer yr achosion newydd a gofnodwyd mewn buchesi yng Nghymru hyd at fis Mehefin wedi gostwng 16 y cant y llynedd, ond bod nifer y gwartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi codi 43 y cant yn y cyfnod cyfatebol. Ychwanegodd Undeb Amaethwyr Cymru ystadegyn sy’n dangos bod nifer y gwartheg yng Nghymru a gafodd eu difa oherwydd TB buchol yn y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2016 yn wedi cynyddu mwy na 900 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Dywed NFU Cymru fod rhoi diwedd ar raglen frechu Llywodraeth Cymru oherwydd prinder byd-eang o’r brechlyn wedi arwain at ddiffyg polisi, a hoffai llywydd UAC atgoffa holl Aelodau’r Cynulliad pa mor hanfodol yw hi fod Llywodraeth Cymru yn rhoi strategaeth ar waith i fynd i’r afael â TB buchol mewn gwartheg a bywyd gwyllt, gan ei bod yn anodd gweld heb hynny, meddant, sut y gallwn sicrhau cytundebau masnach â gwledydd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE—pwynt a wnaed yn effeithiol gan siaradwyr yn gynharach.
Wrth siarad yma saith mlynedd yn ôl, dywedais fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod
‘methu â mynd i’r afael â ffynonellau’r haint ymysg bywyd gwyllt wedi golygu bod y clefyd wedi para’n hwy ymhlith poblogaethau’r holl rywogaethau yr effeithir arnynt.’
Wrth siarad yma dair blynedd yn ôl, dyfynnais ddatganiad gan lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn y cinio blynyddol yng Nghymru, sef
‘bod arnom angen yr holl adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r clefyd, a rhaid i hynny gynnwys difa moch daear mewn ffordd drugarog wedi’i thargedu o dan amgylchiadau penodol’.
Roedd hynny dair blynedd yn ôl. Mewn e-bost, dywedodd meddyg teulu sydd wedi ymddeol yn Ninbych, ‘Mae moch daear wedi marw ar ochr y ffordd yn olygfa gyffredin. Maent yno am wythnosau. Os yw’r moch daear hyn yn cario TB, mae’n rhaid bod perygl y bydd yr haint yn cael ei drosglwyddo i wartheg ac anifeiliaid eraill. Dylai rhywun fod yn gyfrifol am gael gwared ar foch daear marw oddi ar briffyrdd cyhoeddus.’
Nawr, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn nodi bod tystiolaeth wyddonol yn profi bod moch daear a gwartheg yn lledaenu bTB i wartheg. Mae eu safbwynt yn cefnogi dull cynhwysfawr o fynd i’r afael â TB buchol, yn seiliedig ar ddefnyddio ymchwil wyddonol, ynghyd â’r defnydd o epidemioleg milfeddygol. Dywedant fod yn rhaid rhoi mesurau rheoli gwartheg ar waith ar yn un pryd ac ochr yn ochr â mesurau cydlynol ar gyfer moch daear, mathau eraill o fywyd gwyllt a rhywogaethau fferm sy’n agored i’r haint. Maent yn credu ei bod yn hanfodol lladd gwartheg sy’n profi’n bositif am TB buchol er mwyn rheoli’r clefyd mewn gwartheg, ond nad yw hynny wedi bod yn ddigon i reoli’r clefyd. Felly, maent hefyd yn credu bod angen difa moch daear mewn modd di-boen ac effeithiol wedi’i dargedu mewn ardaloedd sydd wedi eu dethol yn ofalus. Dywedant y dylai brechu gwartheg a moch daear fod yn rhan ganolog o unrhyw bolisi i ddileu TB buchol, ond na ddylid gorbwysleisio neu orliwio ei rôl bresennol, gan ychwanegu na phrofwyd bod brechlyn BCG moch daear yn diogelu rhag yr haint, nad yw’n effeithio ar foch daear a heintiwyd cyn cael eu brechu, ac nad oes brechlyn gwartheg trwyddedig ar gael hyn o bryd, sy’n golygu na allai’r DU fasnachu anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mark?
Wythnos diwethaf—. Gwnaf ar hwn.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A oes unrhyw dystiolaeth o gwbl, pan gaiff moch daear eu difa, eu bod wedi cynnal profion ar y rhai a heintiwyd a’r rhai a oedd heb eu heintio â bTB? Oherwydd, os ydych yn sôn am gael darlun cyflawn, byddai angen gwneud hynny hefyd.
