Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 28 Medi 2016.
Dechreuaf fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw ar gadw’r fwrsariaeth nyrsio yng Nghymru. Rydym wedi clywed eisoes sut y penderfynodd Llywodraeth y DU yn Lloegr beidio â pharhau i ddarparu bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd cysylltiedig. Maent yn fwrsariaethau sy’n talu am ffioedd dysgu yn ogystal—nid grantiau byw yn unig y maent yn eu cynnwys. Mae Llywodraeth y DU yn honni y bydd camau o’r fath yn caniatáu i brifysgolion dynnu cap oddi ar leoedd i fyfyrwyr ac o ganlyniad, i chwyddo niferoedd myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth ac iechyd cysylltiedig—cap, cofiwch, sy’n cael ei osod gan y Llywodraeth sy’n ariannu’r cynlluniau beth bynnag.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylw ar addysg nyrsio, ond mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain am effaith cael gwared ar y fwrsariaeth ar yr holl broffesiynau eraill hynny, gan eu bod hwythau hefyd yn wynebu’r un heriau i’r gweithlu y mae’r ddadl hon yn eu priodoli i nyrsys. Er mwyn darparu’r gweithlu sydd ei angen yn y dyfodol ar gyfer y GIG yng Nghymru, mae’n wir ei bod hi’n hanfodol sicrhau bod niferoedd digonol o fyfyrwyr nyrsio yn mynd i mewn i’r proffesiwn, ac mae angen i ni barhau â’r cynnydd yn nifer y myfyrwyr a welsom yn y blynyddoedd diwethaf—sef cynnydd o tua 40 y cant ers 2013, er y bydd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn siŵr o fy saethu os nad wyf yn atgoffa pawb fod yna ostyngiad wedi bod cyn hynny.
Mae nyrsys dan hyfforddiant yn treulio tair blynedd yn dilyn cyrsiau gradd mewn nyrsio ac fel y nododd llefarydd Plaid Cymru, nid blwyddyn academaidd o 30 wythnos yw honno ond blwyddyn academaidd estynedig, o 42 wythnos fel arfer. Pan fyddant yn astudio, byddant yn treulio 50 y cant o’u hamser ar leoliad ymarferol—ac mae honno’n wythnos waith lawn mewn lleoliad ymarferol. Fel y nodwyd, mae hynny’n creu anawsterau enfawr i’r rheini allu dod o hyd i ffyrdd eraill o ariannu eu hunain.
Nawr, mae’r angen am nyrsys â chymwysterau gradd wedi’i gefnogi gan ymchwil a wnaed yn 2014 ar draws naw o wledydd Ewrop, ac a welodd fod gweithlu nyrsio wedi’i addysgu’n well yn lleihau nifer y marwolaethau diangen. Roedd pob cynnydd o 10 y cant yn nifer y nyrsys a addysgwyd i lefel gradd Baglor mewn ysbyty yn gysylltiedig â gostyngiad o 7 y cant yn lefel marwolaethau cleifion.
Fodd bynnag, mae yna heriau i’r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa nyrsio, yn enwedig o ran cyllid personol. Er enghraifft, amlygwyd eisoes mai cyfartaledd oedran myfyriwr nyrsio yw 29 oed, ac maent yn llawer mwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu. Darganfu arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol fod gan 31 y cant ohonynt blant dibynnol, roedd 10 y cant yn rhieni sengl, ac roedd 23 y cant yn gofalu am berthnasau sâl, anabl neu oedrannus. Mae myfyrwyr nyrsio yng Nghymru yn derbyn bwrsariaeth gan Lywodraeth Cymru, yn debyg i’r un sy’n cael ei diddymu yn Lloegr, i ganiatáu iddynt fynd ar drywydd eu huchelgais o ddilyn gyrfa nyrsio a dod yn rhan o broffesiwn sy’n rhoi cryn foddhad. Ni allwn ganiatáu i’r fwrsariaeth hon gael ei diddymu gan fod hynny’n cynyddu’r risg o dlodi i fyfyrwyr nyrsio a gallai ladd awydd pobl i ddewis y llwybr gyrfa hwn.
