– Senedd Cymru ar 28 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar y rhaglen Cefnogi Pobl, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig—Bethan.
Diolch. Yn aml yn y dadleuon hyn rydym yn craffu ar faes lle credwn y gallai Llywodraeth Cymru wneud yn well ac yn tynnu sylw at yr hyn rydym yn ystyried yw ei diffygion, cyn cynnig dewisiadau amgen cadarnhaol. Ar gyfer y ddadl hon, rydym am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Rydym yn cymryd cynllun Llywodraeth Cymru sydd wedi llwyddo i arbed arian ac wedi helpu pobl, gydag un eithriad y byddaf yn dod ato, ac rydym yn gofyn iddo gael ei ddiogelu rhag toriadau drwy gydol y Cynulliad hwn.
Wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld mwy o adnoddau yn cael eu dyrannu i’r cynllun, a gellid ei addasu i wella ei effeithiolrwydd, ond rydym yn dechrau o’r safbwynt pragmatig fod angen i ni ddiogelu’r cynllun cyn ei ehangu.
Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu tua 60,000 o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac yn eu hatal rhag mynd yn ddigartref—yn llwyddiannus iawn, fel rwyf wedi dweud. Mae’n helpu pobl i ddychwelyd at addysg, yn cynnal tenantiaethau, ac yn eu cael yn ôl i mewn i waith. Mae’r achos moesol dros wneud hyn yn ddealladwy iawn, ond mae yna achos ariannol dros wneud hyn hefyd. Yn 2006, am bob £1 a wariwyd gan y rhaglen, gwelwyd bod arbediad o £1.68 i bwrs y wlad. Roedd hyn cyn i welliannau gael eu gwneud i’r rhaglen, felly gallem weld mwy fyth o arbedion pan fydd y gwerthusiad nesaf yn cael ei gyhoeddi.
Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod bellach fod ymdrin â digartrefedd yn hytrach na’i atal yn costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus. Gwnaed ymchwil yn Ninas Efrog Newydd i olrhain bron i 10,000 o bobl ddigartref, a daeth i’r casgliad fod pob un yn costio $40,500 y flwyddyn i’r gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys amser a gâi ei dreulio mewn ysbytai, llochesi a charchardai. Ar ôl eu cartrefu, câi’r costau hyn eu lleihau i’r pwynt lle roeddent i bob pwrpas yn cydbwyso holl gostau darparu cymorthdaliadau tai a gwasanaethau cymorth dwys i bobl. Pe bai digartrefedd wedi cael ei atal yn y lle cyntaf, ni fyddai’r bobl hyn wedi bod angen gwasanaethau a oedd mor ddwys, gan arbed rhagor fyth o arian.
Roedd adroddiad UK Crisis 2015 yn tanlinellu canfyddiadau Efrog Newydd drwy fodelu nifer o senarios digartrefedd yn y DU—gan gydnabod, wrth gwrs, fod y rhesymau dros ddigartrefedd yn wahanol i bob unigolyn, ac y gallai rhai unigolion fod yn fwy gwydn nag eraill ac y byddai rhai angen llai o wasanaethau. Roedd y casgliadau’n syfrdanol. Ym mhob senario, roedd yr arbedion i wasanaethau cyhoeddus yn gwrthbwyso’r gost o atal digartrefedd ar raddfa o 3:1 dros un flwyddyn yn unig. Ar gyfer rhai senarios lle rydych yn rhagdybio costau ychwanegol fel restiadau aml a defnydd o gyfleusterau gwasanaethau iechyd meddwl, gallai’r arbedion fod mor uchel ag 20:1. Mae yna neges glir iawn yma—mae atal a datrys digartrefedd yn gyflym bob amser yn costio llai i’r cyhoedd na chaniatáu i ddigartrefedd ddod yn barhaus neu ddigwydd dro ar ôl tro. Mae gwers sylfaenol yma am y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn rhyngweithio, yn ategu ac yn gwella effeithiolrwydd yr hyn y maent yn ei wneud pan fyddant yn canolbwyntio ar atal problemau ac yn edrych yn fwy hirdymor ar yr hyn sy’n costio mewn gwirionedd.