Unwaith eto, yn anffodus ni alloch fynychu’r cyfarfod yr wythnos diwethaf, ond esboniodd cynrychiolydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain y problemau gyda phrofion hefyd, ac mae angen eu datblygu. Felly, pan gynhaliais eu cyfarfod briffio yn y Cynulliad ar TB gwartheg yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at eu sylwadau hanesyddol, ond clywsom yn y cyfarfod hwnnw fod yr adroddiad ar yr hap-dreial difa moch daear yn 2007 wedi canfod bod moch daear yn cyfrannu’n sylweddol at y clefyd mewn gwartheg, a bod trosglwyddo o fuwch i fuwch hefyd yn bwysig iawn. O ran brechu gwartheg, clywsom nad yw brechlyn BCG yn diogelu unrhyw rywogaeth yn gyfan gwbl, nad yw’r prawf gwahaniaethu rhwng anifeiliaid wedi’u brechu ac anifeiliaid wedi’u heintio wedi’i ddilysu eto, a bod hyn yn anghyfreithlon yn yr UE ar hyn o bryd. Cawsom ein hatgoffa bod yr hap-dreial difa moch daear rhwng 1998 a 2006 wedi canfod bod difa moch daear yn rhagweithiol yn lleihau nifer y digwyddiadau TB mewn buchesi gwartheg. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn cefnogi difa moch daear fel rhan o strategaeth gynhwysfawr, ar yr amod ei fod wedi’i dargedu, yn effeithiol ac yn ddi-boen. Er eu bod, fel y clywsom, wedi tynnu’n ôl eu cefnogaeth i’r defnydd o saethu a reolir, maent wedi galw am gyflwyno rhaglenni difa yn ehangach, gan ddefnyddio trapio mewn cewyll a saethu mewn ardaloedd wedi’u dethol yn ofalus yn unig. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru roi camau pendant ar waith i fynd i’r afael â TB gwartheg, gan weithio gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain i gyflwyno’r strategaeth TB gwartheg gynhwysfawr a gwyddonol y maent yn galw amdani ochr yn ochr â’r diwydiant a llawer yn y gymuned wyddonol ehangach. Diolch.
Rŷm ni’n gwybod beth yw effaith ddinistriol y diciâu yn economaidd ar deuluoedd a busnesau fferm, ar gymunedau, ac yn emosiynol hefyd ar unigolion, gan chwalu cenedlaethau o waith a gofal yn datblygu stoc o linach ac o ansawdd. Nid oes angen i mi baentio’r darlun yna, ond rydw i yn poeni weithiau ein bod ni’n cael ein dad-sensiteiddio, yn enwedig efallai os nad ŷm ni fel gwleidyddion yn agos at rai o’r cymunedau a’r unigolion yma sy’n cael eu heffeithio.
Fel rhywun sy’n byw ar fferm deuluol—ac mae’n angenrheidiol i mi ddatgan diddordeb, wrth gwrs, gan fod fy ngwraig yn bartner mewn busnes fferm—mae gweld ffermydd ffrindiau a chymdogion yn mynd lawr â TB—mae’r un mor erchyll o brofiad iddyn nhw heddiw ag y mae wedi bod erioed. Mae methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i daclo’r haint yn effeithiol yn golygu, wrth gwrs, bod y gwewyr a’r torcalon yna yn mynd i barhau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Nid yw yr ystadegau diweddaraf, a bod yn onest, yn ddim cysur i mi. Do, rŷm ni wedi gweld gostyngiad yn yr achosion o fuchesi sy’n cael eu heintio, ond, wrth gwrs, mae yna 30 y cant yn llai o fuchesi yn bodoli nawr o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, ac mae hynny yn dweud stori yn ei hun, yn fy marn i. Mae 5.6 y cant o fuchesi o dan gyfyngiadau heddiw o’i gymharu, fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, â 3.8 y cant yn 2006. Ac, wrth gwrs, y cynnydd sylweddol yma rŷm ni wedi glywed amdano yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu lladd—43 y cant yn genedlaethol dros gyfnod o 12 mis. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at Clwyd, yr ardal rwy’n byw ynddi—cynnydd o 129 y cant o’r gwartheg sy’n cael eu difa. Wrth gwrs, fe fydd pobl yn dweud, ‘Wel, rŷm ni’n profi mwy’. Ydym, fe rŷm ni—5 y cant yn fwy o brofion yng Nghlwyd; 129 y cant yn fwy o wartheg yn cael eu difa.
Mae’r prawf croen sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod TB wedi bod yn llwyddo i helpu i reoli a dileu’r haint o nifer o wledydd dros y 50 mlynedd diwethaf. Ac, yn ddiddorol, nid yw ond yn methu lle mae’r haint yn bodoli mewn bywyd gwyllt. Ym Mhrydain, mi oedd y prawf yn llwyddiannus iawn yn y 1950au a’r 1960au, heblaw am mewn ardaloedd â nifer uchel o foch daear.
Rŷm ni’n gwybod am y sefyllfa yn Lloegr—roedd yna gwymp o 53 y cant yn yr achosion newydd o fuchesi wedi eu heintio yn y chwe mis ar ôl cwblhau treialon difa moch daear ‘proactive’ yn Lloegr. Mae yna gwymp o rhwng 60 y cant a 96 y cant wedi bod yn y raddfa yr oedd buchesi yn cael eu cadarnhau i fod â chyfyngiadau arnyn nhw yn dilyn difa moch daear yng Ngweriniaeth yr Iwerddon.
