Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 28 Medi 2016.
O ran y brechu, mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Neil Hamilton, roeddwn yn mynd i ddweud nad yw’r ffaith nad oes gennym gyflenwad o’r brechlyn yn golygu nad oes gennym bolisi—wrth gwrs fod gennym bolisi ac mae’r rhan fwyaf ohono’n ymwneud, yn briodol felly, â mesurau rheoli gwartheg. Nid wyf yn gwybod pa bêl risial sydd gan Neil Hamilton, ond nododd y dyddiad 2023 ac na fyddwn yn gallu brechu tan yr adeg honno. Rydym yn gwybod na fyddwn yn ei gael y flwyddyn nesaf, ond nid oes gennym ddyddiad ar gyfer pa bryd y byddwn yn cael y brechlyn.
Felly, rydym yn parhau i adeiladu ar y rhaglen, sydd, fel y nodais, wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion ac yn bwysicach, gostyngiad yn nifer y ffermydd o dan gyfyngiadau. Fodd bynnag, rwy’n sylweddoli y gallwn ddysgu gwersi gwerthfawr gan wledydd eraill sy’n ymladd TB. Ac fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, mae gan fy swyddogion berthynas waith agos iawn gyda’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU, a hefyd gyda chydweithwyr ar draws y byd, gan gynnwys mewn gwledydd fel Seland Newydd, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r dulliau newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r broblem.
Credaf yn gryf ein bod yn arwain y ffordd yng Nghymru mewn sawl modd a bod ein dull hyd yma wedi bod yn gymesur ac yn sicrhau cydbwysedd da rhwng parhad busnes a dileu clefydau.
Felly, i gloi, Lywydd, nid wyf am i neb gamgymryd—bydd dileu TB yn dibynnu ar y diwydiant, y proffesiwn milfeddygol a’r Llywodraeth yn gweithio ac yn rhannu’r baich gyda’i gilydd. Rwy’n credu y bydd y mesurau newydd y byddaf yn eu cyhoeddi y mis nesaf yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach wrth symud ymlaen a bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at greu Cymru heb TB. Diolch.