<p>Cam-drin Domestig yng Nghymru </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:02, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiadau gan NSPCC Cymru yr wythnos diwethaf eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr oedolion sy’n eu ffonio yn poeni am blant sy'n dioddef o gam-drin domestig corfforol ac emosiynol, neu’n dyst iddo. Mae nifer y galwadau i'r NSPCC, rwy’n credu, wedi cynyddu 63 y cant dros y chwe blynedd diwethaf. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o gam-drin domestig, yn enwedig yr effaith niweidiol a gaiff ar fywydau pobl ifanc?