Rŷm ni wedi clywed am gonsyrn ynglŷn â pherthynas masnachu Cymru â gweddill y byd. Wel, mi aeth Awstralia a Seland Newydd ati i ddileu TB yn llwyddiannus oherwydd y bygythiad penodol o gyfyngiadau masnachol ar eu cynnyrch amaethyddol nhw achos bod lefelau uchel o heintio. Yn ganolog, wrth gwrs, i’r llwyddiant hwnnw oedd rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt.
Mae’n rhaid i mi ddweud bod clywed Carwyn Jones yn y Siambr yma wythnos diwethaf yn dweud mewn rhyw arddull reit ffwrdd-â-hi nad oedd bygythiad mewn gwirionedd i fasnachu ac allforio o Gymru oherwydd TB—mi oedd hynny yn destun gofid i mi, a dylai fod yn destun gofid i bob un ohonom ni. Peidiwch chi â disgwyl i wledydd eraill i’w gwneud hi’n hawdd i ni; mae’r ‘stakes’ yn uwch nawr nag y maen nhw wedi bod erioed, ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ddefnyddio pob arf posibl i daclo TB yn fwy effeithiol.
A beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud? Rŷm ni fel gwleidyddion yn licio dweud yn aml iawn, ‘Pan fyddem ni’n trafod polisi iechyd, mae’n bwysig i ni wrando ar lais y doctoriaid a’r nyrsys; pan fyddem ni’n trafod polisi addysg, mae’n bwysig i ni wrando ar yr athrawon.’ Mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg hynny ryw awr a hanner yn ôl pan oeddem yn sôn am leihau maint dosbarthiadau, er bod yr OECD, academyddion a chyrff ymchwil yn dweud yn wahanol—’O, na, mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar lais yr athrawon a rhieni’. Ie, ocê, efallai mai fel yna y dylai hi fod. Beth felly mae’r gweithwyr sydd yn y rheng flaen yn y frwydr yna yn erbyn diciâu mewn gwartheg yn ei ddweud wrthym ni? Gofynnwch i’r milfeddygon. Gofynnwch i’r BVA, cymdeithas milfeddygon Prydain. Maen nhw o blaid difa moch daear fel rhan o strategaeth gynhwysfawr i daclo diciâu, a dyna yn union sydd ei angen yn fy marn i hefyd. Mae’r amser wedi dod i’r Llywodraeth yma fod yn ddewr ac i wynebu y realiti unwaith ac am byth. Mae angen cynllun difa moch daear fel rhan o’r ateb i’r diciâu yng Nghymru ac mae ei angen ef nawr.
Rwy’n llongyfarch Simon Thomas ar gael y ddadl hon ac am gynnig ei gynnig heb grybwyll moch daear, rwy’n credu, a chredaf ein bod i gyd yn gwybod mai moch daear oedd hanfod y ddadl i ddod. Rwy’n ei chael hi’n anarferol siarad ar hyn o bryd gan nad oes gennyf farn gref o blaid neu yn erbyn difa moch daear fel ateb posibl neu o leiaf fel ffordd o wella, lliniaru, y sefyllfa o ran TB gwartheg. Pleidleisiais yn erbyn y difa a ddigwyddodd yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw, ond i mi roedd yna ddadleuon cryf ar y ddwy ochr, a chlywyd gan ffermwyr yr effeithiwyd arnynt a sawl un a oedd yn pryderu am y creulondeb posibl ac awydd i amddiffyn moch daear a ysgrifennodd ar yr ochr arall i’r ddadl. Rwy’n credu, ar y pwynt hwnnw, fodd bynnag, fod y posibilrwydd o frechu fel ateb arall yn—rwy’n meddwl bod mwy o optimistiaeth ynghylch hynny, efallai, nag yn awr, rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Fel cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mae hwn yn rhan o gylch gorchwyl y pwyllgor a rhaid i ni fel aelodau o’r pwyllgor benderfynu faint o’n hamser rydym yn dymuno’i roi i ddeall y mater hwn yn well a cheisio symud y sefyllfa yn ei blaen.