Nododd Ymddiriedolaeth Nuffield fod llawer o astudiaethau wedi awgrymu, gan fod galw am y cyrsiau’n hyblyg, gyda phrisiau uwch yn lladd awydd pobl i’w dilyn, gallai colli’r cymorth hwn gael ei waethygu gan broffil demograffig y rhai sy’n ymgeisio—mae lefelau anghymesur ohonynt yn fenywod, yn hŷn na 25 oed ac yn rhieni. Mae’r system newydd o gymorth sy’n seiliedig ar fenthyciadau yn llai hael ar gyfer gofal plant ac i bobl â dibynyddion. Mae asesiad effaith yr Adran Iechyd ei hun yn dangos bod cyflwyno ffioedd myfyrwyr yn wreiddiol wedi effeithio’n llawer mwy arwyddocaol ar bobl dros 21 oed o gymharu â myfyrwyr iau. A dyna’r proffil cenedlaethol, fel rydym wedi clywed.
Ychydig wythnosau yn ôl cynhaliais ddigwyddiad gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yma yn y Senedd i lansio’u hymgyrch ddiweddaraf i hybu arweinyddiaeth yn y proffesiwn ac i barhau â’r gwaith ar y lefelau staffio nyrsys. Yn y digwyddiad hwnnw, mynegodd llawer eu pryderon difrifol ynglŷn â dyfodol y fwrsariaeth nyrsio yma yng Nghymru a’r effaith y byddai’n ei chael ar lefelau myfyrwyr nyrsio Cymru, yn enwedig myfyrwyr rhan-amser, i ryw raddau. Hefyd yn ddiweddar cynhaliais ddigwyddiad i’r naw proffesiwn iechyd cysylltiedig—nid wyf am eu henwi i gyd—ac roeddent yn mynegi’r un pryderon ynglŷn â niferoedd myfyrwyr newydd yn eu proffesiynau. Rhoddodd mwy nag 20 o elusennau, cyrff meddygol a phroffesiynol ac undebau llafur bwysau ar David Cameron, y cyn-Brif Weinidog, drwy ddadlau y byddai rhoi diwedd ar y system fwrsariaeth i nyrsys a bydwragedd yn gambl heb ei phrofi. Nid wyf am weld gambl heb ei phrofi o’r fath yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n derbyn y gall fod angen i ni edrych ar sut rydym yn parhau i gefnogi’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa nyrsio, neu un o’r proffesiynau iechyd eraill, ond mae’n bwysig edrych ar y model addysg. A allwn ehangu addysg nyrsio i astudio ar batrwm mwy rhan-amser? A allwn ystyried math o gynllun prentisiaeth—ac rwy’n defnyddio’r gair yn llac yma—sy’n caniatáu i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn ystod eu hastudiaethau? A ddylem ystyried gadael i fyrddau iechyd gyflogi myfyrwyr nyrsio, er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog wrth iddynt symud drwy eu rhaglen gradd estynedig dair blynedd o hyd, wrth iddynt gyflawni gweithgareddau ymarferol mewn gwirionedd ar ran y bwrdd iechyd? Rwy’n credu bod yna fwy y gallwn edrych arno a gwahanol fodelau sy’n rhaid i ni eu harchwilio’n fanwl gyda’r proffesiynau hyn.
Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn dweud bod toriadau i’r gyllideb hyfforddiant neu addysg yn annoeth. Mae prinder staff yn bygwth diogelwch ac ansawdd gofal cleifion ac yn y pen draw, gall gostio arian sylweddol os ydynt yn cymell dibyniaeth ar staff banc ac asiantaethau. Mae angen i ni gadw ein nyrsys lleol. Mae angen i ni gadw cymorth i’r nyrsys hynny.