Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 4 Hydref 2016.
Brif Weinidog, rwy’n cytuno’n llwyr â chi mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw i'r taliadau PAC presennol gael eu gwasgu drwy yr hyn y gellir ond ei alw’n 'fangl Barnett'. Mae hyn yn creu’r risg o danariannu Cymru yn y dyfodol, mwy nag yr ydym ni wedi ei weld eisoes. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch creu system o gymorth i ffermydd nad yw'n amodol ar fformiwla Barnett ac sy’n cynorthwyo ffermwyr ar sail angen, ac sydd efallai’n cymryd mwy o gynhyrchu i ystyriaeth hyd yn oed, y mae ffermwyr eu hunain wedi bod yn galw amdano?