Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 28 Medi 2016.
Oes, ac rwy’n meddwl eich bod yn gwneud pwyntiau da iawn yn eich cyfraniad y gellid yn hawdd eu cynnwys yn yr ymchwiliad. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn gyndyn o dderbyn y syniad o dalu cyflog i’r holl nyrsys dan hyfforddiant, oherwydd, os felly, a ydym yn talu cyflog i feddygon, deintyddion a milfeddygon dan hyfforddiant? Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo pobl mewn ffordd deg. Ac mae’n rhaid i ni wneud yr hyn sydd orau i’n cenedl ac ar hyn o bryd, mae ein prinder difrifol yn y GIG, yn ein gweithlu. Felly, fel cenedl, os ydym yn defnyddio mwy o’n hadnoddau i ddenu pobl, yna credaf mai dyna sydd angen i ni edrych arno.
Rwy’n credu na ddylem gamu’n ôl ychwaith rhag ceisio ehangu mynediad, nid yn unig, fel rydych chi wedi’i roi mor dda, Rhun, i fwy o fyfyrwyr aeddfed—pobl sy’n awyddus efallai i gyfnewid eu swyddi neu bobl sydd eisiau camu’n uwch ar lwybr gyrfa, efallai eu bod wedi bod yn gynorthwy-ydd gofal iechyd a bellach yn dymuno bod yn nyrs—ond rwy’n meddwl mewn gwirionedd y gallwn ystyried ceisio potsio pobl o broffesiynau gwahanol iawn sydd â rhyw fath o gysylltiad. Rwy’n credu bod angen i ni geisio potsio pobl o dramor i ddod yma, a phobl o Loegr, o’r Alban. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i geisio’i gwneud yn llawer mwy deniadol i bobl ddod i Gymru, i weithio yn y proffesiwn meddygol ac yna, yn bwysicach, i ymgartrefu yma, i wneud eu cartref yng Nghymru, i’n mabwysiadu fel eu cenedl a’n helpu i adeiladu ein gwlad ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy’n credu bod hwn yn faes go gymhleth.
Nid wyf yn credu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i unrhyw ymchwiliad neu arolwg ar sut y gallwn gefnogi nyrsys a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill fod yn gymhleth. Rydym wedi dangos hynny’n barod gyda’r ymchwiliad annibynnol i’r ceisiadau cyllido cleifion. Gallwn wneud rhywbeth bach, cyflym, gyda ffocws pendant a set glir iawn o gyfeiriadau, ac yna rydym eisiau canlyniad cyflym iawn. Y rheswm pam y mae angen iddo fod yn ganlyniad cyflym yw bod angen i ni edrych i weld pa effaith y gallai ei chael gydag adolygiad Diamond, fel y crybwyllodd Rhun, a pha effaith y byddai’n ei chael ar Donaldson. Rwy’n meddwl bod elfen Donaldson yn bwysig iawn, oherwydd hoffwn orffen drwy wneud un sylw: pa mor aml rydym yn mynd â myfyrwyr—plant ysgol—allan o’u hysgolion i ysbyty neu i feddygfa i geisio eu hannog i mewn i’r proffesiynau meddygol hyn? Ddim mor aml â hynny mewn gwirionedd. Dyna’r mathau o bethau y gallem eu gwneud: adolygiad byr, sydyn i edrych ar sut y gallwn ei wneud yn fwy deniadol; sut y gallwn gefnogi a gweithredu pecynnau cymorth da; sut y gallwn roi gwasanaethau mentora da ar waith ac efallai gael clystyrau allweddol ledled Cymru sy’n gweithredu fel pwyntiau ffocws i hyfforddiant, fel nad oes rhaid i bobl frwydro i ddod o hyd i leoliad; a sut y gallwn eu cefnogi’n ariannol ac yn anad dim, denu mwy o bobl o bob cefndir i mewn i’n proffesiynau gofal iechyd, oherwydd rydym eu hangen, ac rydym eu hangen yn ddirfawr.