Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch. Yn aml yn y dadleuon hyn rydym yn craffu ar faes lle credwn y gallai Llywodraeth Cymru wneud yn well ac yn tynnu sylw at yr hyn rydym yn ystyried yw ei diffygion, cyn cynnig dewisiadau amgen cadarnhaol. Ar gyfer y ddadl hon, rydym am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Rydym yn cymryd cynllun Llywodraeth Cymru sydd wedi llwyddo i arbed arian ac wedi helpu pobl, gydag un eithriad y byddaf yn dod ato, ac rydym yn gofyn iddo gael ei ddiogelu rhag toriadau drwy gydol y Cynulliad hwn.
Wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld mwy o adnoddau yn cael eu dyrannu i’r cynllun, a gellid ei addasu i wella ei effeithiolrwydd, ond rydym yn dechrau o’r safbwynt pragmatig fod angen i ni ddiogelu’r cynllun cyn ei ehangu.
Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu tua 60,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac yn eu hatal rhag mynd yn ddigartref—yn llwyddiannus iawn, fel rwyf wedi dweud. Mae’n helpu pobl i ddychwelyd at addysg, yn cynnal tenantiaethau, ac yn eu cael yn ôl i mewn i waith. Mae’r achos moesol dros wneud hyn yn ddealladwy iawn, ond mae yna achos ariannol dros wneud hyn hefyd. Yn 2006, am bob £1 a wariwyd gan y rhaglen, gwelwyd bod arbediad o £1.68 i bwrs y wlad. Roedd hyn cyn i welliannau gael eu gwneud i’r rhaglen, felly gallem weld mwy fyth o arbedion pan fydd y gwerthusiad nesaf yn cael ei gyhoeddi.
Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod bellach fod ymdrin â digartrefedd yn hytrach na’i atal yn costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus. Gwnaed ymchwil yn Ninas Efrog Newydd i olrhain bron i 10,000 o bobl ddigartref, a daeth i’r casgliad fod pob un yn costio $40,500 y flwyddyn i’r gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys amser a gâi ei dreulio mewn ysbytai, llochesi a charchardai. Ar ôl eu cartrefu, câi’r costau hyn eu lleihau i’r pwynt lle roeddent i bob pwrpas yn cydbwyso holl gostau darparu cymorthdaliadau tai a gwasanaethau cymorth dwys i bobl. Pe bai digartrefedd wedi cael ei atal yn y lle cyntaf, ni fyddai’r bobl hyn wedi bod angen gwasanaethau a oedd mor ddwys, gan arbed rhagor fyth o arian.
Roedd adroddiad UK Crisis 2015 yn tanlinellu canfyddiadau Efrog Newydd drwy fodelu nifer o senarios digartrefedd yn y DU—gan gydnabod, wrth gwrs, fod y rhesymau dros ddigartrefedd yn wahanol i bob unigolyn, ac y gallai rhai unigolion fod yn fwy gwydn nag eraill ac y byddai rhai angen llai o wasanaethau. Roedd y casgliadau’n syfrdanol. Ym mhob senario, roedd yr arbedion i wasanaethau cyhoeddus yn gwrthbwyso’r gost o atal digartrefedd ar raddfa o 3:1 dros un flwyddyn yn unig. Ar gyfer rhai senarios lle rydych yn rhagdybio costau ychwanegol fel restiadau aml a defnydd o gyfleusterau gwasanaethau iechyd meddwl, gallai’r arbedion fod mor uchel ag 20:1. Mae yna neges glir iawn yma—mae atal a datrys digartrefedd yn gyflym bob amser yn costio llai i’r cyhoedd na chaniatáu i ddigartrefedd ddod yn barhaus neu ddigwydd dro ar ôl tro. Mae gwers sylfaenol yma am y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhyngweithio, yn ategu ac yn gwella effeithiolrwydd yr hyn y maent yn ei wneud pan fyddant yn canolbwyntio ar atal problemau ac yn edrych yn fwy hirdymor ar yr hyn sy’n costio mewn gwirionedd.
Un agwedd ar galedi na chaiff ei chofnodi’n ddigonol yw ei fod yn methu ar ei delerau ei hun. Daw Llywodraethau adain dde i rym a thorri gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a gweld eu bod yn gorfod gwario arian yn ymdrin â chanlyniadau eu hanallu i weld yn bell. Er enghraifft, pan fydd ysgolion yn methu, rydym yn aml yn y pen draw yn gweld galwadau cynyddol posibl ar y system fudd-daliadau, gwasanaethau addysg i oedolion a’r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig pan fyddwch yn sôn am bobl nad ydynt mewn hyfforddiant neu addysg. Fel arfer, nid gwrthdroi’r toriadau a gwneud ein hysgolion yn well yw’r ymateb i hyn, ond torri hawliau i fudd-daliadau wedyn a gwneud toriadau pellach i addysg oedolion. Dywedir wrth y system garchardai wedyn i gadw pobl mewn warysau ac i beidio â thrafferthu gyda dulliau addysgol neu greadigol i’w hatal rhag aildroseddu, ac felly mae’r cylch yn ailadrodd unwaith eto.
Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dioddef toriadau, gall olygu bod llawdriniaethau’n mynd o chwith oherwydd prinder staff. Byddai pobl a fyddai wedi gwella yn cael salwch cronig ac yn dod i ddefnyddio’r gwasanaeth yn fynych, ac efallai na fyddant yn gallu gweithio a chyfrannu tuag at incwm y wladwriaeth.
Rydym wedi cydnabod ers tro y peryglon i gynlluniau sy’n dda ond nad ydynt yn meddu ar yr un lefel o ‘adnabyddiaeth brand’ â gwasanaethau eraill. Yn aml y rhain yw’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn ystod cyfnodau o heriau ariannol. Rydym hefyd yn gwybod y gall cynlluniau sydd o fudd yn bennaf i grwpiau o bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, yn hytrach na’r rhai sydd bob amser yn pleidleisio, hefyd fod mewn perygl o ran wynebu’r fwyell, ni waeth pa mor effeithiol ydynt na’u gwerth am arian. Dyna pam ein bod yma yn y sefydliad hwn wedi pasio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Gwelsom y byddai yna demtasiwn bob amser i ganolbwyntio gwariant ar gyflyrau iechyd nad oedd â stigma ynghlwm wrthynt yn hytrach na chyflyrau a ddioddefir gan bobl na allant fynegi nac amddiffyn eu hunain am resymau cymhleth iawn. Felly, fe’i gwnaethom yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau na allai’r byrddau iechyd byth dorri’r gwasanaethau hynny. Yn yr un modd, mae’r cynnig hwn heddiw, yn syml, yn gofyn am gyfleu’r neges na fydd hi’n dderbyniol torri cyllideb Cefnogi Pobl yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ac os ydym yn pasio’r cynnig hwn heddiw, byddwn yn dangos bod o leiaf rai ohonom yn y Siambr hon yn gallu deall y syniad o fuddsoddi i arbed—fod gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn rhatach—