Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw am reswm syml iawn: credwn fod y fwrsariaeth nyrsio yn werthfawr ac rydym yn chwilio am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’i bwriadau mewn perthynas â dyfodol y fwrsariaeth. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dileu’r fwrsariaeth yn Lloegr gan ganu larymau yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd. Ond ar 20 Mehefin cafwyd ochenaid enfawr o ryddhad yn yr Alban, pan gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban na fyddai’n dilyn arweiniad Lloegr ac y byddai’n cadw’r fwrsariaeth. Ond dri mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i ddisgwyl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bosibl, wrth gwrs, ei bod yn cadw rhywfaint o newyddion da i fyny ei llewys, ond mae’r ansicrwydd—yr aros hir—yn achosi pryder go iawn yn y GIG yng Nghymru, ac ymhlith nyrsys cyfredol a darpar nyrsys yn y dyfodol yn arbennig.
Rhaid cryfhau hyfforddiant nyrsio yng Nghymru a’i roi ar sylfaen gadarnach. Rydym yn gwybod y byddwn angen mwy o nyrsys yn y dyfodol. Mae anghenion iechyd ein poblogaeth, yn syml iawn, yn gwneud hynny’n anochel. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn rhywbeth sydd i’w ddathlu, ond mae’n rhywbeth y bydd angen i ni fuddsoddi ynddo. Mae rhan o’r buddsoddiad hwnnw yn addysg y rhai a fydd yn gofalu am y boblogaeth sy’n heneiddio—pawb ohonom.
Cafodd y Bil staffio diogel ei ddathlu gan nyrsys yng Nghymru, ac yn haeddiannol felly, a chanlyniadau anochel pasio’r Bil, wrth gwrs, yw y bydd yn ofynnol i fwy o nyrsys gyflawni ei amcanion. Rwy’n ofni ein bod yn siŵr o weld gostyngiad yn nifer y nyrsys sy’n dewis dod i weithio yma o dramor, a chyflawni rolau hanfodol yn y GIG yng Nghymru, o ganlyniad i’r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma, gyda llaw, pam y dylai pleidiau yn y Siambr hon sy’n honni eu bod o ddifrif am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn wyliadwrus iawn rhag rhoi’r gorau i egwyddorion hirsefydlog mewn perthynas â symud diamod pobl ar draws Ewrop. Mae’n rhaid i ni gydnabod pryderon llawer o bobl ar draws Cymru ar y mater hwn, wrth gwrs, ond ni ddylem ofni parhau i egluro sut y mae ein cymdeithas a sut y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyfoethogi, mewn sawl ffordd, gan bobl o’r tu allan i’r ynysoedd hyn.
Pam y mae angen y cymorth ychwanegol hwn drwy’r fwrsariaeth ar fyfyrwyr nyrsio? Mae yna nifer o resymau. Fe af drwy rai ohonynt. Yn gyntaf, maent yn tueddu i fod yn hŷn na’r boblogaeth myfyrwyr yn gyffredinol. Mae’n ddigon posibl, felly, y gallai fod cyfrifoldebau teulu a gofal plant gan lawer ohonynt sy’n golygu costau byw uwch, ac yn sicr, gallai cael gwared ar y fwrsariaeth eithrio llawer o’r myfyrwyr hyn.
Yn ail, mae cyrsiau nyrsio yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn—nid y 30 wythnos arferol neu lai na hynny sydd gan fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn golygu nad yw’r opsiwn i gael gwaith y tu allan i’r tymor ar gael iddynt. Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn nodi bod hon yn sefyllfa unigryw. Mae angen blwyddyn galendr lawn, yn hytrach na blwyddyn academaidd, er mwyn cyrraedd y 4,600 o oriau sydd angen eu cwblhau cyn gallu cofrestru’n nyrs. Mae hynny’n golygu gwasanaeth ar ddyletswydd, gan weithio o fewn y GIG, yn cyflawni swyddogaeth bwysig o fewn y GIG fel rhan o’r broses hyfforddi.