– Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
Rwy’n galw nawr ar Steffan Lewis i ofyn yr ail gwestiwn brys.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE? EAQ(5)0189(FM)
Am 6.10 p.m. nos Sadwrn, cefais alwad gan David Davis, Gweinidog Brexit Llywodraeth y DU. Ffoniodd i roi gwybod i mi y byddai Bil yn cael ei gyflwyno, yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae wedi cael ei or-hyrwyddo fel y Bil diddymu mawr, fel y’i disgrifir nawr. Yr hyn a ddywedodd wrthyf oedd, yn rhan o'r broses honno, ei fod yn dymuno sicrhau bod yr hyn sydd eisoes yn gyfraith yn awdurdodaethau'r DU ac sy’n dod o'r UE yn cael ei gadw er gwaethaf diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd. Mewn egwyddor, nid oes unrhyw anawsterau gyda hynny, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld y manylion, ac ni fyddwn yn mynegi ein safbwynt hyd nes y bo’r manylion hynny’n eglur.
Diolch. Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, dyma’r gerddoriaeth gefndir ynghylch cyflwyno’r syniad o Fil diddymu Ewropeaidd sydd efallai’n rhan anochel o sefyllfa Brexit caled ac sydd â chanlyniadau dyfnach a phellgyrhaeddol. Rwy'n pryderu braidd am natur y ffordd y gwnaeth Prif Weinidog y DU ei chyhoeddiad ac, yn wir, y ffordd yr hysbyswyd Prif Weinidog y wlad hon am y penderfyniad hwnnw. Tybed a all ymhelaethu ymhellach am ba un a fydd yn ofynnol i'r sefydliad hwn fabwysiadu proses gyfochrog o ran Bil diddymu Ewropeaidd ar gyfer cyfraith Ewropeaidd sy’n ymwneud â materion datganoledig, neu, yn hytrach, a fyddai gofyniad i’r sefydliad hwn a Seneddau datganoledig eraill gydsynio i ddeddfwriaeth y DU.
Hefyd, ceir pryder cynyddol, a hynny’n briodol, y gallai'r Bil diddymu mawr honedig fod yn fwy o ymarfer cydio pŵer mawr, gan alluogi San Steffan i ganoli grym ac atal pwerau a adferwyd rhag cael eu datganoli i'r lle hwn. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cynnig i atal y cydio pŵer hwnnw rhag digwydd? Mae'r cynnig Bil diddymu hwn yn codi cwestiynau ehangach nawr am ein dyfodol cenedlaethol a natur ein hundeb gwleidyddol â'r Deyrnas Unedig. A wnaiff ef achub ar y cyfle hwn i ddiffinio'n eglur yr hyn y mae'n ei olygu wrth ddweud 'undeb mwy ffederal' a sut y gall ei gynlluniau i ddarparu hynny weithio o fewn fframwaith y cyhoeddiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn gynharach yr wythnos hon?
Dywedir wrthym hefyd, ochr yn ochr â'r cyhoeddiad hwn, na fydd gan Lywodraeth Cymru sedd wrth y bwrdd trafod gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ar y pwynt hwn, a all y Prif Weinidog gadarnhau neu wadu bod ei alwad am sedd wrth y bwrdd wir yn alwad am sedd wrth y bwrdd, neu a oes ganddo wahanol ddiffiniad? Yng ngoleuni’r cyhoeddiad gan Theresa May, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried ymhellach dro pedol arall ar feto i Gymru o'r cytundeb Brexit terfynol? Ac, yn olaf, nawr bod Llywodraeth y DU yn nodi ei bwriad ar gyfer y Brexit caletaf posibl, a wnaiff ef fyfyrio nawr ar yr hyn y gall ei Lywodraeth ei hun ei wneud i amddiffyn y budd cenedlaethol, ac, yn benodol, i amddiffyn ein lle yn y farchnad Ewropeaidd?
Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ond tan i ni weld y manylion, mae'n anodd rhoi ateb pendant am hynny. Rydym ni’n cadw'r hawl, wrth gwrs, i benderfynu a ydym am gefnogi’r Cynnig Cysyniad Deddfwriaethol hwnnw ai peidio, yn dibynnu ar yr hyn a ddaw i’r amlwg. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai’r hyn sy'n digwydd yw bod Llywodraeth y DU eisiau sicrhau nad yw’r hyn sydd eisoes yn y gyfraith, yn sgil yr UE, yn cael ei golli o ganlyniad i ddiddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Efallai y bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer hynny. Cyn belled ag y mae’r lle hwn yn y cwestiwn, rydym ni’n aros i weld beth yw manylion hynny.
