Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Hydref 2016.
Byddwn, mi fyddwn. Rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae nyrsys epilepsi wedi bod yn hynod ddefnyddiol, nid yn unig i'r claf, ond wrth gwrs, i'r gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd o ran gallu ymdrin â chyflyrau yn gyflym ac mor agos â phosibl i'r claf. Cyn belled ag y mae’r byrddau iechyd yn y cwestiwn, rydym ni’n disgwyl iddyn nhw ystyried y gymysgedd staff sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaethau niwrolegol i'w poblogaeth leol a’i deilwra yn unol â hynny. Byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, ceisio cael nifer ddigonol o nyrsys epilepsi, er mwyn nid yn unig darparu'r gwasanaeth, ond i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth yn ddiweddarach.