Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 28 Medi 2016.
Yn wir, mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw. Dyna pam y pleidleisiodd yr Aelod yn erbyn y Ddeddf tai yn y Llywodraeth ddiwethaf, pan oeddem yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon. Dylai feddwl yn ôl am sut y gweithredodd.
Mae ein hymchwil yn dangos sut y mae’r rhaglen yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG—sy’n fantais sylweddol ynddi ei hun. Mae’n darparu achos dros ymyrraeth gynnar ac atal, sy’n gynhenid yn ein Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Er enghraifft, ar gyfer pobl ag anghenion yn sgil camddefnyddio sylweddau, mae yna ostyngiad cyffredinol hirdymor yn y defnydd o adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau meddygon teulu ar ôl cael cymorth. Rwy’n awyddus iawn i fynd ar drywydd y materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan fy mod yn credu bod hwn yn ateb hirdymor sy’n effeithio’n arbennig ar y gwasanaeth iechyd, a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd.
Mae’r enghreifftiau hyn, Ddirprwy Lywydd, yn dangos sut y mae’r rhaglen—ac, yn bwysig, eu dull integredig gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill—o fudd i bawb: yr unigolion dan sylw, y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill megis gwasanaethau digartrefedd lleol. O ystyried y pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, ni fu atal neu leihau’r galw erioed mor bwysig. Rwy’n gobeithio o ddifrif y bydd yr Aelod sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw hefyd yn cydnabod drwy broses y gyllideb yr heriau y mae Llywodraethau yn eu hwynebu, a lle gallwn wneud buddsoddiadau doeth megis Cefnogi Pobl, mae yna ganlyniad mewn rhan arall o fecanwaith y gyllideb. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn ofalus ble rydym yn gwneud ein buddsoddiadau. Rwyf am weld mwy o gyfraniad byth tuag at waith atal digartrefedd—mwy o weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill fel bod pobl yn cael cymorth pan fyddant ei angen. Waeth beth fo’r trefniadau ariannu, mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr arian yn gwneud cymaint o wahaniaeth ag y bo modd i’r rhai sydd ei angen.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod ysbryd y cynnig heddiw. Fodd bynnag, ni allwn achub y blaen ar broses y gyllideb gyfredol na dyfalu ynglŷn â’n cyllideb gyffredinol yn y blynyddoedd sy’n dilyn. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol parhaus, ac mewn rhai achosion, y pwysau ariannol cynyddol sydd arnom. Am y rhesymau hynny, byddaf yn gofyn i’r Aelodau wrthwynebu’r cynnig.
Rwy’n falch, fodd bynnag, fod Paul Davies yn cydnabod rôl ataliol bwysig y rhaglen yn rhan o’i welliannau. Fodd bynnag, am yr un rhesymau ag y cyfeiriais atynt, bydd yn rhaid i mi wrthwynebu gwelliant 1. Hyderaf nad oes neb—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, mae’r Aelod yn rhydd i ymyrryd os yw’r Aelod yn dymuno.