O ran trafod, mae gennym ni weithdrefn sefydledig. Er enghraifft, ym maes amaethyddiaeth, lle mae wedi ei hen sefydlu, mae'r pedwar Gweinidog yn dod at ei gilydd gyda’r nod o gytuno ar safbwynt cyffredin, cyn belled ag y mae y DU yn y cwestiwn, yng Nghyngor y Gweinidogion. Dyna'r union fath o broses y byddwn yn disgwyl ei chael y tro hwn. Mae llawer o ryfyg wedi dod o gynhadledd y Ceidwadwyr am Lywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn ceisio dweud mai hi sydd â’r unig swyddogaeth o ran trafod. Hi sydd wrth y llyw, ond byddai'n hynod annoeth i Lywodraeth y DU geisio gorfodi ateb Brexit a wrthwynebwyd yng Nghymru, yn yr Alban ac, yn arbennig, yng Ngogledd Iwerddon, lle ceir peryglon y byddai ateb o'r fath yn cael ei weld fel bod yn cael ei orfodi ar y rhan honno o'r ynys.
Ac felly, ar hyn o bryd, rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU ei hun syniad gwirioneddol o’r hyn y mae eisiau ei wneud. Rwy'n credu ei fod yn gywir yn ei ddadansoddiad bod tuedd tuag at Brexit caled, dim ond gan na allant feddwl am unrhyw ffordd arall o’i wneud. Mae’r holl sôn y byddai'r UE yn hyblyg, y byddai hyblygrwydd o ran rhyddid i symud, y byddai cytundeb masnach rydd ar waith ac na fyddai tariffau, mae hynny i gyd wedi mynd allan drwy’r ffenest. A fy ofn mawr i nawr yw y byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw, y mae’n ymddangos bod rhai gwleidyddion Ceidwadol yn hapus yn ei gylch, o Brexit caled gyda thariffau. Mae David Davis ei hun wedi dweud, 'Wel, wyddoch chi, os bydd tariffau’n digwydd, mae'n £2 biliwn i’r Trysorlys', gan anghofio, wrth gwrs, yr effaith ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu yn arbennig, ac wrth gwrs y ffaith mai defnyddwyr fyddai’n gorfod talu am y tariffau hynny.
Felly, o’m safbwynt i, mae ymgysylltiad â Llywodraeth y DU wedi bod yn dderbyniol hyd yn hyn. Nid ydym mewn gwahanol sefyllfa o gwbl i’r Alban; Mae'r Alban wedi gwneud llawer o sŵn, ond y gwir amdani yw nad yw mewn sefyllfa wahanol i ni o gwbl. Ond, yr hyn sy'n gwbl eglur yw bod yn rhaid i ni, yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Gibraltar—sy'n ofni effeithiau Brexit yn fawr iawn—wneud yn siŵr bod ein lleisiau yn cael eu clywed, ac rwy’n bwriadu gwneud yn siŵr mai dyna'n union fydd yn digwydd.
Wel, yn amlwg, nid yw hyn yn ymwneud â chydio pŵer mawr. Fel yr ydych chi eich hun wedi ei ddweud, rydych chi eisiau cymryd rhan a chael eich cynnwys ochr yn ochr â'r Cynulliadau a Seneddau datganoledig eraill, a Llywodraeth y DU, ond heb, fel y cydnabuwyd gennych hefyd ym mis Medi, feto derfynol. Ond, o gofio y bydd y Bil diwygio mawr neu ddiddymu mawr, fel y’i cyhoeddwyd ac fel yr ydym yn ei ddeall, yn newid y corff cyfraith UE presennol yn gyfraith y DU ac y bydd seneddau’r DU yn rhydd wedyn i ddiwygio, diddymu a gwella unrhyw gyfraith a ddewisant, sut gwnewch chi, yn ystod tymor y Cynulliad hwn—o gofio bod yr ymadawiad yn debygol o ddigwydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn—ymgysylltu â chyrff fel Sefydliad Bevan, sy'n dweud bod angen i Gymru ar ôl Brexit ailystyried polisïau economaidd, neu Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n dweud bod yn rhaid i ni gydnabod y cyfle i lunio dyfodol sy'n addas ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, a'r holl gyrff eraill sy’n mynegi safbwyntiau tebyg, fel eich bod yn barod, yn 2019 o bosibl, i ddechrau cyflwyno rhaglenni deddfwriaethol priodol sy'n bodloni’r dyheadau ac yn diwallu’r anghenion a nodwyd gan y sefydliadau hyn?
Wel, mae dewis geiriau yr Aelod yn anffodus, oherwydd cydio pŵer yw’r union beth a ddisgrifiodd ar y cychwyn. Yr hyn a ddywedodd oedd y byddai cyfraith y DU yn ymdrin â’r materion hyn nawr. Wel, nid yw cyfraith y DU yn bodoli mewn gwirionedd. Ond, yn ail, nid yw'n fater i Senedd y DU yn ei chyfanrwydd o ran yr hyn sy'n digwydd gyda chyfraith yr UE. Mae llawer o ddeddfau wedi'u datganoli, a bydd yn gwbl annerbyniol i Senedd y DU fod â swyddogaeth o ran ymdrin â gweinyddiaeth ddatganoledig mewn unrhyw un o'r cenhedloedd datganoledig. Mater i'r sefydliad hwn yn gyfan gwbl yw hynny, ac i’r rhai sydd wedi eu hethol i wasanaethu ynddo.
Mae'n sôn am ffermio. Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill. Mae'r Gweinidog wedi cyfarfod ag undebau ffermio ar sawl achlysur. Ond, unwaith eto, yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu yw nad ydym yn gwybod a fydd unrhyw arian ar gael ar gyfer cymorthdaliadau ffermio ar ôl 2020. Nid yw’r sicrwydd hwnnw wedi ei roi.
I mi, mae’r mater o dariffau yn flaenllaw dros ben. Mae llawer iawn o fusnesau wedi mynegi i mi eu pryder mawr am y posibilrwydd o dariffau, a’u pryder mawr am y posibilrwydd o wahanol drefniadau rheoleiddio, pe byddai hynny'n digwydd yn y dyfodol. Y gwir amdani yw, os ceir mynediad rhydd a dilyffethair at farchnad Ewrop heb dariffau, yna byddai hynny'n hynod ddefnyddiol. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae honno, i mi, yn llinell goch bendant cyn belled ag y mae Cymru a Phrydain yn y cwestiwn. Os, fodd bynnag, y bydd tariffau, yna bydd hynny'n golygu y bydd llawer o'r hyn yr ydym ni’n ei gynhyrchu yn dod yn anghystadleuol. Byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw marchnad sy'n fwy nag America a Rwsia gyda’i gilydd mor agored i ni ag yr oedd ar un adeg, ac nid wyf yn credu bod hynny’n gwneud unrhyw synnwyr economaidd o gwbl.
Yr hyn sydd yn fy mhoeni i yw bod rhai ar asgell dde y Blaid Geidwadol y mae’n ymddangos eu bod yn meddwl—ac nid wyf yn sôn amdano fe, oherwydd nid yw'n rhywbeth y mae wedi ei ddweud, ond rwyf wedi clywed Peter Lilley yn ei ddweud, John Redwood a Patrick Minford, sydd i gyd wedi dweud yn y bôn y dylem ni gael mynediad di-dariff ar gyfer yr holl nwyddau a weithgynhyrchir a phob math o fwyd. Byddai hynny’n dinistrio ffermio, mi ddywedaf i hynny wrthych chi nawr, a byddai'n dinistrio ein diwydiant gweithgynhyrchu. Y quid pro quo fyddai mynediad at farchnadoedd newydd ar gyfer gwasanaethau ariannol. Mewn geiriau eraill, cyn belled bod Dinas Llundain yn iawn, yna nid oes ots am neb arall. Ni all hynny byth fod yn sefyllfa dderbyniol i unrhyw un ohonom ni yng Nghymru. Nid yw'n farn a rennir, er tegwch, gan bawb yn ei blaid, ond, serch hynny, mae'n farn yr wyf i wedi ei chlywed yn cael ei mynegi gan lawer ar asgell dde ei blaid.
Diolch i’r Prif Weinidog.