<p>Adeiladu Tai Cymdeithasol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai dim ond galluogwyr y gall awdurdodau lleol fod; maen nhw’n adeiladwyr tai pwysig hefyd. Ond nid dyma'r unig fodel, ac rydym ni’n deall hynny. Rydym ni’n gwybod y bydd cymdeithasau tai yn parhau i fod yn bwysig yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ac, wrth gwrs, atebion newydd arloesol. Rydym ni wedi sôn yn y gorffennol am ymddiriedolaethau tir cymunedol, cynlluniau rhannu ecwiti. Mae cynlluniau tai cydweithredol, rwy’n credu, yn sicr yn fodelau y gellir eu harchwilio'n llawn yn y dyfodol, a byddem yn ceisio darparu unrhyw gymorth y gallwn er mwyn bwrw ymlaen â’r modelau hynny.