Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 4 Hydref 2016.
Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond tan i ni weld y manylion, mae'n anodd rhoi ateb pendant am hynny. Rydym ni’n cadw'r hawl, wrth gwrs, i benderfynu a ydym am gefnogi’r Cynnig Cysyniad Deddfwriaethol hwnnw ai peidio, yn dibynnu ar yr hyn a ddaw i’r amlwg. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai’r hyn sy'n digwydd yw bod Llywodraeth y DU eisiau sicrhau nad yw’r hyn sydd eisoes yn y gyfraith, yn sgil yr UE, yn cael ei golli o ganlyniad i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer hynny. Cyn belled ag y mae’r lle hwn yn y cwestiwn, rydym ni’n aros i weld beth yw manylion hynny.
O ran trafod, mae gennym ni weithdrefn sefydledig. Er enghraifft, ym maes amaethyddiaeth, lle mae wedi ei hen sefydlu, mae'r pedwar Gweinidog yn dod at ei gilydd gyda’r nod o gytuno ar safbwynt cyffredin, cyn belled ag y mae y DU yn y cwestiwn, yng Nghyngor y Gweinidogion. Dyna'r union fath o broses y byddwn yn disgwyl ei chael y tro hwn. Mae llawer o ryfyg wedi dod o gynhadledd y Ceidwadwyr am Lywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn ceisio dweud mai hi sydd â’r unig swyddogaeth o ran trafod. Hi sydd wrth y llyw, ond byddai'n hynod annoeth i Lywodraeth y DU geisio gorfodi ateb Brexit a wrthwynebwyd yng Nghymru, yn yr Alban ac, yn arbennig, yng Ngogledd Iwerddon, lle ceir peryglon y byddai ateb o'r fath yn cael ei weld fel bod yn cael ei orfodi ar y rhan honno o'r ynys.
Ac felly, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU ei hun syniad gwirioneddol o’r hyn y mae eisiau ei wneud. Rwy'n credu ei fod yn gywir yn ei ddadansoddiad bod tuedd tuag at Brexit caled, dim ond gan na allant feddwl am unrhyw ffordd arall o’i wneud. Mae’r holl sôn y byddai'r UE yn hyblyg, y byddai hyblygrwydd o ran rhyddid i symud, y byddai cytundeb masnach rydd ar waith ac na fyddai tariffau, mae hynny i gyd wedi mynd allan drwy’r ffenest. A fy ofn mawr i nawr yw y byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw, y mae’n ymddangos bod rhai gwleidyddion Ceidwadol yn hapus yn ei gylch, o Brexit caled gyda thariffau. Mae David Davis ei hun wedi dweud, 'Wel, wyddoch chi, os bydd tariffau’n digwydd, mae'n £2 biliwn i’r Trysorlys', gan anghofio, wrth gwrs, yr effaith ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu yn arbennig, ac wrth gwrs y ffaith mai defnyddwyr fyddai’n gorfod talu am y tariffau hynny.
Felly, o’m safbwynt i, mae ymgysylltiad â Llywodraeth y DU wedi bod yn dderbyniol hyd yn hyn. Nid ydym mewn gwahanol sefyllfa o gwbl i’r Alban; Mae'r Alban wedi gwneud llawer o sŵn, ond y gwir amdani yw nad yw mewn sefyllfa wahanol i ni o gwbl. Ond, yr hyn sy'n gwbl eglur yw bod yn rhaid i ni, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Gibraltar—sy'n ofni effeithiau Brexit yn fawr iawn—wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn cael eu clywed, ac rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr mai dyna'n union fydd yn digwydd.