<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:33, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae’r cytundeb dinas yn gyffrous ac yn arloesol. Mae'n canolbwyntio ar TGCh a'r genhedlaeth nesaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, adeiladwyd y rhanbarth ar y diwydiannau traddodiadol a gweithgynhyrchu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y rhan honno yn parhau i fod yn ganolbwynt mewn cytundebau dinas fel y bydd y gweithgynhyrchu presennol, a gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig meysydd ymchwil, yn cael eu cynorthwyo yn y dyfodol?