Un agwedd ar galedi na chaiff ei chofnodi’n ddigonol yw ei fod yn methu ar ei delerau ei hun. Daw Llywodraethau adain dde i rym a thorri gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a gweld eu bod yn gorfod gwario arian yn ymdrin â chanlyniadau eu hanallu i weld yn bell. Er enghraifft, pan fydd ysgolion yn methu, rydym yn aml yn y pen draw yn gweld galwadau cynyddol posibl ar y system fudd-daliadau, gwasanaethau addysg i oedolion a’r system cyfiawnder troseddol, yn enwedig pan fyddwch yn sôn am bobl nad ydynt mewn hyfforddiant neu addysg. Fel arfer, nid gwrthdroi’r toriadau a gwneud ein hysgolion yn well yw’r ymateb i hyn, ond torri hawliau i fudd-daliadau wedyn a gwneud toriadau pellach i addysg oedolion. Dywedir wrth y system garchardai wedyn i gadw pobl mewn warysau ac i beidio â thrafferthu gyda dulliau addysgol neu greadigol i’w hatal rhag aildroseddu, ac felly mae’r cylch yn ailadrodd unwaith eto.
Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dioddef toriadau, gall olygu bod llawdriniaethau’n mynd o chwith oherwydd prinder staff. Byddai pobl a fyddai wedi gwella yn cael salwch cronig ac yn dod i ddefnyddio’r gwasanaeth yn fynych, ac efallai na fyddant yn gallu gweithio a chyfrannu tuag at incwm y wladwriaeth.
Rydym wedi cydnabod ers tro y peryglon i gynlluniau sy’n dda ond nad ydynt yn meddu ar yr un lefel o ‘adnabyddiaeth brand’ â gwasanaethau eraill. Yn aml y rhain yw’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn ystod cyfnodau o heriau ariannol. Rydym hefyd yn gwybod y gall cynlluniau sydd o fudd yn bennaf i grwpiau o bobl sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, yn hytrach na’r rhai sydd bob amser yn pleidleisio, hefyd fod mewn perygl o ran wynebu’r fwyell, ni waeth pa mor effeithiol ydynt na’u gwerth am arian. Dyna pam ein bod yma yn y sefydliad hwn wedi pasio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Gwelsom y byddai yna demtasiwn bob amser i ganolbwyntio gwariant ar gyflyrau iechyd nad oedd â stigma ynghlwm wrthynt yn hytrach na chyflyrau a ddioddefir gan bobl na allant fynegi nac amddiffyn eu hunain am resymau cymhleth iawn. Felly, fe’i gwnaethom yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau na allai’r byrddau iechyd byth dorri’r gwasanaethau hynny. Yn yr un modd, mae’r cynnig hwn heddiw, yn syml, yn gofyn am gyfleu’r neges na fydd hi’n dderbyniol torri cyllideb Cefnogi Pobl yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ac os ydym yn pasio’r cynnig hwn heddiw, byddwn yn dangos bod o leiaf rai ohonom yn y Siambr hon yn gallu deall y syniad o fuddsoddi i arbed—fod gwasanaethau a pholisïau cyhoeddus i helpu pobl i aros yn eu cartrefi yn rhatach—
A wnaiff yr Aelod ildio ar y pwynt hwnnw?
[Yn parhau.]—na chael gwared ar gymorth a gyrru pobl allan i’r strydoedd. Iawn.
Diolch i chi am ildio, Bethan. Rwy’n cytuno â chi o ran cyfleu neges ynglŷn â’r hyn rydym am ei gyflawni. Fe sonioch am y ddeddfwriaeth iechyd meddwl y mae’r Cynulliad wedi ei phasio. Mae yna, wrth gwrs, fyd cyfan o wahaniaeth rhwng gwneud deddfwriaeth a sicrhau mewn gwirionedd fod canlyniadau’r ddeddfwriaeth honno yn digwydd ar lawr gwlad. Sut rydych chi’n mynd i wneud yn siŵr—sut, felly, rydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr—fod y neges rydym yn ei chyfleu heddiw yn cael ei dehongli gan awdurdodau lleol ar lawr gwlad mewn gwirionedd?
