Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 28 Medi 2016.
Nid wyf am rygnu ynglŷn â’r diffyg tudalennau, gan fod Julie eisoes wedi cymryd ati ynglŷn â hynny, ond hyd yn oed os ydym yn derbyn mai 16 tudalen o hyd yw’r ddogfen, hyd yn oed o fewn ei maint bach, mae yna ddiffyg cynnwys pendant ynddi. Nid oeddwn yma bum mlynedd yn ôl, ond dywedir wrthyf fod y ddogfen gyfatebol bryd hynny’n 600 o dudalennau o hyd. Mae hynny i’w weld yn dangos rhyw ddiffyg yn rhywle.