Rwy’n cymeradwyo Simon Thomas ar eiriad ei gynnig. Rwy’n credu efallai y gall y bobl sy’n credu y gallai brechu fod yn ateb realistig o hyd neu sydd â syniadau eraill ynglŷn â sut y gellid ymdrin â TB buchol gefnogi’r cynnig hwn. Ond yr hyn y byddwn i’n ei ofyn, beth bynnag yw safbwynt Aelodau, rwy’n gobeithio na fyddem yn glynu’n rhy bendant at ein safbwynt heb ganolbwyntio ac ymdrechu’n galed i ddeall tystiolaeth newydd a allai ddod gerbron. Rydym wedi clywed, rwy’n meddwl, am astudiaeth Krebs a gynhaliwyd o’r blaen, a rhai astudiaethau eraill mwy diweddar y cyfeiriodd pobl atynt, fel rhai y gallai fod goblygiadau gwahanol iddynt o bosibl. Ond hefyd, ar ochr y ffermwyr, gallaf weld y boen y mae’r mater hwn yn ei achosi iddynt, ond rwyf hefyd yn ofni y bydd y syniad o ddifa moch daear yn ateb i rai, os nad yn ateb i bob dim, ac rwy’n meddwl bod llawer o ffydd yn cael ei roi yn hynny. Ond pe baem yn dilyn trywydd cynlluniau sylweddol a pharhaus iawn i ddifa moch daear, nid yw’n glir i mi o leiaf, faint o effaith y byddai hynny’n ei chael ar y broblem, hyd yn oed pe bai’n cael rhywfaint o effaith, ac rwy’n parhau i astudio’r dystiolaeth ar y naill ochr a’r llall i hyn.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w ddweud wrthym ymhen dwy neu dair wythnos yn ei datganiad. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr adroddiad llawn ar y difa yng Ngwlad yr Haf ac yn Swydd Gaerloyw, a fydd ar gael yn ddiweddarach yr hydref hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Hyd yn oed os na fydd y sail wyddonol dros y difa yn y fan honno mor gryf ag y gallem fod ei eisiau o ran cymhariaeth, gan fod anawsterau wedi bod gyda’r ffordd y cafodd ei gynnal, rwy’n gobeithio y bydd yn symud y ddadl yn ei blaen ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n parhau i ymwneud â hyn wrth i ni ar y pwyllgor wneud yr hyn a allwn i symud y mater yn ei flaen. Edrychaf ymlaen, rwy’n gobeithio, at weld hyn yn parhau i gael ei drafod yn y Siambr hon er mwyn i ni allu adrodd rhywfaint ar y mater a gwneud y peth iawn, cystal ag y gallwn, i ffermwyr yn ogystal ag er gwarchod bywyd gwyllt ac atal creulondeb o bob math. Diolch.
Roeddwn eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar y trallod personol sy’n cael ei achosi i fusnesau a theuluoedd ffermio. Rwy’n credu bod busnesau ffermio yn unigryw yn y ffaith nad yw’r ffermwr yn mynd allan i weithio am wyth ac yn dychwelyd am chwech. Mae’r teulu cyfan yn rhan o’r busnes, gan gynnwys plant, a phan fydd problem ar y fferm, mae’n effeithio ar y teulu cyfan.
Lywydd, cysylltodd ffermwr â fy swyddfa yr wythnos diwethaf a siaradodd gyda fy rheolwr swyddfa ac roedd y ffermwr yn ei ddagrau. Roedd yn sgwrs emosiynol gyda fy rheolwr swyddfa, i’r fath raddau nes iddi effeithio ar fy rheolwr swyddfa yn ogystal.
Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei wneud heddiw oedd darllen detholiad o lythyr a anfonodd ataf, ac a fydd yn ôl pob tebyg yn cymryd y rhan fwyaf o’r amser sydd gennyf. Ond roeddwn yn meddwl ei fod yn ddarn pwerus. Mae’n dweud, ac rwy’n dyfynnu:
Fferm fechan ydym ni ac mae gennym fuches gaeedig sydd, yn anffodus, yn colli ei hanifeiliaid yn gyflym oherwydd lledaeniad TB gwartheg. Nid ydym wedi prynu unrhyw wartheg ers 65 mlynedd ac nid oes gwartheg gan neb o’n cymdogion cyfagos felly nid yw’n bosibl ei fod yn lledaenu o fuwch i fuwch.
Cawsom ein hachos cyntaf o TB chwe blynedd yn ôl, a gobeithiem na fyddai rhaid i ni fynd drwy’r dinistr hwn byth eto. Ar ôl prawf rheolaidd, roedd gennym wartheg adweithiol y bu’n rhaid eu lladd, yn anffodus; gwartheg a oedd yn gyflo ers peth amser oedd y rhain, ond o dan reoliadau lles anifeiliaid ni chânt deithio os ydynt i fod i fwrw lloi o fewn 28 diwrnod felly rhaid eu lladd ar y fferm. Fodd bynnag, bydd y llo bach yn mygu’n araf y tu mewn i’r groth—ffordd greulon a barbaraidd o farw, a’r digwyddiad mwyaf emosiynol y gallai neb fod yn dyst iddo.
Bydd yr un drefn o ladd ar y fferm yn digwydd os yw’r fuwch wedi rhoi genedigaeth i’w llo newydd o fewn y 7 diwrnod diwethaf. Bydd y fuwch sydd wedi adweithio i brawf TB yn cael ei saethu, gan adael y llo newydd-anedig yn amddifad.
Unwaith eto, mae hwn yn brofiad echrydus o emosiynol yn enwedig os mai chi yw’r person sydd wedi magu’r fuwch ers iddi gael ei geni, a hefyd wedi helpu cenedlaethau o’i blaen i ddod i’r byd. Er nad yw’n ymddangos ein bod yn cael gwared ar y clefyd, rydym fel pe baem yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, ond heb fynd i’r afael ag atal TB.