Wel, rwy’n meddwl mai’r neges gryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi yw na fyddent yn ymrwymo i wneud unrhyw doriadau i’r cynllun hwn, gan na fyddai’r awdurdodau lleol wedyn yn teimlo bod yna unrhyw amwysedd yn y broses o wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i’r hyn y maent yn ei wneud ar y lawr gwlad, oherwydd, os nad ydynt yn cael arwydd clir gan Lywodraeth Cymru fod hyn yn cael ei ddiogelu, efallai y byddant yn ystyried ei bod yn briodol, o bosibl, i wneud pethau mewn ffordd wahanol ac yna efallai yn dadwneud peth o’r gwaith da y mae rhai o’r elusennau yn y sector yn ei wneud ar hyn o bryd.
Roeddwn am orffen yn fyr ac roeddwn am nodi un pwynt olaf a glywais gan y sector. Efallai fod derbyniadau ar sail angen blaenoriaethol wedi gostwng 63 y cant, ond fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw mesur galw digartrefedd yn ôl faint o bobl sydd ag angen blaenoriaethol yn ddull cywir o fesur mwyach. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda’r holl aelwydydd cymwys a lleddfu digartrefedd. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan Shelter Cymru wedi dod i’r casgliad fod y nifer sy’n troi at wasanaethau digartrefedd wedi cynyddu oddeutu chwarter ers i’r gyfraith newid mewn gwirionedd. Bydd yn ddiddorol clywed ymateb Llywodraeth Cymru i hyn felly. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac felly galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Mark.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.
(b) sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â’r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a’r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac
(c) cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw’n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.
Diolch. Rydym yn cytuno â’r cynnig gwreiddiol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol, ac wedi cynnwys hyn yn ein gwelliant i gymryd lle hyn yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae ein gwelliant yn mynd ymhellach, gan ymateb i alwadau gan ddarparwyr Cefnogi Pobl i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â’r rhaglen Cefnogi Pobl o’r gyllideb atal digartrefedd a’r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu hefyd, a chydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw’n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i wasanaethau statudol ac yn rhoi llwyfan i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio mewn gwaith atal—h.y. nid yn unig yn dda ynddo’i hun ond yn ffordd ddelfrydol o fynd i’r afael â chyllideb sydd wedi lleihau.
Amcangyfrifir yn geidwadol fod y rhaglen Cefnogi Pobl yn arbed £2.30 am bob £1 a werir, ac mae hefyd yn denu cyllid arall i mewn, yn atal digartrefedd, yn atal gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cynyddu diogelwch cymunedol—gan leihau’r angen am ymyriadau costus a lleihau pwysau diangen ar wasanaethau statudol.
Lansiwyd ymgyrch Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl eleni gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth Cymru i sicrhau buddsoddiad parhaus a gwneud yn siŵr fod pobl sy’n cael eu gwthio i’r cyrion ac yn wynebu risg yn parhau i gael eu diogelu. Fel y maent yn datgan, mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn atal digartrefedd ac yn cynorthwyo dros 60,000 o bobl yng Nghymru i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a chydag urddas yn eu cymuned. Maent yn dweud bod y rhaglen yn wasanaeth ataliol hanfodol
‘sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n cael budd ohoni, gan gynyddu eu gwytnwch a’u gallu i gynnal cartref sefydlog’ yn ogystal â lleihau eu galw ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
‘Cafodd dros 750,000 o fywydau eu trawsnewid ers sefydlu’r rhaglen yn 2004’, ychwanegant.
Mae gwasanaethau Cefnogi Pobl yn cefnogi ystod eang o bobl sydd mewn perygl o wynebu argyfwng, gan gynnwys pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, teuluoedd sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol neu sydd ag anableddau dysgu—neu anawsterau dysgu, dylwn ddweud—cyn-bersonél y lluoedd arfog, rhai sy’n gadael gofal, a phobl hŷn sydd angen cymorth. Mae astudiaeth ddichonoldeb ar gysylltu data Cefnogi Pobl eleni yn dangos bod ymyriadau Cefnogi Pobl yn lleihau’r defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygfeydd meddygon teulu, sy’n golygu bod llai o adnoddau’n cael eu defnyddio a mwy o wasanaethau ar gael ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Mae adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dangos sut y gellid lleihau llawer o’r problemau iechyd a’r problemau cymdeithasol mwyaf dyrys pe baem yn ymyrryd yn ddigon cynnar i ddiogelu plant. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn ein helpu i ateb yr angen hwn.
