Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w gwneud i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad ar yr M4 yn syth ar ôl y datganiad busnes, ac mae'r datganiad ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi ei ohirio tan 18 Hydref.
Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.