Yn Lloegr, pan fydd buwch yn cael prawf TB a’r llo i fod i’w eni o fewn 28 diwrnod, caniateir i’r fuwch aros ar y fferm a’i chadw ar wahân i weddill y fuches, bydd y llo’n cael ei eni’n naturiol a’r fam yn cael ei symud 7 diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth.
Ac yn Iwerddon, os oes gan fuches wartheg sydd wedi adweithio i brawf TB, bydd pob mochyn daear o fewn radiws o dri chilometr i’r fferm honno yn cael ei ddifa. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dysgu o brofiad gwledydd cyfagos sy’n dangos bod angen dull deublyg o ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt er mwyn llwyddo i ddileu TB gwartheg.
Nawr, i mi, wrth ddarllen hwn, nid wyf yn credu mai’r undebau a’r sefydliadau eraill yn unig yw hyn, ond profiad go iawn ffermwr sydd wedi dioddef y clefyd hynod o greulon hwn. Nid yw ffermwyr eisiau gweld difa bywyd gwyllt er ei fwyn ei hun, ond yr hyn rydym ei angen yw opsiwn sy’n ystyried yr holl opsiynau i ddileu’r clefyd creulon hwn. Hoffwn ddweud yn syml wrth Ysgrifennydd y Cabinet: peidiwch â throi eich cefn ar amaethyddiaeth yng Nghymru a theuluoedd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniad cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn ymateb.
Hoffwn ddiolch i Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton a Llyr Gruffydd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwy’n cytuno bod angen i ni fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd. Nid wyf yn cytuno mai difa moch daear yw’r dull mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â TB buchol. Mewn gwirionedd, mae’r holl dystiolaeth wyddonol yn dangos mai o fuwch i fuwch y caiff y clefyd ei drosglwyddo’n bennaf, ac ni fydd lladd moch daear yn cael gwared ar drosglwyddo o fuches i fuches.
Cynhaliwyd treial difa moch daear annibynnol a chadarn yn wyddonol, a bu’n weithredol am bron i ddegawd gan gostio oddeutu £50 miliwn o bunnoedd, a bywydau 11,000 o foch daear. Yn dilyn y treial, daeth y grŵp gwyddonol annibynnol i’r casgliad nad yw difa moch daear yn gallu gwneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.
Yn wir, oni bai ein bod yn dileu moch daear o Brydain yn llwyr mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall difa arwain at gynnydd yng nghyfraddau haint TB mewn gwirionedd. Mae hyn am fod natur diriogaethol moch daear yn atal moch daear rhydd sy’n dioddef o’r clefyd rhag crwydro ar hyd a lled y wlad. A yw’r rhai sy’n argymell rhaglen ddifa o ddifrif eisiau hela moch daear i ddifodiant? A oes rhaid i ni ddinistrio un o rywogaethau mwyaf eiconig Prydain, a ddiogelir gan eu Deddf Seneddol eu hunain, am ei bod yn rhatach eu lladd yn hytrach na’u brechu hwy yn ogystal â’r gwartheg?
I’r rhai sydd o blaid difa, a wnewch chi egluro sut y byddech yn lladd moch daear yn ddi-boen? Yn ystod treialon difa 2013, roedd tua chwarter y moch daear yn dal yn fyw bum munud ar ôl cael eu saethu. Arweiniodd hyn at alwad Cymdeithas Milfeddygon Prydain i roi’r gorau i saethu a reolir fel dull difa. Nid yn unig y mae difa yn greulon; mae hefyd yn aneffeithiol. Ceir tri pharth difa gweithredol yn Lloegr, ac mae pob un o’r tri wedi gweld cynnydd mewn TB buchol. Nid oes TB yn yr Alban, ac eto mae ganddynt boblogaeth fwy o faint o foch daear. Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad mewn TB buchol heb ladd moch daear, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, maent wedi bod yn lladd moch daear ers 30 mlynedd heb gael unrhyw effaith amlwg ar TB. Maent yn awr yn awyddus i ymestyn y difa i gynnwys ceirw.
I gloi, y mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd yw cynyddu bioddiogelwch a brechu, ac nid dileu holl boblogaeth y DU o foch daear. Diolch yn fawr.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld o’r datganiad busnes diweddaraf, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ddull newydd o ddileu TB ar 18 Hydref. Felly, nid wyf yn bwriadu rhoi gormod o fanylion heddiw. Fodd bynnag, ers i mi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai, rwyf wedi dweud yn glir iawn mai fy mwriad yw adnewyddu’r rhaglen TB yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei bod yn gadarn ac yn addas i’r pwrpas, ac yn sicr ni fyddaf yn troi fy nghefn ar sector amaethyddol hynod o bwysig Cymru.
