Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Yn y cyfnod allweddol hwn, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth Lafur yn cyflwyno rhaglen arloesol a blaengar sy'n dangos hyder i bobl yng Nghymru. Mae arna’ i ofn nad yw’r rhaglen lywodraethu a gynhyrchwyd y mis diwethaf yn bodloni’r meini prawf. Cyn amlinellu agenda gadarnhaol Plaid Cymru, hoffwn wneud un pwynt am raglen Llywodraeth Llafur.
Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno â'r Prif Weinidog y dylai ei raglen lywodraethu gael ei hoedi i ystyried goblygiadau pleidlais y refferendwm. Roedd yn syndod ac yn siom, felly, i weld nad oedd y rhaglen a gafodd ei hoedi, pan gafodd ei chyhoeddi, yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y DU’n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid oes yn rhaid i ni fod yn gallu rhagweld beth fydd yn digwydd i gael cynllun. Mae hon yn rhaglen ysgafn—mae'n fyr o ran hyd ac mae'n disgyn yn fyr o ran ein disgwyliadau. Mae angen syniadau mawr, dewr ar Gymru yn awr, nid minimaliaeth. Mewn rhaglenni Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, rydym wedi cael ein llethu gan ystadegau a dangosyddion. Mae’r dangosyddion hynny wedi diflannu yn hytrach na chael eu gwneud yn fwy craff, ac yn hynny o beth, mae Plaid Cymru yn ystyried bod y Llywodraeth yn mynd yn ei hôl.
Rydym yn teimlo bod gan Blaid Cymru, fel y blaid dros Gymru, ddyletswydd i geisio gwella'r sefyllfa hon a sicrhau ein blaenoriaethau ein hunain yn lle hynny. Fel y nodwyd gan welliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, mae Plaid Cymru wedi cynhyrchu'r rhaglen gyntaf erioed o wrthwynebiad. Felly, yn hytrach na chwyno o'r cyrion, byddwn yn ceisio defnyddio'r sefyllfa hon i gael cymaint o'n cynigion polisi ar waith ag y gallwn.
Uwchben ein rhaglen bolisi lawn, mae gennym dri nod allweddol. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn Cymru rhag unrhyw ganlyniadau negyddol yn sgil Brexit. Mae’n rhaid i hynny fod yn ganolog i waith y Llywodraeth. Yn ail, mae'n rhaid i ni barhau â'r agenda o adeiladu cenedl. Bydd Cymru fwy hyderus, Cymru wedi’i grymuso a Chymru mwy unigryw yn parhau i fod yn flaenllaw yn yr holl bolisïau y bydd Plaid Cymru yn eu cyflwyno yn y sefyllfa Llywodraeth leiafrifol hon. Yn drydydd, rydym yn argymell ymagwedd Cymru-gyfan at wariant y Llywodraeth. Mae’n rhaid i fuddsoddiad a chyfleoedd gael eu lledaenu mor gyfartal â phosibl ledled y wlad. Un Gymru yw hon, ac mae gormod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl. P'un a yw anghydbwysedd o fewn Cymru yn fater o ffaith neu’n fater o ganfyddiad, mae’n rhaid rhoi sylw iddo.
Mae’n rhaid i lywodraethau Cymru, waeth beth yw eu lliw gwleidyddol, fod yn fwy ymroddedig nag erioed, i sicrhau nad yw gwasanaethau'n cael eu canoli i ffwrdd o ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae'n rhaid i addewidion tebyg i'r system dull metro ar gyfer y gogledd a'r cynigion rheilffordd trydan ar gyfer y Cymoedd gael eu gwireddu ar ôl eu cyhoeddi.
Lywydd, mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn debygol o fod angen cefnogaeth Plaid Cymru i basio. Ymddengys bod pob un o'r mesurau yn gyson â pholisïau Plaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y ddeddfwriaeth trethu a'r Bil undebau llafur, sydd ill dau yn feysydd y mae Plaid Cymru eisiau gweld cynnydd arnynt. Er ein bod yn croesawu cynnydd ar y ddeddfwriaeth, rydym yn parhau i fod yn siomedig â rhaglen y Llywodraeth, nad yw, ar ei ffurf bresennol, yn cyflawni'r uchelgais sydd ei hangen ar y wlad hon.