2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau mynychter cam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(5)0186(FM)
Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu pob math o gam-drin domestig. Rydym ni wrthi’n ymgynghori ar y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar hyn o bryd, a fydd, pan gaiff ei chwblhau ym mis Tachwedd, yn nodi ein hamcanion allweddol dros y pum mlynedd nesaf.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiadau gan NSPCC Cymru yr wythnos diwethaf eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr oedolion sy’n eu ffonio yn poeni am blant sy'n dioddef o gam-drin domestig corfforol ac emosiynol, neu’n dyst iddo. Mae nifer y galwadau i'r NSPCC, rwy’n credu, wedi cynyddu 63 y cant dros y chwe blynedd diwethaf. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o gam-drin domestig, yn enwedig yr effaith niweidiol a gaiff ar fywydau pobl ifanc?
Cynrychiolir NSPCC Cymru ar grŵp cynghori'r Gweinidog, felly rydym ni wedi sefydlu cysylltiadau â nhw i ystyried yr adroddiad hwn ac i fwrw ymlaen ag unrhyw waith. Ond gallaf ddweud ein bod wedi ymrwymo yn y strategaeth genedlaethol i weithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn lleihau niwed i iechyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu bywydau fel oedolion. Mae angen i ni ystyried y mater hwn yn y ffordd fwyaf cyfannol posibl, gyda’r nod o ddileu achosion trais yn y cartref yn hytrach na dim ond ymdrin â chanlyniadau, fel petai. Felly, adlewyrchir y dull hwnnw yn y gwaith y mae grŵp cynghori’r Gweinidog yn bwrw ymlaen ag ef.
Brif Weinidog, mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan mewn cynllun arbrofol tri heddlu, a fydd yn paratoi swyddogion rheng flaen i gadw llygad am ymddygiad cymhellol neu reoli wrth fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Mae hwn yn newid i ganfod patrymau o ymddygiad camdriniol, yn dilyn ymlaen o ddeddfau newydd a gyflwynwyd i fynd i'r afael â throseddwyr sy'n ymddwyn mewn ffordd gymhellol neu reoli at wŷr neu wragedd, partneriaid neu aelodau eraill o'r teulu, ac sydd â’r nod o fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau fel cyfryngau cymdeithasol, ysbïo arnyn nhw ar-lein a’u hatal rhag cymdeithasu—a gall troseddwyr gael hyd at bum mlynedd o garchar. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi’n cymryd hyn i ystyriaeth ar lefel Gwent ac a yw’n rhywbeth y gellir ei ystyried ar sail gyffredinol yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod hwnnw'n fodel da. Bûm yn gweithio am flynyddoedd lawer yn y llysoedd teulu ac ymdriniais â nifer o achosion trais yn y cartref. Wrth gwrs, y materion a oedd fwyaf anodd eu profi oedd y rhai a oedd yn ymwneud â niwed seicolegol. Pan fydd rhywun wedi dioddef ymosodiad a bod yr ymosodiad hwnnw yn gadael tystiolaeth gorfforol, yna mae yno i bawb ei gweld, ond gallai fod yn anodd, wrth gwrs, ymdrin â phobl sy’n rheoli pobl eraill ac sy’n peri trais seicolegol. Nid oedd unrhyw gyfryngau cymdeithasol yr adeg honno—mae yna erbyn hyn. Felly, rwy’n croesawu'n fawr iawn yr hyn y mae Heddlu Gwent yn ei wneud er mwyn cael at wraidd yr hyn sy’n ymddangos fel sefyllfa arferol ar yr wyneb, ac yn ymchwilio'n ddyfnach er mwyn gwneud yn siŵr nad oes trais seicolegol yn cael ei arddangos ac y gallant ei nodi’n gynnar.
Byddwch yn cofio, pan gawsom ddadl Cyfnod 3 a Chyfnod 4 y ddeddfwriaeth y llynedd—y Ddeddf trais yn erbyn menywod—ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni tramgwyddwyr, Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyn-carchar i droseddwyr. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny?
Wel, mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu trwy gyfrwng grŵp cynghori'r Gweinidog ac, wrth gwrs, drwy'r strategaeth. Nod y strategaeth fydd bod yn hollgynhwysol, gan ymdrin â'r materion y mae'r Aelod wedi eu codi er mwyn—fel y soniais yn gynharach—gwneud yn siŵr bod materion yn cael eu trin yn gynnar yn hytrach, wrth gwrs, nag ymdrin â’r canlyniadau a'r trawma y mae hynny’n ei achosi i'r dioddefwr.
Brif Weinidog, ers cyflwyno’r drosedd o ymddygiad rheoli neu gymhellol, dim ond llond dwrn o gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud. A yw'n croesawu felly y newyddion y bydd heddluoedd ar draws y wlad yn hyfforddi swyddogion i adnabod arwyddion ymddygiad reoli neu gymhellol? Mae'n debyg i un Bethan, mae’n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae angen i ni hysbysu’r cyhoedd nad yw trais yn y cartref wedi ei gyfyngu i gam-drin corfforol. Sut all Llywodraeth Cymru helpu i ledaenu'r neges bod cam-drin seicolegol ac emosiynol yn drosedd na fydd yn cael ei goddef, ac i wneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol? Diolch.
Byddwn yn parhau i sicrhau bod y neges yn cael ei derbyn. Fel y dywedais, bydd y strategaeth yn ceisio bwrw ymlaen â hynny. Un peth yw creu’r drosedd; mae dod o hyd i ddigon o dystiolaeth i erlyn yn gallu bod yn anoddach. Mae hynny'n aml yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol fod trosedd wedi digwydd yn y lle cyntaf, a all fod yn hanner y frwydr weithiau, ac yn ail, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod rhywun sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn teimlo'n ddiogel er mwyn gwneud hynny ac yn teimlo y bydd canlyniad iddo ef ac y bydd yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol. Felly, nid yw'n gwestiwn o greu trosedd yn unig, fel y mae hi'n dweud; mae'n golygu gwneud yn siŵr bod yr heddlu yn gwneud gwaith dilynol ar y drosedd ac yn ymchwilio iddi’n briodol—mae hi wedi rhoi enghreifftiau o ble mae hynny'n digwydd—ac yna, wrth gwrs, yn y pen draw, erlyniadau llwyddiannus.