Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 4 Hydref 2016.
Gallaf ddweud ein bod wedi ymrwymo £1 filiwn bob blwyddyn i gefnogi’r grŵp gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun cyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau yng Nghymru. O ganlyniad i'r dyraniad hwnnw, gwn fod y grwpiau cyflyrau niwrolegol a strôc wedi ymrwymo £1.2 miliwn ar y cyd i gefnogi gwasanaethau niwro-adferiad cymunedol, ac y bydd buddsoddiad ledled Cymru yn dod â manteision sylweddol i gleifion ac yn cynnig mwy o degwch o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru.