<p>Taliadau PAC</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 4 Hydref 2016

Mae hi. Nid ydym ni’n meddwl y gallwn ni, wrth gwrs, fwydo ein hunain. Mae 54 y cant o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y Deyrnas Unedig yn dod o’r Deyrnas Unedig. Dyna yw natur lle rydym ni’n byw, achos lle rydym ni’n byw yn y byd. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn gallu bod yn gynaliadwy, eu bod nhw’n cynhyrchu bwyd sy’n fwyd maen nhw’n gallu ei werthu, ac yn fwyd y mae pobl yn moyn prynu. Mae hynny’n hollbwysig. Mae yna gyfle i ailystyried piler 1 a philer 2, wrth gwrs. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, sy’n dod o dan y CAP. Os nad yw’r CAP yna rhagor, felly mae yna gyfleon i weld a oes eisiau cael y ffin yna fanna yn y dyfodol. So, mae yna gyfleon, mae yna gyfle i ffermwyr i’n helpu ni i siapio’r polisïau at y dyfodol, ond mae’n rhaid cael yr arian er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.