Cefnogaf y cynnig a argymhellir heddiw, ac rwy’n credu mai’r unig ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn yw defnyddio cyfuniad o’r mesurau mwyaf priodol ac effeithiol sy’n addas ar gyfer y gwahanol ardaloedd sydd mewn perygl yng Nghymru. Rhaid i bob dull a ddefnyddir fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac asesiad o risg milfeddygol, gan ganolbwyntio ar bob llwybr trosglwyddo, nid trosglwyddo o gronfeydd bywyd gwyllt yn unig, sydd i’w weld yn cael yr holl sylw. Mae ymateb yn synhwyrol i lefelau’r clefyd mewn gwahanol rannau o Gymru yn gam pwysig iawn tuag at ddileu TB. Ers i mi ddechrau yn y portffolio hwn ym mis Mai, rwyf wedi siarad â nifer sylweddol o ffermwyr, undebau ffermio, milfeddygon a chyrff eraill yn y diwydiant ar draws Cymru yn y sioeau amaethyddol ac ar ymweliad â ffermydd unigol. Hoffwn sicrhau pawb fy mod yn gwrando ar yr holl bryderon a ddaeth i fy sylw, ac wrth gwrs, bydd fy natganiad y mis nesaf yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut rwy’n bwriadu datblygu ein rhaglen dileu TB yn y dyfodol.
Hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod nifer yr achosion newydd o TB wedi gostwng yn gyson yng Nghymru rhwng diwedd 2012 a chanol 2014, ac ar ôl cyfnod gwastad, mae’r nifer wedi gostwng unwaith eto. Bu gostyngiad o 29 y cant yn nifer yr achosion newydd o TB rhwng 2009 a 2015, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y duedd yn parhau i’r cyfeiriad iawn, gyda gostyngiad o 16 y cant yn ystod y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016. Mae hyn yn golygu, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, fod 66 yn llai o fuchesi dan gyfyngiadau oherwydd achosion TB yng Nghymru.
Mae’r darlun TB ledled Cymru yn un cymhleth. Rwy’n ymwybodol o ddiddordeb cynyddol nifer yn y Siambr hon a’r diwydiant ei hun yn nifer y gwartheg a laddwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf. Fodd bynnag, hoffwn eich sicrhau nad yw hyn yn golygu bod y clefyd ar gynnydd: lladdwyd 9,476 o wartheg at ddibenion rheoli TB yn y 12 mis hyd at fis Mehefin eleni, sy’n gynnydd o 43 y cant o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, ond y rheswm dros y duedd gynyddol ddiweddar yn yr anifeiliaid a laddwyd oedd y niferoedd cynyddol o anifeiliaid adweithiol mewn buchesi a heintiwyd eisoes, yn hytrach na digwyddiadau newydd. Mae llawer o hyn yn deillio o dargedu profion yn well a darllen o dan amodau llym i gynyddu’r sensitifrwydd, ynghyd â’r defnydd o’r prawf gwaed gama interfferon yn y buchesi yr effeithir arnynt yn fwyaf cronig.
O ran bywyd gwyllt, rwy’n cytuno bod angen i raglen effeithiol dargedu pob llwybr trosglwyddo os oes tystiolaeth gadarn i gefnogi’r ymyrraeth honno. Mae fy swyddogion yn cysylltu gyda milfeddygon ac arbenigwyr bywyd gwyllt i ddatblygu ffyrdd o dorri’r cylch trosglwyddo mewn buchesi gydag achosion cronig, lle gellir dangos bod moch daear yn cyfrannu at y broblem. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolwg moch daear marw i’n helpu i ddeall gwir lefel y clefyd yn y boblogaeth moch daear yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu polisi ar lefel leol a lefel genedlaethol lle mae’r clefyd yn endemig. Nid yw’r arolwg wedi’i gwblhau eto. Fodd bynnag, er mwyn rhoi syniad i chi o’r canfyddiadau hyd yn hyn, o’r 584 carcas a gasglwyd hyd yn hyn, roedd 40 wedi’u heintio, sy’n llai na 7 y cant, er bod y lefel hon yn amrywio ar draws y wlad. Mewn ymateb i bwynt a wnaeth rhywun yn flaenorol, nid yw DEFRA yn cynnal profion ar foch daear wedi’u difa yn Lloegr.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Gwnaf.
Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’i Gweinidog cyfatebol yn Lloegr, oherwydd mae’n ymddangos i mi, boed yn yr arolwg moch daear marw neu’r monitro gwyddonol arall sy’n digwydd, mai dyna’n union ddylai fod yn digwydd yn Lloegr fel y gallwn fynd ati’n iawn i brofi’r hyn sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd. Mae’n drueni nad yw hynny’n cael ei wneud dros y ffin ar hyn o bryd, gan y gallai roi gwybodaeth werthfawr i ninnau hefyd.
Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol gyda fy Ngweinidog cyfatebol, ond mae fy swyddogion yn gweithio’n agos iawn, ac fel y gwyddoch, mae’r prif swyddogion milfeddygol yn enwedig—y pedwar ohonynt ar draws y DU—yn cydweithio’n hynod o agos.
