<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, mater i lywodraeth leol yw gwneud cais y cytundeb dinas, nid i Lywodraeth Cymru, ond fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cynharach, rydym ni’n barod i helpu. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod, fel y gwnaethom gyda chais cytundeb dinas Caerdydd. Felly, bydd unrhyw gais am gymorth, wrth gwrs, yn cael ei ystyried a bydd cymorth yn cael ei ddarparu; ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda thîm y cytundeb dinas er mwyn iddo—gan mai ei gyfrifoldeb ef yw hynny—i wneud cais. Rydym ni eisiau gweld cais cytundeb dinas yn llwyddo ar gyfer rhanbarth bae Abertawe.