<p>Taliadau PAC</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae cymorthdaliadau cynhyrchu yn sicr yn gleddyf deufin. Rwy’n cofio pan roedd gennym ni gymorthdaliadau cynhyrchu ac mae’n debyg i ni gynhyrchu 25 y cant yn ormod o ran cig defaid yn arbennig, ac roedd y pris yn isel o ganlyniad. Mae’n rhaid i ni gynhyrchu’r hyn y bydd y farchnad yn ei oddef, ac nid yr hyn yr ydym ni’n meddwl y mae angen i bobl ei brynu, oherwydd y gwir amdani yw y byddwn yn gorgynhyrchu ac y byddwn yn gweld y pris yn gostwng. Felly, mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn.

Gwn fod Lesley Griffiths wedi cael cyfarfodydd ar yr union fater hwn. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad sut y dylai polisi ffermio edrych yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir dweud nad oes ganddi unrhyw syniad a dweud y gwir o natur datganoli, pan ddaw i bolisi ffermio. O'n safbwynt ni, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw ymreolaeth i Gymru o ran polisi amaethyddol, ymhlith eraill, ynghyd, wrth gwrs, â chyfran deg o'r arian y dywedir wrthym fydd ar gael o ganlyniad i Brexit.