Rydym yn awr mewn sefyllfa i nodi a chytuno ar dri chategori o ardal TB ledled Cymru, yn seiliedig ar lefelau digwyddiadau. Bydd hyn yn caniatáu i ni addasu a gweithredu mesurau a dulliau gwahanol sy’n gymesur ac sy’n adlewyrchu lefelau amrywiol y clefyd a risgiau ar draws Cymru.
Mae’n hanfodol ein bod yn cael y mesurau hyn yn iawn er mwyn gwarchod ardaloedd â lefelau isel o’r clefyd a chyfyngu ar nifer yr achosion mewn ardaloedd lle mae’r clefyd bellach yn endemig. Byddaf yn dweud mwy am hyn y mis nesaf yn fy natganiad llafar.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ildio ar y pwynt hwnnw. Croesawaf yr hyn a ddywedodd. Rwy’n deall ei bod yn mynd i wneud datganiad llafar, ac felly nid yw’r manylion yma, ond wrth gwrs, mae un rhan o’r cynnig y mae hi wedi’i dderbyn yn mynd i’r afael yn union â’r hyn y mae hi newydd ei ddweud am ddulliau cymesur mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Os yn bosibl, fodd bynnag, beth bynnag sy’n digwydd yn y sector bywyd gwyllt ar hyn o bryd, a all gadarnhau heddiw nad oes gan Lywodraeth Cymru frechlyn at ei defnydd? A yw hynny’n dal i fod yn wir ar gyfer y dyfodol agos?
O ran y brechu, mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Neil Hamilton, roeddwn yn mynd i ddweud nad yw’r ffaith nad oes gennym gyflenwad o’r brechlyn yn golygu nad oes gennym bolisi—wrth gwrs fod gennym bolisi ac mae’r rhan fwyaf ohono’n ymwneud, yn briodol felly, â mesurau rheoli gwartheg. Nid wyf yn gwybod pa bêl risial sydd gan Neil Hamilton, ond nododd y dyddiad 2023 ac na fyddwn yn gallu brechu tan yr adeg honno. Rydym yn gwybod na fyddwn yn ei gael y flwyddyn nesaf, ond nid oes gennym ddyddiad ar gyfer pa bryd y byddwn yn cael y brechlyn.
Felly, rydym yn parhau i adeiladu ar y rhaglen, sydd, fel y nodais, wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion ac yn bwysicach, gostyngiad yn nifer y ffermydd o dan gyfyngiadau. Fodd bynnag, rwy’n sylweddoli y gallwn ddysgu gwersi gwerthfawr gan wledydd eraill sy’n ymladd TB. Ac fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, mae gan fy swyddogion berthynas waith agos iawn gyda’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU, a hefyd gyda chydweithwyr ar draws y byd, gan gynnwys mewn gwledydd fel Seland Newydd, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r dulliau newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r broblem.
Credaf yn gryf ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru mewn sawl modd a bod ein dull hyd yma wedi bod yn gymesur ac yn sicrhau cydbwysedd da rhwng parhad busnes a dileu clefydau.
Felly, i gloi, Lywydd, nid wyf am i neb gamgymryd—bydd dileu TB yn dibynnu ar y diwydiant, y proffesiwn milfeddygol a’r Llywodraeth yn gweithio ac yn rhannu’r baich gyda’i gilydd. Rwy’n credu y bydd y mesurau newydd y byddaf yn eu cyhoeddi y mis nesaf yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach wrth symud ymlaen a bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at greu Cymru heb TB. Diolch.
Rwy’n galw ar Paul Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Pleser yw cael cloi’r ddadl bwysig hon. Dylwn ddatgan o’r cychwyn cyntaf fod fferm fy rhieni-yng-nghyfraith wedi cael ei heffeithio gan TB gwartheg dros y 15 mlynedd diwethaf, ac rwy’n gwybod, o brofiad personol, pa mor ddinistriol yw’r clefyd, yn emosiynol ac yn ariannol.
Mae’r ddadl heddiw wedi ymwneud â chyfleu’r neges i Lywodraeth Cymru na fydd mesurau gwartheg a chyfyngiadau gwartheg ar eu pen eu hunain yn dileu’r clefyd ofnadwy hwn. Bydd angen ymagwedd gyfannol, sy’n cynnwys defnyddio’r holl ddulliau sydd gennym i ddileu TB gwartheg ac yn ein poblogaeth bywyd gwyllt. Mae’n gwbl glir fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n llawer mwy cynhwysfawr ar y mater hwn.
A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn ddadl dda iawn ac rwy’n gwybod bod gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y dylem fynd ati i drechu’r clefyd hwn, ond gwn fod pob Aelod am weld TB gwartheg yn cael ei ddileu o’n cymunedau.
Agorodd Simon Thomas y ddadl a gosod yr olygfa drwy ddarparu trosolwg o TB gwartheg, gan ddyfynnu rhai o’r ystadegau dinistriol sy’n gysylltiedig â’r clefyd hwn a chanlyniadau’r clefyd i deuluoedd ffermio a sut y mae angen i ni ymdrin â’r clefyd yn effeithiol ac mewn ffordd sy’n llawer mwy cynhwysfawr.
