Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A fyddai’r Aelod yn ystyried tynnu ei welliant yn ôl heno, oherwydd, yn amlwg, rwy’n derbyn y pwynt eich bod am ddatblygu eich gweledigaeth amgen a’ch Rhaglen yr Wrthblaid, ond drwy gyflwyno eich gwelliant, bydd yr wrthblaid yn chwalu ac yn amlwg, ni fyddwn yn gallu gosod safbwynt cydgysylltiedig i ddangos ein diffyg hyder yn y rhaglen lywodraethu a gyflwynwyd gan y blaid sy’n llywodraethu?