Mae darparwyr Cefnogi Pobl wedi bod yn gwneud popeth a allant i dorri costau a darparu gwasanaethau effeithiol gyda chyllidebau sy’n lleihau, ond byddai toriadau pellach yn gwneud niwed anadferadwy i’r gwasanaethau ataliol hanfodol hyn, gan adael llawer o bobl sy’n agored i niwed heb unman arall i droi. Mae grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn £124.4 miliwn ac mae Cymorth Cymru yn ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol a sicrhaodd fod hwn yn cael ei ddiogelu y llynedd. Maent yn datgan bod y cyllid pontio ar gyfer tai hefyd wedi bod yn hynod o addawol ac effeithiol. Fodd bynnag, roedd hwn oddeutu £5 miliwn y llynedd, a disgynnodd i oddeutu £3 miliwn eleni, ac mae’n wynebu ei flwyddyn derfynol o gyllid y flwyddyn nesaf.
Fel bod awdurdodau lleol yn gallu cadw’r arian hwn i alluogi dulliau arloesol o weithio, maent yn awgrymu y dylid cynyddu’r grant Cefnogi Pobl i £130 miliwn a chynnwys y cyllid pontio yn rhan ohono. Byddai hyn yn caniatáu sicrwydd ariannol i awdurdodau lleol a darparwyr fel ei gilydd i archwilio ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblem digartrefedd ar sail fwy hirdymor.
Mae Shelter Cymru, Llamau, Gisda, Digartref Ynys Môn a Dewis yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob un o’r tair cyllideb sy’n cefnogi gwaith i atal digartrefedd yn cael eu diogelu: Cefnogi Pobl, y gronfa pontio, a’r gronfa atal digartrefedd. Dywedant fod y grant atal digartrefedd yn darparu un o’r ychydig ffynonellau cyllid sefydlog ar gyfer cyngor annibynnol ar dai i’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, a byddai llawer o’r gwaith hwnnw mewn perygl heb yr arian hwn. Maent yn ychwanegu bod y grant wedi rhoi llwyfan i ddefnyddio ffynonellau eraill o arian mewn gwaith atal ac mae’n gweithio gyda phobl cyn i’w problemau waethygu, sy’n golygu bod gwasanaethau statudol yn elwa ar y cyllid hwn. Mewn geiriau eraill, byddai toriadau i unrhyw un o’r cronfeydd hyn sy’n cefnogi ei gilydd, yn doriad mwy o faint i wasanaethau statudol i bob pwrpas.
Fel y dywedodd y bobl y cyfarfûm â hwy pan ymwelais â phrosiectau Cefnogi Pobl yr haf hwn, roedd y rhain wedi achub eu bywydau. Wedi’r cyfan, fel y clywsom yn seminar y Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru a LivesthroughFriends a gynhaliwyd gennyf heddiw, gallwn i gyd elwa o’r cyfoeth o dalent ac adnoddau sydd gan ein dinasyddion drwy hyrwyddo hunanddibyniaeth, annog dwyochredd a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, dinasyddion a chymunedau yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Gadewch i ni beidio â cholli’r cyfle hwn. Gallwn, fe allwn arbed arian, ond nid heb wneud pethau’n wahanol. Diolch.
Go brin fod yna Aelod yn y Siambr hon heb nifer sylweddol o etholwyr yr effeithiwyd arnynt mewn rhyw ffordd gan y gwasanaethau a gefnogir gan Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Yn fy etholaeth i, mae Gwalia, Grŵp Tai Coastal, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot, Tai Dewis a llawer o rai eraill yn darparu gwasanaethau hanfodol a ariennir drwy Cefnogi Pobl. Rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi cael eu hannibyniaeth yn ôl oherwydd Cefnogi Pobl, ac ni allai unrhyw bobl weddus gyfarfod â rhywun yn y sefyllfa honno heb werthfawrogi gwerth aruthrol y gwaith y mae’r cynllun yn ei ariannu.