Mae’n llygad ei le fod ffermwyr Cymru angen ac yn haeddu mwy o gymorth a sut y mae’n rhaid cyflwyno pecyn llawer mwy cynhwysfawr yn awr i gefnogi ein diwydiant ffermio. Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg yng nghyd-destun Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n iawn i ddweud bod hyn yn dilyn pryderon dwfn gan yr undebau ffermio, sy’n iawn i ddweud y gallai statws cyfredol y clwy fod yn offeryn, yn enwedig o ystyried y bwlch a grëwyd yn sgil y methiant ar ôl brechu. Yn sicr, ni fydd anallu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn yn gwneud ein cynnyrch ronyn yn fwy deniadol i wledydd eraill a gallai beri niwed difrifol i unrhyw drafodaethau masnach. Rwy’n sylweddoli mai ychydig fisoedd yn unig sydd ers i Ysgrifennydd y Cabinet ddechrau yn ei rôl, ond mae’n rhaid bod ei hymwneud dros yr haf gyda’r diwydiant wedi pwysleisio pwysigrwydd y mater hwn i’n diwydiant ffermio yn y dyfodol ac i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru am gynyddu gwerthiant bwyd a diod Cymru 30 y cant i £7 biliwn, sy’n nod gwych. Fodd bynnag, bydd methu ymdrin â materion megis TB gwartheg yn niweidio’r gobaith o gyrraedd y targed hwnnw ac yn peryglu ein gallu i werthu i farchnadoedd newydd.
Nawr, yn ei chyfraniad, lleisiodd Joyce Watson hefyd ei gwrthwynebiad i ddifa bywyd gwyllt a difa moch daear a dywedodd fod rhaid mynd ar drywydd polisïau eraill er mwyn trechu’r clefyd hwn. Er fy mod yn parchu ei barn yn fawr iawn, ni fydd yn synnu clywed y bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno ar y ffordd orau o fynd ati i ddileu TB gwartheg. Soniodd hefyd fod angen i ni wella’r prawf, ond yng nghyfarfod briffio Cymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos diwethaf, gwnaed yn eglur fod y prawf yn briodol a’i fod wedi cael ei ddefnyddio mewn gwledydd lle mae nifer yr achosion o TB gwartheg wedi gostwng yn ddramatig. Felly, mae’r prawf yn iawn. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dull mwy cynhwysfawr o weithredu.
Croesawaf gyfraniad Neil Hamilton i’r ddadl hon a’i gefnogaeth gyffredinol i weithredu’n fwy cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â TB gwartheg. Hefyd, dyfynnodd rai o ystadegau dinistriol yr effaith y mae’r clefyd hwn yn ei chael ar ein cymunedau ffermio.
Nododd Mark Isherwood gyfarfod briffio Cymdeithas Milfeddygon Prydain a’u tystiolaeth, ac roeddwn innau hefyd yn teimlo ei fod yn addysgiadol iawn. Ac rwy’n credu ei fod wedi atgyfnerthu’r gefnogaeth i fwy o weithredu gan y diwydiant milfeddygol.
Ailadroddodd Llyr Gruffydd bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg a phwysigrwydd ymdrin â’r mater hwn, yn enwedig o ystyried yr effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd ffermio. Cyfeiriodd hefyd at fethiant Llywodraethau olynol yng Nghymru i ymdrin â’r mater hwn. Roedd hefyd yn iawn i ddweud pa mor bwysig yw hi i Lywodraeth Cymru wrando ar yr arbenigwyr, ac wrth gwrs, yr arbenigwyr yn yr achos hwn yw Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y gymdeithas filfeddygol, a’r undebau ffermio.
Yn ei gyfraniad, dywedodd Mark Reckless na ddylem fod yn rhy ddiysgog yn ein safbwyntiau, a dyna pam ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r clefyd hwn mewn modd cyfannol a pham ei bod yn bwysig defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Siaradodd Russell George yn ei gyfraniad am effaith emosiynol y clefyd ar ffermwyr. Ac wrth gwrs, dyfynnodd ei etholwyr a’r effaith ddinistriol y mae hyn yn ei chael arnynt.
Siaradodd Caroline Jones am bwysigrwydd mynd i’r afael â TB gwartheg, a chanolbwyntiodd ei sylwadau ar ddifa moch daear.
Gwrandewais yn astud iawn ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch ei bod wedi dweud bod yn rhaid i ni ymdrin â’r clefyd mewn gwartheg ac yn y boblogaeth bywyd gwyllt. Fodd bynnag, ers etholiad y Cynulliad, cafwyd bwlch ym mholisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, rwy’n credu, a diffyg cyfarwyddyd clir ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â TB gwartheg. Rwy’n gobeithio, felly, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn ystyried cyfraniadau’r Aelodau heddiw ac yn darparu pecyn o gymorth i ffermwyr Cymru sy’n ymdrin â’r clefyd hwn unwaith ac am byth. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.