Dylai cefnogi pobl agored i niwed neu bobl hŷn i fyw bywydau annibynnol fod yn ganolog i’r hyn y mae pob un ohonom am ei gyflawni yn y Siambr hon, waeth beth yw ein hymlyniad gwleidyddol. Felly, gadewch i mi fod yn glir: ni cheir monopoli ar gefnogaeth i’r rhaglen ar feinciau’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw hi ac yn wir, er bod Llywodraeth y cenedlaetholwyr yn yr Alban a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri cymorth i’w rhaglenni, mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi blaenoriaeth gyson i Cefnogi Pobl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio, ac rwy’n deall y pwyntiau y mae’n eu gwneud, ac rwy’n deall bod y Llywodraeth wedi cefnogi hyn. Ond rhaid i mi ddweud wrtho mai’r gyllideb cyn y gyllideb ddiwethaf, pan awgrymodd ei Lywodraeth y dylid torri Cefnogi Pobl, sydd wedi arwain at y ddadl hon yn awr.
Wel, rwy’n llwyr ddisgwyl i’r Llywodraeth gynnal ei hymrwymiad i Cefnogi Pobl yn y gyllideb hon, ac os na wnaiff ydyw, byddaf yr un mor ddig a siomedig ag unrhyw un a gyflwynodd y cynnig hwn heddiw. Ond rhaff achub yw’r gwaith a ariennir gan Cefnogi Pobl, nid pêl-droed wleidyddol. Y lle ar gyfer pleidleisio ar ariannu gwasanaethau a rhaglenni a pholisïau’r Llywodraeth yw’r bleidlais ar y gyllideb. Bydd pawb sy’n dilyn hynt y lle hwn yn ofalus yn gwybod hynny, ond i lawer o bobl nad ydynt yn ei ddilyn, neu sy’n arsylwyr achlysurol, a fydd yn cynnwys llawer o bobl yr effeithir arnynt gan y rhaglen Cefnogi Pobl, bydd yn ymddangos bod y bleidlais heddiw yn y bleidlais ar y rhaglen, ac nid dyna ydyw.
Felly, rwy’n apelio ar yr Aelodau i gadw pryderon pobl mewn cof—llawer ohonynt yn etholwyr i ni—a fydd yn deall yn iawn beth yw effaith toriadau caledi Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru, ac yn deall yn iawn cymaint y maent yn dibynnu ar Cefnogi Pobl. Bydd eraill yn ffurfio eu barn eu hunain am oportiwnistiaeth y blaid sydd â rôl ganolog yn ysgrifennu’r gyllideb ar y pwyllgor cyswllt, ac oportiwnistiaeth y blaid y mae eu cydweithwyr yn San Steffan wedi dinistrio eu rhaglen eu hunain ac wedi torri cyllideb Cymru, sy’n dewis cyflwyno’r cynnig hwn ger ein bron heddiw.
Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig, ond ni fyddaf yn pleidleisio yn erbyn Cefnogi Pobl. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y math o wleidyddiaeth sy’n trin Cefnogi Pobl fel ergyd sydyn 30 munud yn y Siambr.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw, a diolch i’r Aelodau am eu sylwadau. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy gydnabod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gofalu am lawer o bobl agored i niwed yn ein cymunedau, a dechrau drwy ddiolch i Cymorth Cymru am y man cychwyn? Diolch i Auriol Miller, a phob lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i’r cyfarwyddwr dros dro, Katie Dalton, pan ddaw i’w swydd.
Er ei fod yn cael ei gymryd yn ganiataol yn aml, mae cartref sefydlog yn angen sylfaenol. Mae’n sylfaen i addysg plant, i gynnal swydd, i iechyd a lles, ac mae’n helpu pobl i wireddu eu potensial llawn. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl, fel y soniodd yr Aelodau, yn helpu pobl i ddod o hyd i gartref a’i gadw, yn darparu cymorth allweddol ar gyfer goresgyn problemau—anawsterau anodd mewn llawer o achosion. Eleni, disgwylir y bydd tua 58,000 o bobl, gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed, wedi cael eu cyffwrdd gan y rhaglen hon. Boed yn unigolyn neu’n deulu, yn hen neu’n ifanc, mae’r gefnogaeth yno iddynt. Mae yno ni waeth a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain, mewn tai cymdeithasol, yn byw mewn tai â chymorth, neu yn y sector rhentu preifat. Mewn rhai achosion, daw’r cymorth gyda llety, megis llochesi, sy’n helpu dioddefwyr trais domestig. Mewn achosion eraill, darperir cymorth fel y bo’r angen byrdymor yn eu cartref.
A gaf fi fynd ar ôl y pwyntiau roedd Mark Isherwood yn eu gwneud? Rwy’n rhyfeddu bod yr wrthblaid ar feinciau’r Ceidwadwyr yn cefnogi’r dadleuon hyn a gyflwynwyd gan rai o’r Aelodau’r wrthblaid—ond rhaid i’r Aelod gael rhyw syniad o realiti ynglŷn â’i sylwadau heddiw. Mae adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru 11.6 y cant yn waeth ei byd o ran cyllid erbyn 2019-20, o’i gymharu â’r flwyddyn pan ddechreuasom gyntaf. Credaf fod yn rhaid i’r Aelod gydnabod mai un pot o arian sydd gennym. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio’n dda. Mae atal yn sicr yn rhywbeth rwy’n awyddus i fynd ar ei drywydd gyda fy nhîm o gyd-Aelodau o amgylch bwrdd y Cabinet.
Bydd aelodau hefyd yn ymwybodol fod canlyniadau cynnar y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd yn galonogol iawn—fel y nododd Bethan Jenkins yn wir—cymaint felly nes bod Llywodraeth y DU o dan bwysau i ddilyn ein hesiampl. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rhan bwysig iawn yn y llwyddiant hwn, ond nid yw ei manteision wedi eu cyfyngu i dai yn unig. Rwyf wedi cyfarfod â Shelter Cymru yr wythnos hon, a byddaf yn cael trafodaethau pellach ynglŷn ag effeithiau hynny—cynaladwyedd hirdymor rhaglen o’r fath, sydd wedi cael llwyddiant mawr.
Fe gymeraf ymyriad os yw’r Aelod yn dymuno ymyrryd.
Rwy’n gobeithio eich bod wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cydnabod bod cyllidebau wedi bod yn crebachu. Rwy’n gofyn pam yn union, felly, nad yw Llywodraeth Cymru yn ceisio manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol er mwyn gwneud iawn am hynny, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i reoli cyllidebau llai. Nid cost ydyw, ond buddsoddiad.
Yn wir, mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw. Dyna pam y pleidleisiodd yr Aelod yn erbyn y Ddeddf tai yn y Llywodraeth ddiwethaf, pan oeddem yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon. Dylai feddwl yn ôl am sut y gweithredodd.
Mae ein hymchwil yn dangos sut y mae’r rhaglen yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG—sy’n fantais sylweddol ynddi ei hun. Mae’n darparu achos dros ymyrraeth gynnar ac atal, sy’n gynhenid yn ein Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Er enghraifft, ar gyfer pobl ag anghenion yn sgil camddefnyddio sylweddau, mae yna ostyngiad cyffredinol hirdymor yn y defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau meddygon teulu ar ôl cael cymorth. Rwy’n awyddus iawn i fynd ar drywydd y materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan fy mod yn credu bod hwn yn ateb hirdymor sy’n effeithio’n arbennig ar y gwasanaeth iechyd, a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd.
Mae’r enghreifftiau hyn, Ddirprwy Lywydd, yn dangos sut y mae’r rhaglen—ac, yn bwysig, eu dull integredig gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill—o fudd i bawb: yr unigolion dan sylw, y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill megis gwasanaethau digartrefedd lleol. O ystyried y pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, ni fu atal neu leihau’r galw erioed mor bwysig. Rwy’n gobeithio o ddifrif y bydd yr Aelod sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw hefyd yn cydnabod drwy broses y gyllideb yr heriau y mae Llywodraethau yn eu hwynebu, a lle gallwn wneud buddsoddiadau doeth megis Cefnogi Pobl, mae yna ganlyniad mewn rhan arall o fecanwaith y gyllideb. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus ble rydym yn gwneud ein buddsoddiadau. Rwyf am weld mwy o gyfraniad byth tuag at waith atal digartrefedd—mwy o weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill fel bod pobl yn cael cymorth pan fyddant ei angen. Waeth beth fo’r trefniadau ariannu, mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr arian yn gwneud cymaint o wahaniaeth ag y bo modd i’r rhai sydd ei angen.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod ysbryd y cynnig heddiw. Fodd bynnag, ni allwn achub y blaen ar broses y gyllideb gyfredol na dyfalu ynglŷn â’n cyllideb gyffredinol yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol parhaus, ac mewn rhai achosion, y pwysau ariannol cynyddol sydd arnom. Am y rhesymau hynny, byddaf yn gofyn i’r Aelodau wrthwynebu’r cynnig.
Rwy’n falch, fodd bynnag, fod Paul Davies yn cydnabod rôl ataliol bwysig y rhaglen yn rhan o’i welliannau. Fodd bynnag, am yr un rhesymau ag y cyfeiriais atynt, bydd yn rhaid i mi wrthwynebu gwelliant 1. Hyderaf nad oes neb—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, mae’r Aelod yn rhydd i ymyrryd os yw’r Aelod yn dymuno.
Roeddwn i ond yn dweud ei bod hi’n mynd mor dda ac roeddwn wedi gobeithio y byddech wedi cefnogi gwelliant synhwyrol iawn y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod i mewn pan drafodwyd gwelliant y Ceidwadwyr, ond mae’n drawiadol ei fod yn cofio.
Hyderaf na fydd neb yn ceisio camliwio neu amharchu proses gyllidebol briodol y Cynulliad hwn wrth i Lywodraeth Cymru anghytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd ar draws y Siambr ar bwysigrwydd y gwaith hwn, Lywydd—na ddylai negeseuon cytûn fynd ar goll ym mlerwch gwleidyddiaeth plaid a’n bod ni i gyd, yn y Siambr hon, yn gefnogol i’r rhaglen Cefnogi Pobl, er bod yna broses briodol i’w dilyn, fel y bydd yr Aelodau yma yn cydnabod. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Bethan Jenkins i ymateb i’r ddadl. Bethan.
Diolch. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y mater penodol hwn.
Fe welwch mewn gwleidyddiaeth weithiau na allwch ennill beth bynnag a wnewch. Rydych yn cefnogi rhaglen gan y Llywodraeth ac rydych yn cael eich cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth â hi. Rydym yma i wneud yn siŵr, fel y brif wrthblaid, ein bod yn eich dwyn i gyfrif, Weinidog, ac yn sicrhau bod rhaglenni fel hyn yn bwysig ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn dweud wrth eich Aelod mainc gefn, Jeremy Miles: a ydych chi, felly, yn bod yn nawddoglyd tuag at y bobl yn yr oriel gyhoeddus nad ydynt yn dweud mai ergyd wleidyddol 30 munud yn unig yw hon? Maent yn gwybod am bwysigrwydd y ddadl hon oherwydd mai eich Llywodraeth chi a gyflwynodd y cynnig i dorri Cefnogi Pobl, felly mae’n rhaid i ni gadw hyn ar yr agenda wleidyddol. Os na wnawn hynny, yna mae’n fethiant ar ein rhan fel y brif wrthblaid yma i’ch dwyn i gyfrif. Felly, rwy’n derbyn bod Gweinidog y Llywodraeth wedi bod yn rhyddfrydol iawn ei ysbryd i siarad â ni yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gallu clywed pryderon y bobl yma heddiw, ond yn sicr nid chwarae gemau yw hyn. Nid wyf yn gwneud hynny mewn gwleidyddiaeth, felly cefais fy mrifo braidd gan y sylwadau hynny, a hefyd gan y Ceidwadwyr. Wyddoch chi, gwelliant ‘dileu popeth’—daethom yma yn llawn o ewyllys da. Gallech fod wedi helpu i wella ein cynnig a’i ymestyn. Fe ddywedoch bron yn union yr un peth ag a ddywedais i, Mark Isherwood.
Felly, os gwelwch yn dda gadewch i ni geisio cynnal y cynlluniau hyn. Maent yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl yn ein cymunedau.
A wnewch chi dderbyn bod y sylwadau a wneuthum yn adlewyrchu’r sylwadau a gefais gan yr elusennau a enwais, a ddywedodd fod y tair cronfa yn gyd-ddibynnol, er mwyn cyflawni’r nodau a rannwn?
Gwnaf, ond rwyf wedi gorffen. Diolch yn fawr iawn.
Collais hynny. Mae’n ddrwg gennyf am hynny.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Felly, byddaf yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.